Joel 2
2
PEN. II.—
1Cenwch udgorn#ag udgorn. LXX., Vulg. yn Sion,
Chwythwch gorn#cyhoeddwch. LXX. ar fy mynydd santaidd;
Dychryned holl breswylwyr y wlad:
Canys yn dyfod y mae dydd yr Arglwydd,
Canys y mae yn agos.#yn agos ddydd tywyllwch a duwch. LXX.
2Dydd tywyll a dû,
Dydd cymylog a niwlog;#tymestl. Vulg.
Fel y wawr wedi ymdaenu ar y mynyddoedd:#fel y wawr y tywelltir ar y—, bobl lawer a chryfion. LXX.
Y mae pobl luosog a chryfion;
Eu bath#fel hwynt. Hebr. ni bu erioed;
Ac ar eu hôl ni bydd eilwaith;#ni chwanegir. Hebr.
Hyd flynyddoedd cenedlaeth a chenedlaeth.
3O’u blaen y difa tân;#y mae tân ysol. LXX. Vulg. Syr.
Ac ar eu hol y deifia fflam:#y mae fflam losgawl LXX. Vulg.
Fel gardd Eden#paradwys o hyfrydwch. LXX. paradwys Eden. Syr. gardd o bleser. Vulg. y mae y wlad o’u blaen,
Ac ar eu hol yn ddiffaethwch anrheithiedig;
Ië, ac ni ddianc dim rhagddynt.
4Megys golwg ar feirch y mae yr olwg arnynt hwy:
Ac fel marchogion felly y rhedant.
5Megys trwst cerbydau ar benau y mynyddoedd y llamant,#trystiant fel cerbydau ar gopäau y. Dathe.
Fel swn fflam dân:
Yn difa sofl:
Fel pobl gryfion;
Parod i ryfel.
6O’u blaen#rhag eu hwyneb. yr ofna#cynhyrfir. Syr. pobloedd:
Pawb wynebau a gasglant barddu.#ydynt fel llosgiad crochan. LXX. a dduant fel duwch crochan. Syr. a droir yn grochan. Vulg.
7Fel glewion y rhedant;
Fel rhyfelwyr y dringant fur:#furiau. LXX.
A cherddant bob un yn eu ffyrdd;
Ac ni throant oddiwrth eu llwybrau.
8Ac ni wthiant#a phob un ni chyfynga ar ei frawd. Vulg. y naill y naill;
Cerddant bob un ar ei ffordd:#yn drymion yn eu harfau yr ant. LXX.
Ac er eu syrthio ar erfyn,#ond hefyd trwy y ffenestri y syrthiant. Vulg.
Ni thorir#nis dybenir hwynt. LXX. ni throant eu cerddediad. Vulg. hwynt.
9Gwibiant#cymerant y ddinas. LXX. ant i fewn i. Vulg. trwy ddinas,
Rhedant ar fur;
Dringant i’r tai:
Ant i mewn trwy y ffenestri fel lleidr.
10O’u blaen y cryn#crynodd, cynhyrfodd, dywyllwyd, ataliasant. Vulg. gwlad;
Y cynhyrfir wybrenau:
Haul a lloer a dywyllir;
A ser a ataliant eu llewyrch.#llewyrch y ser a fachludodd. Syr.
11A’r Arglwydd a rydd#roddodd. Vulg. ei lef o flaen ei lu;
Canys mawr iawn yw ei wersyll ef;
Canys cryf yw yr hwn a wna ei air ef:#cryfion yw gweithredoedd ei eiriau ef. LXX. cryfion ydynt ac yn. Vulg.
Canys mawr yw dydd yr Arglwydd ac ofnadwy#amlwg iawn. LXX. iawn,
A phwy a’i herys ef.
12Ac yn awr medd yr Arglwydd;#yr Arglwydd eich Duw chwi. LXX.
Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon:
A chydag ympryd, a chyda wylofain, a chyda galar.
13A rhwygwch eich calon ac nid eich dillad;
A dychwelwch at yr Arglwydd eich Duw:
O herwydd graslawn a thosturiol yw Efe;
Hwyrfrydig i ddigofaint a mawr ei drugaredd;
Ac efe a dosturia#a thriniadwy. Vulg. ac yn troi ymaith ddrwg. Syr. am y drwg.#drygau. LXX.
