YouVersion Logo
Search Icon

Marc 13

13
A.D. 33. —
1 Crist yn rhagfynegi dinistr y deml: 9 yr erlidiau o achos yr efengyl: 10 y bydd rhaid pregethu yr efengyl i’r Cenhedloedd oll: 14 y mawr gystuddiau a ddigwyddai i’r Iddewon: 24 a dull ei ddyfodiad ef i’r farn: 32 o ran na ŵyr neb yr awr, y dylai pob dyn wylied a gweddïo, rhag ein cael yn amharod pan ddêl efe at bob un trwy farwolaeth.
1Ac #Mat 24:1; Luc 21:5fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. 2A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? #Luc 19:44ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. 3Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo #13:3 yn ddirgel.o’r neilltu, 4#Mat 24:3Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? 5A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, #Eff 5:6; 2 Thess 2:3Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: 6Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 7Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. 8Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
9Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr #Mat 10:17, 18edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10Ac #Mat 24:14y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. 11#Mat 10:19; Luc 12:11; 21:14Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. 12#Micha 7:6A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. 13#Mat 24:9A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr #Mat 10:22y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 # Mat 24:15 Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, #Dan 9:27yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna #Luc 21:21y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: 15A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. 16A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. 17Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! 18Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. 19Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. 20Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, #13:20 Neu, ni byddai un cnawd yn gadwedig.ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. 21#Mat 24:23; Luc 17:23; 21:8Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch: 22Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, #13:22 i ddi‐droi, pe posibl.i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 23#2 Pedr 3:17Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.
24 # Luc 21:25 Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, 25A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. 26Ac #Dan 7:13, 14; Mat 16:27; 24:30 &c; Pen 14:62; Luc 21:27; Act 1:11; 1 Thess 4:16; 2 Thess 1:7, 10; Dat 1:7yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. 27Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. 28#Mat 24:32; Luc 21:29Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 29Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 30Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. 31Nef a daear a ânt heibio: ond #13:31 fy ngeiriau i.y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.
32Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. 33#Mat 24:42; 25:13; 1 Thess 5:6Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 34Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. 35Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) 36Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. 37A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

Currently Selected:

Marc 13: BWM1955C

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in