YouVersion Logo
Search Icon

Salm 52

52
1O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn / dy ddryg/ioni :
yn erbyn y / duwiol / yr holl / amser?
2Yr wyt yn / cynllwyn / distryw :
y mae dy dafod fel / ellyn / miniog · ti / dwyllwr.
3Yr wyt yn caru drygioni’n / fwy · na dai/oni :
a chelwydd yn / fwy na / dweud y / gwir.
4Yr wyt yn caru pob / gair di/faol :
ac / iaith – / dwyll/odrus.
5‡ Bydd Duw’n dy dynnu i / lawr am / byth :
bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o’th babell · ac yn dy ddad/wreiddio · o / dir y / byw.
6Bydd y cyfiawn yn gweld / ac yn / ofni :
yn chwerthin / am ei / ben a / dweud,
7“Dyma’r un na wnaeth / Dduw yn / noddfa :
ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau · a cheisio noddfa / yn ei / gyfoeth · ei / hun.”
8Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd / yn nhŷ / Dduw :
ymddiriedaf yn ffydd/londeb / Duw byth / bythoedd.
9Diolchaf iti hyd byth am yr / hyn a / wnaethost :
cyhoeddaf dy enw · oherwydd / da · yw y/mysg · dy ffydd/loniaid.

Currently Selected:

Salm 52: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in