Marc 14
14
A.D. 33. —
1 Cyd‐fwriad yn erbyn Crist. 3 Gwraig yn tywallt ennaint gwerthfawr ar ei ben ef. 10 Jwdas yn gwerthu ei feistr am arian. 12 Crist ei hun yn rhagfynegi y bradychai un o’i ddisgyblion ef. 22 Wedi darparu a bwyta y pasg, y mae yn ordeinio ei swper: 26 yn hysbysu ymlaen llaw y ffoai ei holl ddisgyblion, ac y gwadai Pedr ef. 43 Jwdas yn ei fradychu ef â chusan. 46 Ei ddala ef yn yr ardd. 53 Cynulleidfa yr Iddewon yn achwyn arno ar gam, ac yn ei farnu yn annuwiol, 65 ac yn ei amharchu yn gywilyddus. 66 Pedr yn ei wadu ef deirgwaith.
1Ac wedi #Mat 26:2; Luc 22:1; Ioan 11:55; 13:1deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: 2Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
3 #
Mat 26:6; Ioan 12:1, 3 A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard #14:3 pur.gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. 4Ac yr oedd rhai yn #14:4 soredig.anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? 5Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. 6A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. 7Canys #Deut 15:11bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. 8Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. 9Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
10 #
Mat 26:14; Luc 22:4 A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt. 11A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
12 #
Mat 26:17
A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan #14:12 laddent.aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta’r pasg? 13Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef. 14A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion, fwyta’r pasg? 15Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni. 16A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg. 17A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda’r deuddeg. 18#Mat 26:20Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a’m bradycha i. 19Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi? 20Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe. 21Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid.
22 #
Mat 26:26; Luc 22:19; 1 Cor 11:23 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 23Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono. 24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer. 25Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
26Ac wedi iddynt ganu #14:26 emyn.mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 27#Mat 26:31A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, #Sech 13:7Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. 28Eithr #Pen 16:7wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 29#Mat 26:33; Luc 22:33; Ioan 13:37Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi. 30A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith. 31Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll. 32#Mat 26:36; Luc 22:29; Ioan 18:1A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. 33Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. 34Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Ioan 12:27Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. 35Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. 36Ac efe a ddywedodd, #Rhuf 8:15; Gal 4:6Abba, Dad, #Heb 5:7pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: #Ioan 6:38eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. 37Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? 38Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned #14:38 i brofedigaeth.mewn temtasiwn. #Gal 5:17Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. 39Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. 40Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo. 41Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. 42Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
43 #
Mat 26:47; Luc 22:47; Ioan 18:3 Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid. 44A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr. 45A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a’i cusanodd ef.
46A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef. 47A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef. 48A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i? 49Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond #Salm 22:6; Esa 53:7, &crhaid yw cyflawni’r ysgrythurau. 50A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant. 51A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef. 52A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
53 #
Mat 26:57; Luc 22:54; Ioan 18:13 A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef. 54A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân. 55#Mat 26:59A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. 56Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson. 57A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, 58Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, #Pen 15:29; Ioan 2:19Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. 59Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson. 60A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 61Ac #Esa 53:7efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? 62A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: #Mat 24:30; 26:64; Luc 22:69a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef. 63Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? 64Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. 65A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â #14:65 Neu, chledrau eu dwylo.gwiail.
66 #
Mat 26:69; Luc 22:55; Ioan 18:16 Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad: 67A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth. 68Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd. 69#Mat 26:71; Luc 22:58; Ioan 18:25A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt. 70Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; #Act 2:7canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg. 71Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano. 72A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. #Mat 26:75A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. #14:72 Neu, Ac fe wylodd yn dost, neu, Ac fe ddechreuodd wylo.A chan ystyried hynny, efe a wylodd.
Currently Selected:
Marc 14: BWM1955C
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society