Bible App logo
Search Icon

Salm 118

118
1Diolchwch i’r Arglwydd, o/herwydd · da / yw :
ac y mae ei / gariad / hyd – / byth.
2Dyweded / Israel · yn / awr :
“Y mae ei / gariad / hyd – / byth.”
3Dyweded tŷ / Aaron · yn / awr :
“Y mae ei / gariad / hyd – / byth.”
4Dyweded y rhai sy’n / ofni’r / Arglwydd :
“Y mae ei / gariad / hyd – / byth.”
5O’m cyfyngder gwaeddais / ar yr / Arglwydd :
atebodd / yntau / fi · a’m rhydd/hau.
6Y mae’r Arglwydd o’m / tu, nid / ofnaf :
beth a / wna – / pobl i / mi?
7Y mae’r Arglwydd o’m tu i’m / cynorth/wyo :
a gwelaf ddiwedd ar y / rhai sy’n / fy ngha/sáu.
8Gwell yw llochesu / yn yr / Arglwydd :
nag ym/ddiried / yn neb / meidrol.
9Gwell yw llochesu / yn yr / Arglwydd :
nag ym/ddiried / mewn · tywy/sogion.
10Daeth yr holl genhedloedd / i’m ham/gylchu :
yn enw’r / Arglwydd · fe’u / gyrraf / ymaith.
11Daethant i’m hamgylchu / ar bob / tu :
yn enw’r / Arglwydd · fe’u / gyrraf / ymaith.
12Daethant i’m hamgylchu fel gwenyn · a llosgi fel / tân mewn / drain :
yn enw’r / Arglwydd · fe’u / gyrraf / ymaith.
13Gwthiwyd fi’n galed nes fy / mod ar / syrthio :
ond cynor/thwyodd · yr / Arglwydd / fi.
14Yr Arglwydd yw fy / nerth a’m / cân :
ac / ef yw’r / un · a’m ha/chubodd.
15Clywch gân gwaredigaeth ym mhebyll / y rhai / cyfiawn :
“Y mae deheulaw’r Arglwydd / yn gweith/redu’n / rymus;
16Y mae deheulaw’r Arglwydd / wedi · ei / chodi :
y mae deheulaw’r Arglwydd / yn gweith/redu’n / rymus.”
17Nid marw / ond byw / fyddaf :
ac adroddaf / am weith/redoedd · yr / Arglwydd.
18Disgyblodd yr / Arglwydd · fi’n / llym :
ond ni roddodd / fi yn / nwylo · mar/wolaeth.
19Agorwch byrth cyf/iawnder · i / mi :
dof finnau i / mewn a / diolch · i’r / Arglwydd.
20Dyma / borth yr / Arglwydd :
y cyfiawn a / ddaw i / mewn – / drwyddo.
21Diolchaf i ti / am fy / ngwrando :
a dod yn / ware/digaeth · i / mi.
22Y maen a wrthododd yr / adei/ladwyr :
a / ddaeth yn / brif – / gonglfaen.
23Gwaith yr / Arglwydd · yw / hyn :
ac y mae’n rhy/feddod / yn ein / golwg.
24Dyma’r dydd y gweith/redodd · yr / Arglwydd :
gorfoleddwn a / llawen/hawn – / ynddo.
25Yr ydym yn erfyn, Arglwydd / achub / ni :
yr ydym yn erfyn / Arglwydd / rho – / lwyddiant.
26Bendigedig yw’r un sy’n dod yn / enw’r / Arglwydd :
bendithiwn / chwi o / dŷ’r – / Arglwydd.
27Yr Arglwydd sydd Dduw, rhoes o/leuni · i / mi :
â changau ymunwch yn yr orymdaith / hyd at / gyrn yr / allor.
28Ti yw fy Nuw, a rhoddaf / ddiolch · i / ti :
fy Nuw / fe’th ddyr/chafaf / di.
29Diolchwch i’r Arglwydd, o/herwydd · da / yw :
ac y mae ei / gariad / hyd – / byth.

Currently Selected:

Salm 118: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in