Salm 5
5
1Gwrando ar fy / ngeiriau / Arglwydd :
y/styr–/ia fy / nghwynfan;
2Clyw fy / nghri am / gymorth :
fy / Mrenin / a’m – / Duw.
3aArnat ti y gwe/ddïaf / Arglwydd :
yn y / bore · fe / glywi · fy / llais.
3bYn y bore paratoaf / ar dy / gyfer :
ac / fe ddis/gwy–/liaf.
4Oherwydd nid wyt Dduw sy’n / hoffi · dry/gioni :
ni chaiff y / drwg · aros / gyda / thi,
5Ni all y trahaus / sefyll · o’th / flaen :
yr wyt yn casáu’r / holl wneu/thurwyr · dry/gioni
6Ac yn difetha’r rhai sy’n / dweud – / celwydd :
ffieiddia’r Arglwydd un / gwaedlyd / a thwy/llodrus.
7Ond oherwydd dy gariad mawr / dof fi · i’th / dŷ :
plygaf yn dy deml / sanctaidd · mewn / parch i / ti.
8Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd / fy nge/lynion :
gwna dy / ffordd yn / union · o’m / blaen.
9aOherwydd nid oes coel / ar eu / geiriau :
y mae / dinistr / o’u – / mewn;
9bBedd agored / yw eu / llwnc :
a’u / tafod · yn / llawn – / gweniaith.
10aDwg gosb / arnynt · O / Dduw :
bydded iddynt / syrthio / trwy · eu cyn/llwynion;
10bBwrw hwy ymaith yn eu / holl be/chodau :
am iddynt / wrthry/fela · yn dy / erbyn.
11aOnd bydded i bawb sy’n llochesu ynot ti / lawen/hau :
a chanu / mewn lla/wenydd · yn / wastad;
11bBydd yn amddiffyn dros y rhai sy’n / caru · dy / enw :
fel y bydd iddynt orfo/leddu / ynot / ti.
12Oherwydd yr wyt ti, Arglwydd, yn ben/dithio’r / cyfiawn :
ac y mae dy ffafr yn ei am/ddiffyn / fel – / tarian.
Currently Selected:
Salm 5: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009