YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 23

23
1Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel; 2Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. 3Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw: 4Ac efe a fydd fel y bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. 5Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
6A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. 7Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.
8Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith. 9Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith. 10Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. 11Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid. 12Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr. 13A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 14A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem. 15A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 16A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd; 17Ac a ddywedodd, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny. 18Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri. 19Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf. 20A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 21Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 22Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn. 23Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard. 24Asahel brawd Joab oedd un o’r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad, 25Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, 26Heles y Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad, 27Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad, 28Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, 29Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, 30Benaia y Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas, 31Abi-albon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad, 32Eliahba y Saalboniad; o feibion Jasen, Jonathan, 33Samma yr Harariad, Ahïam mab Sarar yr Harariad, 34Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Elïam mab Ahitoffel y Giloniad, 35Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad, 36Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, 37Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 38Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 39Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.

Currently Selected:

2 Samuel 23: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy