1 Esdras 9
9
1Yna cododd Esra ac aeth o gyntedd y deml i ystafell Joanan fab Eliasibus, 2ac aros yno heb fwyta bara nac yfed dŵr, am ei fod yn dal i alaru am gamweddau mawr y gynulleidfa. 3Yna gwnaethpwyd cyhoeddiad yn holl Jwda a Jerwsalem fod pawb a ddychwelodd o'r gaethglud i ymgynnull yn Jerwsalem, 4a bod pwy bynnag na ddôi i'r cyfarfod o fewn deuddydd neu dri, ar wŷs yr henuriaid llywodraethol, i fforffedu ei anifeiliaid at wasanaeth y deml, ac yntau ei hun i'w dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.
5O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd pobl llwyth Jwda a Benjamin i Jerwsalem, 6ac eisteddodd yr holl gynulleidfa ar y sgwâr o flaen y deml, yn rhynnu oherwydd ei bod bellach yn aeaf. 7Cododd Esra a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi torri'r gyfraith trwy briodi merched estron ac ychwanegu at bechod Israel. 8Yn awr gwnewch gyffes, a rhowch ogoniant i Arglwydd Dduw ein hynafiaid; 9gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth y brodorion a'ch gwragedd estron.” 10Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn yn union fel yr wyt ti wedi gorchymyn. 11Ond y mae'r gynulleidfa'n niferus a'r tywydd yn aeafol, ac ni allwn sefyll yma yn yr awyr agored; y mae'n amhosibl. Nid gwaith diwrnod neu ddau yw hyn i ni, oherwydd y mae gormod ohonom wedi pechu yn hyn o beth. 12Bydded i arweinwyr y gynulleidfa aros yma, ac i'r holl rai yn ein gwladfeydd sydd wedi priodi gwragedd estron ddod ar amser penodedig, 13pob un gyda henuriaid a barnwyr ei le ei hun, nes inni gael gwared â dicter yr Arglwydd yn y mater hwn.” 14Ymgymerodd Jonathan fab Asael a Jesias fab Thocanus â'r gwaith ar yr amodau hyn, gyda Mosolamus, Lefi a Sabbataius yn cydeistedd â hwy. 15Gweithredodd y rhai a ddaeth o'r gaethglud yn ôl y trefniant hwn ym mhob peth. 16Dewisodd Esra yr offeiriad iddo'i hun ddynion oedd yn bennau-teuluoedd, pob un wrth ei enw, ac ar y dydd cyntaf o'r degfed mis eisteddasant gyda'i gilydd i archwilio'r mater. 17Daethpwyd i ben ag achos y gwŷr a fu'n cyd-fyw â gwragedd estron erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
Y Rhai oedd wedi Priodi Gwragedd Estron
Esra 10:18–44
18Ymysg yr offeiriaid a ddaeth ynghyd, darganfuwyd bod y canlynol wedi priodi gwragedd estron: 19o deulu Jesua fab Josedec a'i frodyr: Maseas, Eleasar, Joribus a Jodanus. 20Gwnaethant addewid i fwrw allan eu gwragedd ac offrymu hyrddod yn foddion puredigaeth am eu cyfeiliornad. 21O feibion Emmer: Ananias, Sabdaius, Manes, Samaius, Jiel ac Asarias. 22O feibion Phaiswr: Elionais, Massias, Ismael, Nathanael, Ocidelus a Salthas. 23O'r Lefiaid: Josabdus, Semeïs, Colius (hynny yw Calitas), Pathaius, Jwda a Joanas.
24O'r cantorion: Eliasibus, Bacchwrus. 25O'r porthorion: Salwmus a Tolbanes.
26O Israel, o feibion Phoros: Jermas, Jesias, Melchias, Miaminus, Eleasar, Asibias a Bannaias. 27O feibion Elam: Matanias, Sacharias, Jesrielus, Obadius, Jeremoth ac Elias. 28O feibion Samoth: Eliadas, Eliasimus, Othonias, Jarimoth, Sabathus a Serdaias. 29O feibion Bebai: Joannes, Ananias, Sabdus ac Emathis. 30O feibion Mani: Olamus, Mamwchus, Jedaius, Jaswbus, Asaelus a Jeremoth. 31O feibion Adi: Naathus, Moossias, Laccwnus, Naïdus, Bescaspasmus, Sesthel, Balnwus a Manasseas. 32O feibion Annas: Elionas, Asaias, Melchias, Sabbaias a Simon Chosamaius. 33O feibion Asom: Maltannaius, Mattathias, Sabannaius, Eliffalat, Manasses a Semoï. 34O feibion Baani: Jeremias, Momdius, Maerus, Jwel, Mamdai, Pedias, Anos, Cara-basion, Eliasibus, Mamnitanaimus, Eliasis, Bannus, Elialis, Someïs, Selemias a Nathanias. O feibion Esora: Sessis, Esril, Asaelus, Samatus, Sambris a Josepus. 35O feibion Nooma: Masitias, Sabadaias, Edais, Jwel a Banaias. 36Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi gwragedd estron, a throesant hwy allan gyda'u plant.
Esra yn Darllen y Gyfraith i'r Bobl
Neh. 7:73—8:12
37Gwladychodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a'r Israeliaid yn Jerwsalem a'i chyffiniau. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis, a'r Israeliaid yn awr yn eu gwladfeydd, 38ymgasglodd yr holl gynulleidfa fel un gŵr ar y sgwâr o flaen porth dwyreiniol y deml, 39a galw ar Esra yr archoffeiriad a'r darllenydd i ddod â chyfraith Moses, a roddwyd gan Arglwydd Dduw Israel. 40Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra'r archoffeiriad â'r gyfraith o flaen yr holl gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, a'r holl offeiriaid, iddynt ei chlywed. 41Darllenodd ohoni ar y sgwâr o flaen porth y deml o doriad gwawr hyd hanner dydd yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd, a gwrandawodd yr holl gynulleidfa'n astud ar y gyfraith. 42Yr oedd Esra, yr offeiriad a darllenydd y gyfraith, ar lwyfan pren wedi ei ddarparu i'r diben. 43Ar yr ochr dde iddo yr oedd Mattathias, Sammus, Ananias, Asarias, Wrias, Esecias a Baalsamus, 44ac ar y chwith Phadaius, Misael, Melchias, Lothaswbus, Nabarias a Sacharias. 45Cymerodd Esra lyfr y gyfraith yng ngolwg y gynulleidfa, oherwydd yr oedd yn eistedd yn y lle amlycaf o'u blaen i gyd, 46a phan agorodd y gyfraith, safodd pawb ar eu traed. Bendithiodd Esra'r Arglwydd Dduw Goruchaf, Duw y lluoedd, yr Hollalluog, 47a gwaeddodd yr holl gynulleidfa, “Amen”, gan godi eu dwylo a syrthio i'r llawr ac addoli'r Arglwydd. 48Yr oedd Jesua, Anniwth, Sarabias, Jadinus, Jacwbus, Sabbataius, Autaias, Maiannas, Calitas, Asarias, Josabdus, Ananias a Phalias, y Lefiaid, yn dysgu cyfraith yr Arglwydd, yn ei darllen i'r gynulleidfa a goleuo'r darlleniad yr un pryd. 49Dywedodd y llywodraethwr#9:49 Groeg, Dywedodd Attarates. wrth Esra, yr archoffeiriad a darllenydd y gyfraith, ac wrth bob un o'r Lefiaid oedd yn dysgu'r gynulleidfa, 50“Y mae'r dydd hwn yn sanctaidd i'r Arglwydd.” Ac yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar y gyfraith. 51“Ewch,” meddai, “bwytewch fwyd bras ac yfwch win melys, ac anfonwch gyfran i'r rhai sydd heb ddim, 52oherwydd y mae'n ddydd sanctaidd i'r Arglwydd. Peidiwch â galaru, oherwydd bydd yr Arglwydd yn eich gogoneddu.” 53Rhoddodd y Lefiaid orchymyn i'r holl bobl: “Y mae'r dydd hwn yn sanctaidd, peidiwch â galaru.” 54Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed, i lawenhau ac i anfon cyfran i'r rhai oedd heb ddim, ac i orfoleddu'n fawr, 55oherwydd yr oeddent wedi eu goleuo gan y geiriau a ddysgwyd iddynt. Ac ymgynullasant.#9:55 Y mae'r testun yn gorffen yn sydyn. Cymh. Neh. 8:13.
Currently Selected:
1 Esdras 9: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004