Salm 119
119
1 א Aleff
1Gwyn eu byd y rhai / perffaith · eu / ffordd :
y rhai sy’n / rhodio · yng / nghyfraith · yr / Arglwydd.
2Gwyn eu byd y rhai sy’n cadw ei / farne·di/gaethau :
ac yn ei geisio / ef â’u / holl – / galon,
3Y rhai nad ydynt wedi gwneud / unrhyw / ddrwg :
ond sy’n rhodio / yn ei / ffyrdd – / ef.
4Yr wyt ti wedi gwneud dy o/fynion · yn / ddeddfau :
i’w / ca–/dw’n – / ddyfal.
5O na allwn gerdded / yn un/ionsyth :
a / chadw / dy – / ddeddfau!
6Yna ni’m / cywi/lyddir :
os cadwaf fy llygaid / ar dy / holl orc/hmynion.
7Fe’th glodforaf di â / chalon / gywir :
wrth imi ddysgu / am dy / farnau / cyfiawn.
8Fe / gadwaf · dy / ddeddfau :
paid â’m / ga–/dael yn / llwyr.
2 ב Beth
9Sut y ceidw’r ifanc ei / lwybr yn / lân? :
Trwy / gadw · dy / air – / di.
10Fe’th geisiais di / â’m holl / galon :
paid â gadael imi wyro / oddi / wrth · dy orch/mynion.
11Trysorais dy eiriau / yn fy / nghalon :
rhag imi / bechu / yn dy / erbyn.
12Bendigedig wyt / ti, O / Arglwydd :
dysg / i mi / dy–/ddeddfau.
13Bûm yn ailadrodd / â’m gwe/fusau :
holl / farnau / dy – / enau.
14Ar hyd ffordd dy / farne·di/gaethau :
cefais lawenydd / sydd uwch/law pob / cyfoeth.
15Byddaf yn myfyrio ar dy o/fynion / di :
ac yn cadw dy / lwybrau · o / flaen fy / llygaid.
16Byddaf yn ymhyfrydu / yn dy / ddeddfau :
ac / nid ang/hofiaf · dy / air.
3 ג Gimel
17Bydd dda / wrth dy / was :
gad imi fyw / ac fe / gadwaf · dy / air.
18A/gor fy / llygaid :
imi weld rhyfe/ddodau / dy – / gyfraith.
19Ymdeithydd wyf fi / ar y / ddaear :
paid â chuddio dy orch/mynion / oddi / wrthyf.
20Y mae fy nghalon yn di/hoeni · o / hiraeth :
am dy / farnau / di bob / amser.
21Fe geryddaist / y tra/haus :
y rhai melltigedig sy’n gwyro / oddi / wrth · dy orch/mynion.
22Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd / a’u sar/had :
oherwydd bûm / ufudd · i’th / farne·di/gaethau.
23Er i dywysogion eistedd mewn / cynllwyn · yn / f’erbyn :
bydd dy was yn my/fyrio / ar dy / ddeddfau;
24Y mae dy farnedigaethau’n hy/frydwch · i / mi :
a hefyd / yn gyng/horwyr / imi.
4 ד Daleth
25Y mae fy enaid yn glynu / wrth y / llwch :
adfywia / fi yn / ôl dy / air.
26Adroddais am fy hynt ac a/tebaist / fi :
dysg i / mi – / dy – / ddeddfau.
27Gwna imi ddeall ffordd / dy o/fynion :
ac fe fyfyriaf / ar dy / ryfe/ddodau.
28Y mae fy enaid yn an/niddig · gan / ofid :
cryf/ha · fi yn / ôl dy / air.
29Gosod ffordd twyll ym/hell · oddi / wrthyf :
a rho / imi / ras dy / gyfraith.
30Dewisais / ffordd ffydd/londeb :
a gosod dy / farnau / o’m – / blaen.
31Glynais wrth dy / farne·di/gaethau :
O Arglwydd / paid â’m / cywi/lyddio.
32Dilynaf ffordd / dy orch/mynion :
o/herwydd · e/hangaist · fy / neall.
5 ה He
33O Arglwydd, dysg fi yn / ffordd dy / ddeddfau :
ac o’i / chadw / fe gaf / wobr.
34Rho imi ddeall, er mwyn imi ufudd/hau i’th / gyfraith :
a’i / chadw / â’m holl / galon;
35Gwna imi gerdded yn llwybr / dy orch/mynion :
oherwydd yr wyf yn / ymhy/frydu / ynddo.
