Hosea 9
9
PEN. IX.—
1Na lawenycha Israel,
Na orfoledda#i. at orfoledd. fel y bobloedd;
Canys puteiniaist oddiwrth dy Dduw:
Hoffaist wobr ar bob llawr dyrnu ŷd.
2Llawr dyrnu a chafn gwin nis portha#adnabu. LXX. hwynt:
A’r gwin newydd a’i twylla#ddywed gelwydd. hi.#hwynt. LXX., Syr., Vulg.
3Ni thrigant#ni thrigasant. LXX. yn ngwlad yr Arglwydd:
Ac Ephraim a ddychwel#preswyliodd. LXX. a dry i’r. i’r Aipht;
Ac yn Assuria y bwytant beth aflan.
4Ni thywalltant win i’r Arglwydd,
A’u haberthau ni byddant felus ganddo;
Byddant iddynt fel bara galarwyr;
Pawb ag a fwytaont o hono a halogir:
Canys eu bara sydd iddynt eu hunain;
Ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.
5Pa beth a wnewch ar ddydd#ddyddiau. LXX. cymanfa:
Ac ar ddydd gwyl yr Arglwydd.
6Canys wele, hwy a aethant ymaith#rhag mewn ysbail. Syr. oddiwrth ddinystr;
Yr Aipht#oddiwrth adfyd yr Aifft, a Memphis a’u derbyn hwynt, a Machmas a’u cladd; eu harian, dinystr a’i hetifedda LXX. a’u casgl hwynt, Moph a’u cladd hwynt:
Hyfryd aneddau#eu harian dymunol. eu harian hwynt,
Danadl#dyeithriaid. Syr. Vulg. a’u hetifeddant,
Drain fyddant yn eu preswylfëydd hwynt.
7Dyddiau yr ymweliad#y dial. LXX., Syr. a ddaethant,
Dyddiau talu y pwyth a ddaethant;
Israel a gânt wybod:#gwybyddwch, Israel, mai ffol yw y proffwyd. Vulg. Israel a ddrygir fel y proffwyd gwallgof, gwr a gynhyrfir gan yr ysbryd. LXX. Israel a ga wybod ynfydrwydd proffwyd ffol, gwr a wisgwyd âg ysbryd ffolineb. Syr.
Ffol yw y proffwyd,
Ynfyd yw y gwr ysbrydol;#ysbrydoledig. Syr.
Am dy fawr anwiredd;#gan luaws dy anwireddau y lluosogwyd dy ynfydrwydd. LXX. am luaws dy anwireddau a lluaws ynfydrwydd. Vulg.
Mawr ddifrod#y bu helaeth dy drythyllwch. Syr. fydd hefyd.
8Gwyliedydd Ephraim pobl fy Nuw,
Proffwyd, magl heliwr#difrod. Vulg. ydyw ar ei holl ffyrdd;
Rhwyd a guddiasant yn#a thrythyllwch yn. Syr. nhŷ ei Dduw.
9Ymlygrasant megys yn nyddiau Gibeah:#y bryn. LXX.
Efe a gofia eu hanwiredd hwynt;
Efe a ymwel â’u pechodau hwynt.
10Fel grawn yn yr anialwch y cefais Israel;
Megys ffigysen gynar ar ffigysbren, ar ei phen;#yn ei dechreu, yn ei brig, Vulg.
Y gwelais eich tadau:
Hwy a aethant at Baal Peor,#Baal Phegor. LXX. aethant i mewn at. Vulg.
Ac a ymddidolasant at gywilydd;
A bu ffieidd-derau fel#buont yn aflendid. Syr. aethant yn ffiaidd fel y pethau a garasant. Vulg. y carasant.
11Ephraim, eu gogoniant a eheda fel aderyn;#Ephraim a ffoes ymaith fel. LXX., Vulg.
Fel nad esgoront, ac na feichiogont, ac nad ymddygont.#na bo geni ac na &c. o’r geni, ac o’r gwewyr, ac o’r ymddygiad. LXX.
12Canys os magant eu plant;
Ymddifadaf hwynt o ddynion:#diblentir hwynt o. LXX.
Canys gwae fydd iddynt pan ymadawyf oddiwrthynt.
13Ephraim sydd fel y gwelais Tyrus a blanwyd mewn trigfan (brydferth):#yn ei hadeiladau. Syr. Ephraim fel y gwelwn, Tyrus oedd yn seiliedig mewn prydferthwch, porfan. Vulg.
Ond Ephraim sydd i ddwyn allan ei blant i’r lleiddiad.#lladdfa. LXX., Syr.
14Dyro iddynt Arglwydd, beth a roddi:
Dyro iddynt groth yn erthylu;
A bronau hespion.
15Eu holl ddrygioni hwynt yn Gilgal,
Canys yno y caseais hwynt;
Am ddrygioni eu gweithredoedd#dyfeision. Vulg. hwynt;
Bwriaf hwynt allan o’m tŷ:
Ni chwanegaf eu caru hwynt;
Eu holl dywysogion ydynt wrthnysig.#wrthryfelgar, anufudd. LXX. wrthgilus. Vulg.
16Ephraim a darawyd;#flinodd. LXX.
Eu gwreiddyn a wywodd,
Ffrwyth ni ddygant:
Os cenedlant hefyd;
Eto lladdaf anwyliaid#dymuniant eu ymysgaroedd. Syr. eu crothau.
17Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt;
Am na wrandawsant arno ef:
A byddant grwydriaid yn mhlith y cenedloedd.
Đang chọn:
Hosea 9: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.