Salm 4
4
1Ateb fi pan alwaf, O Dduw / fy nghyf/iawnder :
pan oeddwn mewn cyfyngder gwaredaist fi ·
bydd drugarog / wrthyf · a / gwrando · fy / ngweddi.
2Bobl, am ba hyd y bydd fy ngo/goniant · yn / warth :
ac y byddwch yn caru gwagedd / ac yn / ceisio / celwydd?
3Deallwch fod yr Arglwydd wedi neilltuo’r ffyddlon / iddo’i / hun :
y mae’r Arglwydd yn / gwrando · pan / alwaf / arno.
4Er i chwi gynddeiriogi / peidiwch · â / phechu :
er i chwi ymson ar eich / gwely / byddwch / ddistaw.
5Offrymwch a/berthau / cywir :
ac ymddir/iedwch / yn yr / Arglwydd.
6Y mae llawer yn dweud, “Pwy a ddengys i / ni ddai/oni?” :
Cyfoded llewyrch dy / wyneb / arnom / Arglwydd.
7Rhoddaist fwy o lawenydd / yn fy / nghalon :
na’r eiddo hwy pan oedd / llawer · o / ŷd a / gwin.
8Yn awr gorweddaf mewn / heddwch · a / chysgu :
oherwydd ti yn unig, Arglwydd, sy’n / peri · imi / fyw’n ddi/ogel.
Currently Selected:
Salm 4: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009