36Tro fy nghalon at dy / farne·di/gaethau :
yn / hytrach / nag at / elw;
37Tro ymaith fy llygaid / rhag gweld / gwagedd :
ad/fywia / fi â’th / air.
38Cyflawna i’th was / yr a/ddewid :
a roddaist / i’r rhai / sy’n dy / ofni.
39Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf / yn ei / ofni :
oherwydd y / mae dy / farnau’n / dda.
40Yr wyf yn dyheu am / dy o/fynion :
ad/fywia · fi / â’th gy/fiawnder.
6 ו Waw
41Pâr i’th gariad ddod / ataf · O / Arglwydd :
a’th iachaw/dwriaeth · yn / ôl · dy a/ddewid;
42Yna rhoddaf ateb i’r rhai / sy’n fy / ngwatwar :
oherwydd ymddir/iedais / yn dy / air.
43Paid â chymryd gair y gwir/ionedd · o’m / genau :
oherwydd fe o/beithiais / yn dy / farnau.
44Cad/waf dy / gyfraith :
bob / amser / hyd byth / bythoedd.
45Rhodiaf oddi / amgylch · yn / rhydd :
oherwydd / ceisiais / dy o/fynion.
46Siaradaf am dy farnedigaethau ger/bron bren/hinoedd :
ac / ni fydd / arnaf · gy/wilydd;
47Ymhyfrydaf / yn dy · orch/mynion :
am fy / mod yn / eu – / caru.
48Parchaf dy orchmynion am fy / mod · yn eu / caru :
a my/fyriaf / ar dy / ddeddfau.
7 ז Sayin
49Cofia dy / air i’th / was :
y gair y gwnaethost i/mi ym/ddiried / ynddo.
50Hyn fu fy ng/hysur · mewn / adfyd :
fod dy a/ddewid · di / yn · fy ad/fywio.
51Y mae’r trahaus yn fy / ngwawdio · o / hyd :
ond ni throis / oddi / wrth dy / gyfraith.
52Yr wyf yn cofio dy / farnau · e/rioed :
ac yn cael / cysur / ynddynt · O / Arglwydd.
53Cydia digofaint ynof oherwydd y / rhai dryg/ionus :
sy’n / gwrthod / dy – / gyfraith.
54Daeth dy ddeddfau’n / gân i / mi :
ymhle / bynnag · y / bûm yn / byw.
55Yr wyf yn cofio dy enw yn y / nos, O / Arglwydd :
ac fe / gadwaf / dy – / gyfraith.
56Hyn sydd / wir am/danaf :
imi / ufudd/hau · i’th o/fynion.
8 ח Cheth
57Ti yw fy / rhan, O / Arglwydd :
a/ddewais / gadw · dy / air.
58Yr wyf yn erfyn arnat / â’m holl / galon :
bydd drugarog / wrthyf · yn / ôl · dy a/ddewid.
59Pan feddyliaf / am fy / ffyrdd :
trof fy nghamre’n / ôl · at dy / farne·di/gaethau;
60Brys/iaf heb / oedi :
i / gadw / dy orch/mynion.
61Er i glymau’r drygionus dyn/hau am/danaf :
eto / nid ang/hofiais · dy / gyfraith.
62Codaf ganol nos i’th fo/liannu / di :
am dy / far–/nau – / cyfiawn.
63Yr wyf yn gymar i bawb / sy’n dy / ofni :
i’r rhai sy’n / ufudd/hau · i’th o/fynion.
64Y mae’r ddaear, O Arglwydd, yn llawn / o’th ffydd/londeb :
dysg i / mi – / dy – / ddeddfau.
9 ט Teth
65Gwnaethost dda/ioni · i’th / was :
yn / unol · â’th / air, O / Arglwydd.
66Dysg imi ddirnadaeth / a gwy/bodaeth :
oherwydd yr wyf yn ym/ddiried · yn / dy orch/mynion.
67Cyn imi gael fy ngheryddu euthum / ar gy/feiliorn :
ond yn awr yr / wyf yn / cadw · dy / air.
68Yr wyt ti yn dda, ac yn / gwneud da/ioni :
dysg i / mi – / dy – / ddeddfau.
69Y mae’r trahaus yn fy mhar/dduo · â / chelwydd :
ond yr wyf fi’n ufuddhau i’th o/fynion · â’m / holl – / galon;
70Y mae eu calon hwy’n / drwm gan / fraster :
ond yr wyf fi’n ymhy/frydu / yn dy / gyfraith.
71Mor dda yw imi gael / fy nghe/ryddu :
er mwyn / imi · gael / dysgu · dy / ddeddfau!
72Y mae cyfraith dy enau yn / well i / mi :
na / miloedd · o / aur ac / arian.
10 י Iodd
73Dy ddwylo di a’m / gwnaeth · ac a’m / lluniodd :
rho imi ddeall i / ddysgu / dy orch/mynion.
74Pan fydd y rhai sy’n dy ofni / yn fy / ngweld :
fe lawenychant am fy mod yn go/beithio / yn dy / air.
75Gwn, O Arglwydd, fod dy / farnau’n / gyfiawn :
ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt / wedi / fy nghe/ryddu.
76Bydded dy gariad yn / gysur · i / mi :
yn unol / â’th a/ddewid · i’th / was.
77Pâr i’th drugaredd ddod ataf, fel y / byddaf / fyw :
oherwydd y mae dy gyfraith / yn hy/frydwch · i / mi.
78Cywilyddier y trahaus oherwydd i’w celwydd / fy ni/weidio :
ond byddaf fi’n my/fyrio / ar · dy o/fynion.
79Bydded i’r rhai sy’n dy ofni droi / ataf / fi :
iddynt gael / gwybod · dy / farne·di/gaethau.
80Bydded fy nghalon bob amser / yn dy / ddeddfau :
rhag imi / gael fy / nghywi/lyddio.
11 כ Caff
81Y mae fy enaid yn dyheu am dy / iachaw/dwriaeth :
ac yn go/beithio / yn dy / air;
82Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am / dy a/ddewid :
dywedaf, “Pa bryd y / byddi’n / fy nghy/suro?”
83Er imi grebachu fel costrel / groen mewn / mwg :
eto / nid ang/hofiaf · dy / ddeddfau.
84Am ba hyd y / disgwyl · dy / was :
cyn iti roi / barn ar / fy er/lidwyr?
85Y mae gwŷr trahaus, rhai sy’n anwy/byddu · dy / gyfraith :
wedi / cloddio / pwll · ar fy / nghyfer.
86Y mae dy holl orch/mynion · yn / sicr :
pan fyddant yn fy erlid â chelwydd / cynor/thwya / fi.
87Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi / ar y / ddaear :
ond eto ni throis fy / nghefn ar / dy o/fynion.
88Yn ôl dy gariad ad/fywia / fi :
ac fe gadwaf / far·nedi/gaethau · dy / enau.
12 ל Lamedd
89Y mae dy air, O Arglwydd / yn dra/gwyddol :
wedi ei osod yn se/fydlog / yn y / nefoedd.
90Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth / a chen/hedlaeth :
seiliaist y ddaear / ac y / mae’n – / sefyll.
91Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn / sefyll · hyd / heddiw :
oherwydd / gweision · i / ti yw’r / cyfan.
92Oni bai i’th gyfraith fod yn hy/frydwch · i / mi :
byddai wedi darfod am/danaf / yn fy / adfyd;
93Nid anghofiaf dy o/fynion · hyd / byth :
oherwydd trwyddynt / hwy ad/fywiaist / fi.
94Eiddot ti ydwyf · gwa/reda / fi :
oherwydd / ceisiais / dy o/fynion.
95Y mae’r drygionus yn gwylio amdanaf / i’m di/nistrio :
ond fe ystyriaf / fi dy / farne·di/gaethau.
96Gwelaf fod popeth yn / dod i / ben :
ond nid oes terfyn / i’th or/chymyn / di.
13 מ Mem
97O fel yr wyf yn / caru · dy / gyfraith :
hi yw fy my/fyrdod / drwy’r – / dydd.
98Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach / na’m ge/lynion :
oherwydd y mae / gyda / mi bob / amser.
99Yr wyf yn fwy deallus na’m / holl ath/rawon :
oherwydd bod dy farnedi/gaethau’n · fy/fyrdod · i / mi.
100Yr wyf yn deall yn well / na’r rhai / hen :
oherwydd imi / ufudd/hau · i’th o/fynion.
101Cedwais fy nhraed rhag / pob llwybr / drwg :
er / mwyn · imi / gadw · dy / air.
102Nid wyf wedi troi oddi / wrth dy / farnau :
oherwydd / ti fu’n / fy · nghyfa/rwyddo.
103Mor felys yw dy a/ddewid · i’m / genau :
me/lysach · na / mêl · i’m gwe/fusau.
104O’th ofynion / di y · caf / ddeall :
dyna pam yr wyf yn ca/sáu – / llwybrau / twyll.
14 נ Nun
105Y mae dy air yn / llusern · i’m / troed :
ac / yn o/leuni · i’m / llwybr.
106Tyngais lw, a / gwneud a/dduned :
i / gadw · dy / farnau / cyfiawn.
107Yr wyf mewn / gofid / mawr :
O Arglwydd, adfywia / fi yn / ôl dy / air.
108Derbyn deyrnged fy / ngenau · O / Arglwydd :
a dysg i / mi dy / farne·di/gaethau.
109Bob dydd y mae fy mywyd / yn fy / nwylo :
ond nid / wyf yn · ang/hofio · dy / gyfraith.
110Gosododd y drygionus / rwyd i / mi :
ond nid wyf wedi gwyro / oddi / wrth · dy o/fynion.
111Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth / imi · am / byth :
oherwydd y / maent yn / llonder · i’m / calon.
112Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufudd/hau i’th / ddeddfau :
y mae eu / gwobr yn / dra–/gwyddol.
15 ס Samech
113Yr wyf yn casáu / rhai an/wadal :
ond yn / car–/u dy / gyfraith.
114Ti yw fy / lloches · a’m / tarian :
yr wyf yn go/beithio / yn dy / air.
115Trowch ymaith oddi wrthyf / chwi rai / drwg :
er mwyn imi / gadw · gorch/mynion · fy / Nuw.
116Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y / byddaf / fyw :
ac na chyw/lyddier · fi / yn fy / hyder.
117Dal fi i fyny, fel y caf / ware/digaeth :
imi / barchu · dy / ddeddfau · yn / wastad.
118Yr wyt yn gwrthod pawb sy’n gwyro oddi / wrth dy / ddeddfau :
oherwydd / mae eu / twyll yn / ofer.
119Yn sothach yr ystyri holl rai dryg/ionus · y / ddaear :
am hynny yr wyf yn / caru · dy / farne·di/gaethau.
120Y mae fy nghnawd yn crynu / gan dy / arswyd :
ac yr / wyf yn / ofni · dy / farnau.
16 ע Ayin
121Gwneuthum farn / a chyf/iawnder :
paid â’m / gadael / i’m gor/thrymwyr.
122Bydd yn feichiau er / lles dy / was :
paid â gadael i’r tra/haus – / fy ngorth/rymu.
123Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy / iachaw/dwriaeth :
ac am dy a/ddewid · o / fuddu/goliaeth.
124Gwna â’th was yn / ôl dy / gariad :
a / dysg i / mi dy / ddeddfau.
125Dy was wyf fi · rho / imi / ddeall :
i / wybod · dy / farne·di/gaethau.
126Y mae’n amser i’r / Arglwydd · weith/redu :
o/herwydd / torrwyd · dy / gyfraith.
127Er hynny yr wyf yn caru / dy orch/mynion :
yn fwy nag / aur · nag / aur – / coeth.
128Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy / holl o/fynion :
a cha/sâf – / lwybrau / twyll.
17 פ Pe
129Y mae dy farned/gaethau’n · rhy/feddol :
am / hynny · yr / wyf · yn eu / cadw.
130Pan ddatguddir dy air, bydd / yn go/leuo :
ac / yn rho / deall i’r / syml.
131Yr wyf yn agor fy / ngheg mewn / blys :
oherwydd yr wyf yn dy/heu am / dy orch/mynion.
132Tro ataf a / bydd dru/garog :
yn ôl dy arfer i’r / rhai sy’n / caru · dy / enw.
133Cadw fy ngham yn sicr / fel yr · a/ddewaist :
a phaid â gadael i ddryg/ioni / fy meis/troli.
134Rhyddha fi oddi wrth / ormes / dynol :
er mwyn imi ufudd/hau · i’th o/fynion / di.
135Bydded llewyrch dy wyneb / ar dy / was :
a / dysg i / mi dy / ddeddfau.
136Y mae fy llygaid yn / ffrydio / dagrau :
am nad yw / pobl yn / cadw · dy / gyfraith.
18 צ Tsaddi
137Cyfiawn wyt / ti, O / Arglwydd :
a / chywir / yw dy / farnau.
138Y mae’r barnedi/gaethau · a / roddi :
yn / gyfiawn · ac / yn gwbl / ffyddlon.
139Y mae fy nghynddaredd / yn fy / ysu :
am fod fy ngelynion / yn ang/hofio · dy / eiriau.
140Y mae dy addewid wedi ei / phrofi’n / llwyr :
ac y / mae dy / was · yn ei / charu.
141Er fy mod i yn fychan ac / yn ddi/nod :
nid wyf yn ang/hofio / dy o/fynion.
142Y mae dy gyfiawnder di yn gyf/iawnder · tra/gwyddol :
ac y mae dy / gyfraith / yn wir/ionedd.
143Daeth cyfyngder a gofid / ar fy / ngwarthaf :
ond yr wyf yn ymhy/frydu / yn · dy orch/mynion.
144Y mae dy farnedigaethau di’n / gyfiawn / byth :
rho imi ddeall / fel y / byddaf / fyw.
19 ק Coff
145Gwaeddaf / â’m holl / galon :
ateb fi, Arglwydd, ac fe / fyddaf / ufudd · i’th / ddeddfau.
146Gwaeddaf arnat ti · gwa/reda / fi :
ac fe / gadwaf · dy / farne·di/gaethau.
147Codaf cyn y wawr a / gofyn · am / gymorth :
a go/beithiaf / yn dy / eiriau.
148Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwr/iaethau’r / nos :
i fy/fyrio / ar · dy a/ddewid.
149Gwrando fy llef yn / ôl dy / gariad :
O Arglwydd, yn ôl dy / farnau · ad/fywia / fi.
150Y mae fy erlidwyr dichellgar yn / ago/sáu :
ond y maent yn / bell · oddi / wrth dy / gyfraith.
151Yr wyt ti yn / agos · O / Arglwydd :
ac y mae dy holl orch/mynion / yn wir/ionedd.
152Gwn erioed am dy / farne·di/gaethau :
i / ti eu · se/fydlu · am / byth.
20 ר Resh
153Edrych ar fy adfyd a / gwared / fi :
oherwydd / nid ang/hofiais · dy / gyfraith.
154Amddiffyn fy achos ac / achub / fi :
adfywia / fi yn / ôl · dy a/ddewid.
155Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi / wrth y · dryg/ionus :
oherwydd nid / ydynt · yn / ceisio · dy / ddeddfau.
156Mawr yw dy dru/garedd · O / Arglwydd :
adfywia / fi yn / ôl dy / farn.
157Y mae fy erlidwyr a’m gelynion / yn ni/ferus :
ond eto ni wyrais oddi / wrth dy / farne · di/gaethau.
158Gwelais y rhai twyllodrus / a ffi/eiddiais :
am nad / ydynt · yn / cadw · dy / air.
159Gwêl fel yr wyf yn caru / dy o/fynion :
O Arglwydd, adfywia / fi yn / ôl dy / gariad.
160Hanfod dy air / yw gwir/ionedd :
ac y mae dy holl farnau / cyfiawn / yn dra/gwyddol.
21 ש Shin
161Y mae tywysogion yn fy erlid / yn ddi/achos :
ond dy air / di yw / arswyd · fy / nghalon.
162Yr wyf yn llawenhau o achos / dy a/ddewid :
fel un / sy’n · cael / ysbail / fawr.
163Yr wyf yn casáu ac yn ffi/eiddio / twyll :
ond yn / caru · dy / gyfraith / di.
164Seithwaith y dydd yr wyf / yn dy / foli :
o/herwydd · dy / farnau / cyfiawn.
165Caiff y rhai sy’n caru dy / gyfraith · wir / heddwch :
ac nid oes dim yn / peri / iddynt / faglu.
166Yr wyf yn disgwyl am dy iachaw/dwriaeth · O / Arglwydd :
ac yn / ufudd/hau · i’th orch/mynion.
167Yr wyf yn cadw dy / farne·di/gaethau :
ac / yn eu / caru’n / fawr.
168Yr wyf yn ufudd i’th ofynion a’th / farne · di/gaethau :
oherwydd y mae / fy holl / ffyrdd o’th / flaen.
22 ת Taw
169Doed fy llef / atat · O / Arglwydd :
rho imi / ddeall · yn / ôl dy / air.
170Doed fy nei/syfiad / atat :
gwared / fi yn / ôl · dy a/ddewid.
171Bydd fy ngwefusau’n / tywallt / moliant :
am iti / ddysgu · i / mi dy / ddeddfau.
172Bydd fy nhafod yn canu am / dy a/ddewid :
oherwydd y mae dy / holl orch/mynion · yn / gyfiawn.
173Bydded dy law yn barod i’m / cynor/thwyo :
oherwydd yr wyf wedi / dewis / dy o/fynion.
174Yr wyf yn dyheu am dy iachaw/dwriaeth · O / Arglwydd :
ac yn ymhy/frydu / yn dy / gyfraith.
175Gad imi fyw i’th fol/iannu / di :
a bydded i’th / farnau · fy / nghynor/thwyo.
176Euthum ar gyfeiliorn fel / dafad · ar / goll :
chwilia am dy was, oherwydd nid ang/hofiais / dy orch/mynion.
Currently Selected:
Salm 119: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009