14Pwy a ŵyr y tosturia efe eto#pwy a wyr os try ac y maddeu. Vulg.:
Ac y gedy fendith ar ei ol:#ac yn gweddillu bendith. Syr.
Yn offrwm bwyd ac yn offrwm diod,#a pheilliaid a diod. Syr.
I’r Arglwydd eich Duw.
15Cenwch udgorn yn Sion:
Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa.
16Cesglwch bobl ynghyd, cysegrwch gynulleidfa,#gynullfa, ymgynulliad. cynullwch henafgwyr;
Cesglwch blant;
A rhai yn sugno bronau:
Deued priodfab allan o’i ystafell;
A phriodferch o’i ystafell gwely.
17Rhwng y porth a’r allor;
Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd:
A dywedent,
Tosturia,#arbed, Arglwydd arbed dy. Vulg. Arglwydd, wrth dy bobl,
Ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth,#yn.
I oganu#i lywodraethu. LXX., Vulg., Syr. o genedloedd arnynt:
Paham y dywedent#na ddywedont y cenedloedd. Syr. yn mhlith y bobloedd;
Pa le mae eu Duw hwynt.
18A’r Arglwydd a eiddigedda am ei dir:
Ac a dosturia wrth ei bobl.
19A’r Arglwydd a etyb ac a ddywaid wrth ei bobl,
Wele fi yn anfon i chwi yr ŷd;
A’r gwin a’r olew;
A diwellir chwi o hono:
Ac nis rhoddaf chwi mwyach yn waradwydd yn mysg y cenedloedd.
20A’r gogleddyn#a’r hwn sydd o’r gogledd. LXX., Vulg. a bellhaf oddiarnoch,
Ac a’i gyraf ef i dir sych a diffaeth;#diffordd. Vulg.
Ei ran flaen tua môr y dwyrain;#môr blaen. LXX.
A’i ran ol tua môr y gorllewin:#môr ol. LXX.
A’i ddrewdod a gyfyd,
A’i ddrygsawr a â i fyny;
Er gwneuthur o hono fawrhydri.#ymfawrhau o hono. canys gwnaeth yn falch. Vulg. canys gwna yr Arglwydd fawrhydri. III. MS.
21Nac ofna di,#nac ofnwch, ddaear gorfoledda. Syr. ddaear:
Gorfoledda a llawenycha;
Canys gwnaeth#gwnaeth, ymddyrcha i wneuthur. Syr. yr Arglwydd fawredd.
22Nac ofnwch, anifeiliaid maes;
Canys glasodd porfeydd anialwch:
Canys coed a ddygasant eu ffrwyth;#nerth. Hebr.
Ffigyswydden a gwinwydden#gwinwydden a. Syr. a roddasant eu cynyrch.
23A phlant Sion,
Gorfoleddwch ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw;
Canys rhoddodd#rhydd, yn rhoddi. i chwi y cynar wlaw#fwydydd yn iawn. LXX. ddigon. Syr. athraw cyfiawnder. Vulg. wrth raid,#yn iawn.
Ac efe a wlawia i chwi gafod o gynar a diweddar wlaw fel cynt.#LXX., Syr. yn y dechreu. Vulg.
24A llenwir y lloriau dyrau o ŷd:
A’r cafnau gwasg a redant trosodd o win ac olew.
25A mi a ad-dalaf#dalaf am, digolledaf.
i chwi y blynyddoedd;
Y rhai a ddifaodd y locust;
Y lindys, y chesil, a phryf y rhwd:
Fy llu#nerth. Vulg. mawr I;
Yr hwn a anfonais i’ch plith.
26A chwi a fwytewch gan fwyta ac ymddigoni;
Ac a folianwch yr Arglwydd eich Duw;
Yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd:#rhyfeddodau. Syr. bethau rhyfedd. Vulg.
Ac ni waradwyddir fy mhobl byth.
27A chewch wybod fy mod i yn nghanol Israel;
A myfi#myfi, myfi. Syr. yw yr Arglwydd eich Duw ac nid arall:
Ac ni waradwyddir fy mhobl byth.
Đang chọn:
Joel 2: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.