Joel 4
4
PEN. IV.—
1Canys wele yn y dyddiau hyny ac yn yr amser hwnw:
Pan ddychwelwyf gaethiwed Judah a Jerusalem,
2Y casglaf yr holl genedloedd;
Ac y dygaf hwynt i waered;
I ddyffryn Jehosaphat:
A dadleuaf â hwynt yno,
Am fy mhobl a’m hetifeddiaeth Israel,
Yr hon a wasgarasant#y rhai a wasgarwyd. Syr. yn mhlith y cenedloedd;
A rhanasant fy nhir.
3Ac am fy mhobl y bwriasant goelbren:
A rhoddasant y bachgen#bechgynach. LXX. am butain;#buteiniaid. LXX. i’r puteindy. Vulg.
A’r ferch a werthasant am win fel yr yfent.
4A hefyd beth sydd y fynoch chwi â mi, Tyrus a Sidon;
A holl ardaloedd Philistia:
Ai y pwyth a delwch i mi;
Ac os ydych yn ad-dalu i mi;
Buan, cyflym,
Y dychwelaf eich tâl ar eich pen.
5O herwydd fy arian a’m haur a gymerasoch:
A’m tlysau dymunol;#dodrefn hardd. Syr.
A ddygasoch i’ch temlau.
6A meibion Judah a meibion Jerusalem;
A werthasoch i feibion yr Jefaniaid:#Iaoniaid, Groegiaid
I’w pellhau oddiwrth eu terfynau.
7Wele myfì yn eu codi hwynt o’r lle;
Y gwerthasoch hwynt iddo:
A mi a ddychwelaf eich pwyth ar eich pen.
8A mi a werthaf eich meibion a’ch merched chwi,
Yn llaw meibion Judah;
A hwythau a’u gwerthant i’r Shabeaid,#i gaethiwed. LXX. Sabea. Syr. i genedl bell:
Canys yr Arglwydd a lefarodd.
9Cyhoeddwch yn mysg y cenedloedd;
Parotowch ryfel:
Deffrowch y gwyr cryfìon;
Nesäent, deuont i fyny;
Yr holl wŷr rhyfel.
10Curwch eich sychau yn gleddyfau;
A’ch crymanau yn waewffyn:
Dyweded yr egwan cryf ydwyf.
11Ymgesglwch#rhuthrwch allan. Vulg. a deuwch,
Yr holl genedloedd o amgylch ac ymgynullwch:
Yno par ddisgyn,#darostyngodd, drylliodd. y tyr. Dathe. yno y gwna yr Arglwydd i’th gedyrn orwedd. Vulg. Arglwydd, dy#eu. Cald. eich nerth. Syr. gedyrn.
12Y cenedloedd deffroent ac elont i fyny;
I ddyffryn Jehosaphat:
O herwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genedloedd o amgylch.
13Bwriwch grymau i fewn;
Canys addfedodd y cynhauaf:
Deuwch, ewch i waered#sethrwch.,
O herwydd y gwryf a lanwodd;
Rhedodd y cafnau gwin trostynt;
Am amlhau eu drygioni hwynt.
14Torfeydd, torfeydd;#trystoedd. seiniau a seiniasant yn. LXX.
Fyddant yn nglỳn y dinystr:#y dial. LXX. dedfrydau. Syr. toriad. Vulg.
Canys agos yw dydd yr Arglwydd;
Yn nglỳn y dinystr.
15Haul a lloer a dywyllasant:#dywyllant. LXX.
A sêr a attaliasant eu llewyrch.
16A’r Arglwydd a rua o Sion,
Ac a rydd ei lef o Jerusalem;
A nefoedd a daear a grynant:
A’r Arglwydd a fydd yn noddfa#erbyd. LXX. i’w bobl;
Ac yn ymddiffynfa#gyfnertha. LXX. i feibion Israel.
17A chewch wybod mae myfi yw yr Arglwydd eich Duw;
Yn trigo yn Sion, fy mynydd santaidd:#mynydd fy nghysegr.
A bydd Jerusalem yn santaidd;
A dyeithriaid nid ant trwyddi#ni thrigant ynddi. Syr. mwyach.
18A bydd yn y dydd hwnw,
Y defnyna y mynyddoedd feluswin,#felusder. Vulg.
A’r bryniau a lifeiriant o laeth;
A holl nentydd#ddyffrynoedd. Judah a lifant o ddyfroedd:
A ffynon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd;
A hi a ddyfrha ddyffryn y coed Sittim.#ffrwd y rhaffau. LXX. naut y drain. Vulg.
19Yr Aipht a fydd anghyfanedd;
Ac Edom a fydd yn anialwch anghyfaneddol:
Am drais ar feibion Judah;
Am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu gwlad hwynt.
20A Judah a erys byth:
A Jerusalem hyd genedlaeth a chenedlaeth.
21A mi a ddieuogaf waed y rhai nis dieuogais:#a cheisiaf allan eu gwaed hwynt ac ni ddieuogaf. LXX. dialaf eu gwaed hwynt ac nis maddeuaf. Syr. yr hwn nis glanheais. Vulg.
A’r Arglwydd sydd yn trigo#a drig yn. LXX., Vulg. yn Sion.
Đang chọn:
Joel 4: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.