YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 24

24
1A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos, cyfrif Israel a Jwda. 2Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beer-seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl. 3A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn? 4A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.
5A hwy a aethant dros yr Iorddonen, ac a wersyllasant yn Aroer, o’r tu deau i’r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, a thua Jaser. 6Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim-hodsi; daethant hefyd i Dan-jaan, ac o amgylch i Sidon; 7Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a’r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer-seba. 8Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem. 9A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.
10A chalon Dafydd a’i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O Arglwydd, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum. 11A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, 12Dos a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a gwnaf hynny i ti. 13Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i’r hwn a’m hanfonodd i. 14A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn. 15Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel, o’r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o’r bobl, o Dan hyd Beer-seba, ddeng mil a thrigain o wŷr. 16A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad. 17A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad.
18A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad. 19A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr Arglwydd. 20Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin. 21Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i’r Arglwydd, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. 22A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud. 23Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i’r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti. 24A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i’r Arglwydd fy Nuw boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen, er deg a deugain o siclau arian. 25Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A’r Arglwydd a gymododd â’r wlad, a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.

Currently Selected:

2 Samuel 24: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy