Marc 16
16
A.D. 33. —
1 Angel yn mynegi atgyfodiad Crist i dair o wragedd. 9 Crist ei hun yn ymddangos i Mair Magdalen: 12 i ddau oedd yn myned i’r wlad: 14 yna i’r apostolion, 15 y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu yr efengyl: 19 mae yn esgyn i’r nefoedd.
1Ac #Mat 28:1; Luc 24:1; Ioan 20:1wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, #Luc 23:56a brynasant #16:1 lysiau.beraroglau, i ddyfod i’w eneinio ef. 2#Luc 24:1; Ioan 20:1Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf #16:2 o’r Sabothau.o’r wythnos, y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi. 3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd? 4(A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn. 5Ac #Ioan 20:11wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant. 6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. 7Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, #Mat 26:32; Pen 14:28fel y dywedodd i chwi. 8Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. #Edrych Mat 28:8; Luc 24:9Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
9A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, #Ioan 20:14a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, #Luc 8:2o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid. 10Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain. 11A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
12Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall #Luc 24:13i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad. 13A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
14 #
Luc 24:36; Ioan 20:19; 1 Cor 15:5 Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd #16:14 Neu, ynghyd.i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi. 15#Mat 28:19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. 16#Ioan 3:18, 36Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: #Ioan 12:48eithr y neb ni chredo a gondemnir. 17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: #Luc 10:17; Act 5:16; 8:7; 16:18; 19:12Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac #Act 2:4; 10:46; 19:6; 1 Cor 12:10, 28â thafodau newyddion y llefarant; 18#Luc 10:19; Act 28:5Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; #Act 9:17; 28:8ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
19Ac felly yr Arglwydd, #Act 1:2, 3wedi llefaru wrthynt, #Luc 24:51a gymerwyd i fyny i’r nef, #Salm 110:1ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, #Act 14:3; Heb 2:4ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
Currently Selected:
Marc 16: BWM1955C
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society