YouVersion Logo
Search Icon

1 Esdras 8

8
Esra yn Cyrraedd Jerwsalem
Esra 7:1–10
1Wedi'r digwyddiadau hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, cyrhaeddodd Esra#8:1 Groeg, Esdras. Felly hefyd yn adn. 3 a 7 isod. fab Saraias, fab Eserias, fab Chelcias, fab Salemus, 2fab Sadoc, fab Ahitob, fab Amarias, fab Osias#8:2 Yn ôl darlleniad arall, ychwanegir fab Mareroth, fab Saraias, fab Sawia., fab Bocca, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad. 3Daeth yr Esra hwn i fyny o Fabilon yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan Dduw Israel. 4Rhoddodd y brenin anrhydedd iddo ac ymateb yn ffafriol i bob cais o'r eiddo. 5Daeth rhai o'r Israeliaid, yn offeiriaid ac yn Lefiaid, ynghyd â chantorion, porthorion a gweision y deml, i fyny gydag ef i Jerwsalem 6yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes, yn y pumed mis (hon oedd seithfed flwyddyn y brenin). Gadawsant Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis, oherwydd i'r Arglwydd roi iddynt daith rwydd er ei fwyn. 7Meddai Esra ar wybodaeth mor llwyr fel nad esgeulusai unrhyw ran o gyfraith yr Arglwydd na'i gorchmynion, a dysgai i Israel gyfan y deddfau a'r barnedigaethau i gyd.
Gorchymyn Artaxerxes i Esra
Esra 7:11–26
8Dyma gopi o'r gorchymyn ysgrifenedig a ddaeth oddi wrth y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd:
9“Y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, cyfarchion. 10Yn unol â'm penderfyniad tirion, gorchmynnais y caiff pwy bynnag o genedl yr Iddewon ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid, ac eraill yn ein teyrnas sy'n dymuno ac yn dewis gwneud hynny, fynd gyda thi i Jerwsalem. 11Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr, 12i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd, 13ac i gludo i Jerwsalem i Arglwydd Israel y rhoddion a addunedais i a'm cyfeillion, ac i ddwyn yr holl aur ac arian y gellir eu darganfod yng ngwlad Babilon, ynghyd â'r hyn a gyfrannwyd gan y genedl at deml eu Harglwydd yn Jerwsalem. 14Gwarier yr aur a'r arian ar deirw, hyrddod ac ŵyn, a phethau cysylltiedig â hwy, 15er mwyn offrymu aberthau ar allor yr Arglwydd yn Jerwsalem. 16Beth bynnag y byddi di a'th deulu yn dymuno'i wneud â'r aur a'r arian, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw, 17a'r un modd â'r llestri sanctaidd a roddir iti at wasanaeth teml dy Dduw yn Jerwsalem. 18A beth bynnag arall y gweli fod ei angen at wasanaeth teml dy Dduw, fe gei ei roi o storfa'r brenin. 19Ac yr wyf fi, y Brenin Artaxerxes, wedi gorchymyn bod trysoryddion Syria a Phenice i roi iddo yn ddiymdroi bob peth yr enfyn Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith y Duw Goruchaf amdano, 20hyd at gan talent o arian, a'r un modd hyd at gan mesur yr un o wenith a gwin, a digonedd o halen. 21Y mae holl ofynion cyfraith Duw i'w cyflawni'n ddiwyd er clod i'r Duw Goruchaf, rhag i'w ddigofaint ddisgyn ar deyrnas y brenin a'i feibion. 22Rhoddir hefyd ar ddeall ichwi nad oes unrhyw dreth na tholl arall i'w gosod ar neb o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision y deml na gweithwyr y deml hon; ac nad oes gan neb awdurdod i fynnu dim ganddynt. 23Ac yr wyt tithau, Esra, yn unol â doethineb Duw, i benodi barnwyr ac ustusiaid i farnu pawb yn holl Syria a Phenice sy'n gwybod cyfraith dy Dduw; ac yr wyt i ddysgu'r rhai sydd heb ei gwybod. 24Pob un sy'n troseddu cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, y mae i'w ddedfrydu'n ddi-oed naill ai i farwolaeth neu i ryw gosb arall, boed ddirwy neu garchar.”
Esra yn Moliannu Duw
Esra 7:27–28
25Meddai Esra, “Bendigedig fyddo'r unig Arglwydd, a symbylodd y brenin i harddu ei dŷ yn Jerwsalem, 26ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i holl gyfeillion a'i bendefigion. 27Am fod yr Arglwydd fy Nuw yn fy nghynorthwyo, ymwrolais a chasglu gwŷr o Israel i fynd i fyny gyda mi.
Y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud
Esra 8:1–14
28“Dyma'r arweinwyr, yn ôl eu teuluoedd a'u hadrannau, a ddaeth i fyny gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes: 29o deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Gamelus; o deulu Dafydd, Attus fab Sechenias. 30O deulu Phoros, Sacharias, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef. 31O deulu Phaath-Moab, Eliaonias fab Saraias, a dau gant o ddynion gydag ef. 32O deulu Sathoe, Sechenias fab Jeselus, a thri chant o ddynion gydag ef; o deulu Adin, Obeth#8:32 Groeg, Ben. Yn ôl darlleniad arall, Obeth. fab Jonathan, a dau gant a hanner o ddynion gydag ef. 33O deulu Elam, Jesias fab Gotholias, a saith deg o ddynion gydag ef. 34O deulu Saffatias, Saraias fab Michael, a saith deg o ddynion gydag ef. 35O deulu Joab, Abadias fab Jeselus, a dau gant a deuddeg o ddynion gydag ef. 36O deulu Bani, Assalimoth fab Josaffias, a chant chwe deg o ddynion gydag ef. 37O deulu Babi, Sacharias fab Bebai, a dau ddeg wyth o ddynion gydag ef. 38O deulu Asgath, Joanes fab Hacatan, a chant a deg o ddynion gydag ef. 39O deulu Adonicam, y rhai olaf, a'u henwau yw: Eliffalatus, Jewel a Samaias, a saith deg o ddynion gyda hwy. 40O deulu Bago, Wthi fab Istalcwrus, a saith deg o ddynion gydag ef.
Esra yn Ceisio Offeiriaid a Lefiaid i'r Deml
Esra 8:15–20
41“Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, a buom yn gwersyllu yno dridiau, ac archwiliais hwy. 42Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid, 43anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas, 44Elnatan, Samaias, Joribus, Nathan, Enmatas, Sacharias a Mesolamus, a oedd yn wŷr blaenllaw a gwybodus, 45a dywedais wrthynt am fynd at Adaius, y pennaeth yn y trysordy, 46gan orchymyn iddynt ofyn i Adaius a'i frodyr a'r trysoryddion yno anfon atom rai i weinyddu fel offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd. 47A thrwy law nerthol ein Harglwydd dygasant inni ddynion gwybodus o deulu Mooli fab Lefi, fab Israel, sef Asebebias a'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd; 48hefyd Asebias ac Annwnus a Mosaias ei frawd, o deulu Chanwnaius, a'u meibion, ugain ohonynt i gyd; 49a dau gant ac ugain o weision y deml, a osodasai Dafydd a'r swyddogion i gynorthwyo'r Lefiaid. Gwnaethpwyd rhestr o'r enwau i gyd.
Esra yn Arwain y Bobl mewn Ympryd a Gweddi
Esra 8:21–23
50“Yno cyhoeddais ympryd i'r gwŷr ifainc o flaen ein Harglwydd, i geisio ganddo siwrnai ddiogel i ni, i'n plant a oedd gyda ni, ac i'n hanifeiliaid. 51Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am osgordd o filwyr traed a marchogion i'n cadw'n ddiogel rhag ein gelynion, 52am ein bod wedi dweud wrth y brenin, ‘Bydd nerth ein Harglwydd gyda'r rhai sy'n ei geisio ac yn eu cynnal ymhob ffordd.’ 53Felly unwaith eto rhoesom hyn i gyd o flaen ein Harglwydd mewn gweddi, a'i gael yn raslon iawn.
Rhoddion i'r Deml
Esra 8:24–30
54“Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebias ac Asabias a deg o'u brodyr gyda hwy, 55a phwysais iddynt yr arian a'r aur a llestri sanctaidd tŷ ein Harglwydd, rhoddion gan y brenin ei hun a'i gynghorwyr a'i dywysogion a holl Israel. 56Wedi ei bwyso trosglwyddais i'w gofal chwe chant a hanner o dalentau o arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur, 57ac ugain o lestri aur, a deuddeg llestr o bres, ie, o'r pres gorau sy'n disgleirio fel aur. 58A dywedais wrthynt, ‘Yr ydych chwi'n gysegredig i'r Arglwydd, ac y mae'r llestri'n gysegredig, ac offrwm adduned i'r Arglwydd, Arglwydd ein hynafiaid, yw'r arian a'r aur. 59Byddwch effro a gwyliwch drostynt hyd nes ichwi eu trosglwyddo i benaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel yn Jerwsalem, yn ystafelloedd yr offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.’ 60A chymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arian a'r aur a'r llestri a berthynai i Jerwsalem, a'u dwyn i deml yr Arglwydd.
Cyrraedd Jerwsalem
Esra 8:31–36
61“Gadawsom Afon Theras ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf a chyrraedd Jerwsalem, oherwydd yr oedd llaw nerthol ein Harglwydd gyda ni. Gwaredodd ni oddi wrth bob gelyn ar y ffordd, ac felly y daethom i Jerwsalem. 62Wedi inni fod yno dridiau, pwyswyd yr arian a'r aur a'u trosglwyddo yn nhŷ ein Harglwydd i Marmoth fab Wria yr offeiriad; 63a chydag ef yr oedd Eleasar fab Phinees. Yr oedd y Lefiaid, Josabdus fab Jesua a Möeth fab Sabannus, hefyd gyda hwy. Gwnaed cyfrif o'r cwbl a'u pwyso; 64cofnodwyd pwysau popeth yr un pryd. 65Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud aberthau i'r Arglwydd, Duw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, 66saith deg a dau o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth hedd; yr oedd y cwbl yn offrwm i'r Arglwydd. 67Hefyd rhoesant orchmynion y brenin i'r trysoryddion brenhinol a'r llywodraethwyr yn Celo-Syria a Phenice, a rhoes y rheini anrhydedd i'r genedl ac i deml yr Arglwydd.”
Esra yn Clywed am y Priodi â Merched Estron
Esra 9:1–15
68“Wedi cwblhau'r pethau hyn daeth y penaethiaid ataf a dweud, 69‘Nid yw pobl Israel, na'u llywodraethwyr, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth frodorion cenhedlig y wlad a'u haflendid—y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Edomiaid. 70Y maent wedi cymryd merched y rheini yn wragedd iddynt hwy a'u meibion, a chymysgu'r hil sanctaidd â brodorion cenhedlig y wlad; bu gan yr arweinwyr a'r penaethiaid ran yn y camwedd hwn o'r cychwyn.’ 71Cyn gynted ag y clywais hyn, rhwygais fy nillad a'm mantell sanctaidd, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn ac yn drist iawn. 72Ymgasglodd ataf yr holl rai a gynhyrfwyd y pryd hynny gan air Arglwydd Israel wrth inni alaru dros y camwedd hwn, ac eisteddais yn drist iawn hyd amser yr offrwm hwyrol. 73Yna codais o'm hympryd, a'm dillad a'm mantell sanctaidd amdanaf wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr Arglwydd 74a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron, 75oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd. 76Felly y bu o ddyddiau ein hynafiaid, ac yr ydym yn dal mewn pechod mawr hyd y dydd hwn. 77Ac oherwydd ein pechodau ni a phechodau einhynafiaid fe'n traddodwyd ni, ynghyd â'n brodyr, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, i afael brenhinoedd y ddaear, i'r cleddyf ac i gaethiwed, i anrhaith a gwarth hyd y dydd hwn. 78Ac yn awr, mor fawr yw dy drugaredd tuag atom, O Arglwydd, gan iti adael gwreiddyn ac enw yn dy le sanctaidd, 79ac ailgynnau ein goleuni yn nhŷ ein Harglwydd, a rhoi cynhaliaeth i ni yn amser ein caethiwed. 80Hyd yn oed yn ein caethiwed ni'n gadawyd gan ein Harglwydd: parodd i frenhinoedd Persia edrych â ffafr arnom a rhoi bwyd inni, 81ac anrhydeddu teml ein Harglwydd ac ailgodi adfeilion Seion er mwyn rhoi i ni droedle cadarn yn Jwda a Jerwsalem. 82Ac yn awr, Arglwydd, a'r pethau hyn gennym, beth a ddywedwn ni? Oherwydd yr ydym wedi torri dy orchmynion, a roddaist trwy dy weision y proffwydi gan ddweud, 83“Y mae'r wlad yr ydych yn mynd i'w hetifeddu yn wlad halogedig, wedi ei halogi gan y brodorion cenhedlig a'i llenwi ganddynt â'u hanifeiliaid. 84Am hynny, peidiwch â rhoi eich merched mewn priodas i'w meibion na chymryd eu merched hwy i'ch meibion chwi, 85a pheidiwch byth â cheisio heddwch â hwy; ac felly fe fyddwch yn gryf, a mwynhau braster y wlad a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.” 86Daeth hyn i gyd i'n rhan drwy ein drwgweithredoedd a'n pechodau mawr. Er i ti, Arglwydd, ysgafnhau baich ein pechodau 87a rhoi'r fath wreiddyn i ni, yr ydym ni unwaith eto wedi gwrthgilio a thorri dy gyfraith drwy ymgyfathrachu â chenhedloedd aflan y wlad. 88Oni fuost ti'n ddigon dig wrthym i'n dinistrio a'n gadael heb na gwreiddyn na had nac enw? 89Arglwydd Israel, ffyddlon wyt ti, gan iti ein cadw yn wreiddyn hyd heddiw. 90Dyma ni, yn awr, yn dy ŵydd yn ein camweddau, oherwydd ni allwn hyd yn hyn sefyll o'th flaen yn ein heuogrwydd.’
Y Cynllun i Ddileu Priodi Merched Estron
Esra 10:1–17
91Tra oedd Esra'n gweddïo ac mewn dagrau yn cyffesu, ar ei hyd o flaen y deml, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Jerwsalem ato, yn wŷr, gwragedd a llanciau; ac yr oedd y gynulleidfa'n wylo'n hidl. 92Yna galwodd Jechonias fab Jeelus, un o'r Israeliaid, a dweud wrth Esra, “Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd trwy briodi merched estron o blith y brodorion; ond hyd yn oed yn awr y mae gobaith i Israel. 93Gadewch i ni dyngu llw i'r Arglwydd, i fwrw allan yr holl wragedd estron sydd yn ein plith, a'u plant, 94yn unol â'th ddedfryd di a phawb sy'n ufudd i gyfraith yr Arglwydd. 95Cod a gweithreda, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi i'th gefnogi.” 96Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr offeiriaid a Lefiaid holl Israel dyngu llw i'r perwyl hwn; a thyngu a wnaethant.

Currently Selected:

1 Esdras 8: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy