1 Esdras 7
7
Cysegru'r Deml
Esra 6:13–18
1Yna dilynodd Sisinnes, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr gyfarwyddiadau'r Brenin Dareius, 2a goruchwylio'r gwaith cysegredig yn fanwl gan gydweithredu â henuriaid yr Iddewon a swyddogion y deml. 3Llwyddodd y gwaith cysegredig trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai a Sechareia y proffwydi. 4Ac felly, trwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac â chydsyniad Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia, daeth y gwaith i ben 5a gorffennwyd y tŷ sanctaidd erbyn y trydydd dydd ar hugain o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Dareius. 6Gweithredodd yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y caethgludion a ymunodd â hwy, yn unol â'r hyn a gynhwyswyd yn llyfr Moses. 7Wrth gysegru teml yr Arglwydd offrymasant gant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, 8a deuddeg gafr, yn ôl nifer penaethiaid llwythau Israel, yn bechaberth dros holl Israel. 9Safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu gwisgoedd fesul teulu i oruchwylio gwasanaethau Arglwydd Dduw Israel yn unol â llyfr Moses, tra safai'r porthorion wrth bob porth.
Y Pasg
Esra 6:19–22
10Felly cadwodd yr Israeliaid a ddaeth o'r gaethglud y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Cafodd yr offeiriaid eu puro, a'r Lefiaid gyda hwy. 11Er na phurwyd y caethgludion i gyd, am fod pob un o'r Lefiaid wedi ei buro, 12lladdasant oen y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u brodyr yr offeiriaid, a hwy eu hunain. 13Fe'i bwytawyd gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud, gan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid pobloedd y wlad, er mwyn ceisio'r Arglwydd. 14Cadwyd gŵyl y Bara Croyw mewn llawenydd o flaen yr Arglwydd am saith diwrnod, 15oherwydd iddo ddarbwyllo brenin Asyria i'w cynorthwyo yng ngwaith Arglwydd Dduw Israel.
Currently Selected:
1 Esdras 7: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004