Marc 15
15
A.D. 33. —
1 Dwyn yr Iesu yn rhwym, a’i gyhuddo gerbron Peilat. 15 Wrth floedd y bobl gyffredin, gollwng Barabbas y llofrudd yn rhydd, a thraddodi yr Iesu i’w groeshoelio. 17 Ei goroni ef â drain, 19 poeri arno, a’i watwar. 21 Efe yn diffygio yn dwyn ei groes. 27 Ei grogi ef rhwng dau leidr. 29 Y mae yn dioddef difenwad yr Iddewon: 39 eto y canwriad yn cyffesu ei fod ef yn Fab Duw: 43 a Joseff yn ei gladdu ef yn barchedig.
1Ac #Salm 2:2; Mat 27:1; Luc 22:66; 23:1; Ioan 18:28yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat. 2A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 3A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef #15:3 am lawer.o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim. 4#Mat 27:13A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. 5Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat. 6Ac #Mat 27:15; Luc 23:17; Ioan 18:39ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. 7Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. 8A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt. 9A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 10(Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.) 11#Act 3:14A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. 12A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? 13A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef. 14Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.
15 #
Mat 27:26; Ioan 19:1 A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio. 16A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin; 17Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben; 18Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon. 19A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef. 20Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio. 21A #Mat 27:32; Luc 23:26hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef. 22#Luc 23:33; Ioan 19:17A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r benglog: 23Ac a roesant iddo i’w yfed win #15:23 cymysgedig â myrr.myrllyd: eithr efe nis cymerth. 24Ac wedi iddynt ei groeshoelio, #Salm 22:18; Ioan 19:23hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un. 25#Mat 27:45; Luc 23:44; Ioan 19:14A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef. 26Ac #Mat 27:37; Ioan 19:19yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON. 27#Mat 27:38A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo. 28A’r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, #Esa 53:12; Luc 22:37Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir. 29#Salm 22:7A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, #Pen 14:58; Ioan 2:19tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau, 30Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes. 31Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda’r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared. 32Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. #Luc 23:39A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a’i difenwasant ef. 33A #Mat 27:45; Luc 23:44phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl #15:33 dir.ddaear hyd y nawfed awr. 34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, #Salm 22:1; Mat 27:46Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 35A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias. 36Ac #Ioan 19:29un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac #Salm 69:21a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr. 37#Mat 27:50; Ioan 19:30A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r ysbryd. 38#Mat 27:51; Luc 23:45A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. 39#Mat 27:54; Luc 23:47A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. 40#Mat 27:55Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; 41Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, #Luc 8:2, 3a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.
42 #
Mat 27:57; Luc 23:50; Ioan 19:38 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) 43Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau #Luc 2:25, 38yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. 44A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. 45A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. 46Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. 47A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.
Currently Selected:
Marc 15: BWM1955C
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society