YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 22

22
1A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul. 2Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i; 3Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dŵr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist. 4Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. 5Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i. 6Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant. 7Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef. 8Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio. 9Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, a thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef. 10Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef. 11Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt. 12Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. 13Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd. 14Yr Arglwydd a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef. 15Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt. 16Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef. 17Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer. 18Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi. 19Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi. 20Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof. 21Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 22Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 23Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i. 24Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 25A’r Arglwydd a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef. 26A’r trugarog y gwnei drugaredd: â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 27A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 28Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng. 29Canys ti yw fy nghannwyll i, O Arglwydd; a’r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch. 30Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur. 31Duw sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr Arglwydd sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. 32Canys pwy sydd Dduw, heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig, eithr ein Duw ni? 33Duw yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith. 34Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd. 35Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau. 36Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â’th fwynder y lluosogaist fi. 37Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau. 38Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. 39Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i. 40Canys ti a’m gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i’m herbyn, a ddarostyngaist danaf. 41Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. 42Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr Arglwydd, ond nid atebodd hwynt. 43Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt. 44Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant. 45Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi. 46Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai. 47Byw fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth. 48Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi, 49Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn; rhag y gŵr traws y’m hachubaist i. 50Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 51Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragywydd.

Currently Selected:

2 Samuel 22: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy