Biểu trưng YouVersion
Biểu tượng Tìm kiếm

Ioan 21

21
Iesu'n neud gwyrth ar i môr
1-14Wedi 'na dangosodd Iesu i unan 'to i'r disgiblion wrth Lyn Tiberias. Fel hyn ddangosodd e i unan. We Simon Pedr, Tomos (un o'r Twins), Nathanael o Cana in Galilea, crwts Sebedeus a dou ddisgibil arall 'da'i gily. Gwedo Simon Pedr, “Dw i'n mynd i bisgota.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Ŷn ni'b dod 'da ti.” Ethon nhwy mas a mynd miwn i'r cwhc, a'r nosweth 'ny ddalon nhwy ddim byd. Fel wedd i'n gwawrio 'na lle we Iesu ar i lan, ond weno'r disgiblon in stando taw fe wedd e. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Bois, wes pisgod 'da chi, 'te?” Atebon nhwy, “Na wes.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Towlwch i rhwyd ar ochor dde'r cwch, a fe gewch chi rei.” So dowlon nhwy'r rhwydi, a wen nhwy'n ffaelu'u tinnu nhwy nôl miwn i'r cwch achos we gwmint o bisgod indo nhwy. Gwedo'r disgibl we Iesu in i garu wrth Pedr, “Ir Arglwidd yw e.” Pan gliwo Pedr taw'r Arglwidd wedd e, tinodd e i glogyn amdano, achos wedd e wedi'i dinnu e bant, a jwmpo miwn i'r dŵr; ond dâth i disgiblion erill in u cwch in drago'u rhwydi llawn pisgod, achos wenyn nhwy'n bell o'r tir, dim ond rhyw dou gant ciwbit. Pan ddethon nhwy i'r lan gwelon nhwy tân cols a pisgod arno, a bara. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dewch â rhei o'r pisgod ichi newy ddala.” Âth Simon Pedr nôl i'r cwch a drago'r rhwyd llawn pisgod mawr i'r tir. We hyndred an ffifi thrî onyn nhwy; ond er bo gwmint nâth i rhwyd ddim torri. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dewch i gâl brecwast.” We ddim un o'r disgiblion in mentro gofyn iddo, “Pwy wit ti?” achos bo nhwy'n gwbod taw'r Arglwidd wedd e. Dâth Iesu, cwmrid i bara a'i roi fe iddyn nhwy, a nâth e'r un peth da'r pisgod. Co'r trididd gwaith i Iesu ddangos i unan i'r disgiblion wedi 'ddo godi o farw.
Iesu'n cwmrid Pedr nôl
15-25Wedi iddyn nhwy gâl brecwast gwedo Iesu wrth Simon Pedr, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu i in fwy na'r pethe 'ma?” Gwedodd e wrtho, “Wdw, Arglwidd, wit ti'n gwbod bo fi'n di garu di.” Gwedodd e wrtho “Bwyda in ŵyn i.” Gwedodd e wrtho weth, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu?” Gwedodd e wrtho, “Wdw, Arglwidd, wit ti'n gwbod bo fi'n di garu di.” Gwedodd e wrtho, “Gofal am in ddefed i.” Gwedodd e wrtho shwrne 'to, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu i?” We Pedr in gofidio achos i fod e wedi gofyn teirgwaith, “Wit ti'n ing garu i?”, a gwedodd e wrtho, “Arglwidd, wit ti'n gwbod popeth; wit ti'n gwbod bo fi in di garu di.” Gwedo Iesu wrtho, “Bwyda in ddefed i. Dw i'n gweud i gwir wrtho ti, pan wet ti'n ifancach, we ti'n clwmu di felt di unan rownd di ganol a'n mynd i ble binnag wet ti moyn; ond pan fyddi di'n hen, biddi di'n rhoi di ddwylo mas a bydd rhiwun arall in clwmu'r belt am di ganol a'n mynd â ti i ble wit ti ddim moyn mynd.” Wedodd e hyn i ddangos trw shwt farwoleth bidde Pedr in rhoi gogoniant i Dduw. Wedi 'ddo weud hyn gwedodd Iesu wrtho fe, “Dilyna fi.”
Troio Pedr rownd a gweld i disgibl we Iesu in i garu in dilyn. (Fe we'r un we wedi pligu nôl in i swper i holi, “Arlgwidd, pwy yw e sy'n rhoi ti lan?”) Pan welo Pedr e gwedodd e wrth Iesu, “Arglwidd, beth amdano fe?” Gwedo Iesu wrtho, “Os dw i am iddo fe aros nes bo fi'n dod, beth yw 'na i ti? Rhaid iti in ddilyn i.” So ddechreuodd i brodyr glebran rhynt i gily na fidde'r disgibl chwnnw'n marw. Ond nâth Iesu ddim gweud wrtho fe na fidde-fe'n marw, ond, “Os dw i am iddo fe aros nes bo fi'n dod, beth yw 'na i ti?”
Hwn yw'r disgibl sy'n gweud i pethe 'ma a'n gweud u bod nhwy'n wir fel man nhwy wedi câl u reito lawr fan 'yn, a ŷn ni'n gwbod bod i air e'n wir.
Nâth Iesu lot o bethe erill; sen nhwy'n câl u reito lawr un wrth un, sa i'n credu bidde'r byd i gyd in ddigon mowr i ddala'r llifre'n câl u reito.

Đang chọn:

Ioan 21: DAFIS

Tô màu

Sao chép

So sánh

Chia sẻ

None

Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập

Những video dành cho Ioan 21