Marc 12
12
A.D. 33. —
1 Trwy ddameg y winllan a logwyd i lafurwyr anniolchgar, y mae Crist yn rhagfynegi gwrthodiad yr Iddewon, a galwad y Cenhedloedd: 13 y mae yn osgoi magl y Phariseaid a’r Herodianiaid ynghylch talu teyrnged i Cesar; 18 yn argyhoeddi amryfusedd y Sadwceaid, y rhai a wadent yr atgyfodiad; 28 yn ateb yr ysgrifenydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf: 35 yn beio ar dyb yr ysgrifenyddion am Grist; 38 ac yn gorchymyn i’r bobl ochelyd eu huchder a’u rhagrith hwy; 41 ac yn canmol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy na neb.
1Ac efe a #Mat 21:33; Luc 20:9ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 2Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan. 3A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw. 4A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith #12:4 wedi ei amharchu.yn amharchus. 5A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. 6Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. 7Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. 8A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan. 9Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. 10Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? #Salm 118:22Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl: 11Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni. 12A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
13A #Mat 22:15; Luc 20:20hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid, ac o’r Herodianiaid, i’w rwydo ef yn ei ymadrodd. 14Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi? 15Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. 16A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar. 17A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, #12:17 Telwch.Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid.
18 #
Mat 22:23; Luc 20:27 Daeth y Sadwceaid hefyd ato, #Act 23:8y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, 19Athro, #Deut 25:5Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 20Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had. 21A’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd. 22A hwy a’i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd. 23Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 24A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw? 25Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd. 26Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, #Exod 3:6Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? 27Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw’r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr.
28 #
Mat 22:35
Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? 29A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, #Deut 6:4; Luc 10:27Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: 30A châr yr Arglwydd dy Dduw #12:30 o’th.â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. 31A’r ail sydd gyffelyb iddo; #Lef 19:18; Mat 22:39; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn. 32A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe: 33A’i garu ef #12:33 o’r.â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau. 34A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
35 #
Mat 22:41; Luc 20:41 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 36Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, #Salm 110:1Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 37Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
38 #
Mat 23:1; Luc 20:46 Ac #Pen 4:2efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a #Luc 11:43chael cyfarch yn y marchnadoedd, 39A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; 40#Mat 23:14Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 #
Luc 21:1
A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian #2 Bren 12:9i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, #2 Cor 8:12fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 44Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, #Deut 24:6; Ioan 3:17 sef ei holl #12:44 gynhaliaeth.fywyd.
Currently Selected:
Marc 12: BWM1955C
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society