Genesis 9
9
1Ac yna y bendithiodd Duw Nöe a’i feibion; ac Efe a ddywedodd wrthynt, “Amlhëwch, a lluosogwch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi. 2A bydd eich ofn a’ch arswyd chwi ar holl fwystfilod y ddaiar, ar holl ehediaid y nefoedd, ac ar yr hyn oll a ymsymmudo ar y ddaiar, ac ar holl bysgod y môr: yn eich llaw chwi y rhoddais hwynt. 3Hefyd, pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y rhoddaswn ar y cyntaf y gwyrdd lysienyn, felly rhoddais i chwi yn awr bob dim. 4Ond na fwytëwch gig yng nghyd â gwaed einioes; 5canys yn ddiau gwaed eich einioes chwithau a ofynaf Fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law ei frawd y gofynaf einioes dyn 6A dywallto waed dyn, am y gwaed hwnw tywelltir ei waed yntau; o herwydd ar ddelw Duw y gwnaethym ddyn. 7Ond chwychwi, amlhëwch, lluosogwch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi.”
8Hefyd, Duw a lefarodd wrth Nöe ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, 9“Ac wele! Myfi ydwyf yn cadarnhau Fy nghyfammod â chwi, ac â’ch had ar eich ol chwi; 10ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, yn ehediaid ac yn anifeiliaid, ac â holl fwystfilod y ddaiar, cynnifer ag sydd gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch. 11A Mi a gadarnhâf Fy nghyfammod â chwi; ac ni thorir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dylif; ac ni bydd dylif dwfr mwy i ddyfetha yr holl ddaiar.” 12Dywedodd hefyd yr Arglwydd Dduw wrth Nöe, “Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf Fi yn ei roddi rhyngof Fi a chwi, ac â phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol. 13Fy mwa yr ydwyf yn ei osod yn y cwmwl; ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof Fi a’r ddaiar. 14A bydd, pan gasglwyf gymylau dros y ddaiar, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl; 15ac Mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof Fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd; ac ni bydd y dwfr yn ddylif mwy, i ddyfetha pob cnawd. 16A bydd fy mwa yn y cwmwl, ac Mi a edrychaf gofio o honof y cyfammod tragwyddol rhyngof Fi a’r ddaiar, ac â phob peth byw o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaiar.” 17Hefyd, dywedodd Duw wrth Nöe, “Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof Fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaiar.”
18A meibion Nöe, y rhai a ddaethant allan o’r arch, oeddynt Sem, Cham, a Iapheth. Ond Cham oedd dad Chanaan. 19Y tri hyn oeddynt feibion Nöe; ac o’r rhai hyn yr ymwasgarodd dynion dros yr holl ddaiar.
20A dechreuodd Nöe fod yn llafurwr, ac efe a blanodd winllan; 21ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yn ei dy. 22A gwelodd Cham, tad Chanaan, noethni ei dad; ac efe a aeth ymaith, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan. 23Yna y cymmerodd Sem a Iapheth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad, a’u gwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad. 24A phan ddeffrôdd Nöe o’i win, a gwybod o hono beth a wnaethai ei fab ieuengaf iddo, 25efe a ddywedodd, “Melltigedig fydd Chanaan: gwas gweision i’w frodyr fydd”. 26Dywedodd hefyd, “Bendigedig fydd Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef! 27Duw a helaetha ar Iapheth; a phreswylied ym mhebyll Sem; a bydded Chanaan yn was iddo.”
28A bu Nöe fyw wedi y dylif ddeng mlynedd a deugain a thri chan mlynedd. 29Felly holl ddyddiau Nöe oeddynt ddeng mlynedd a deugain a naw cant; ac efe a fu farw.
Đang chọn:
Genesis 9: YSEPT
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Cyfieithwyd gan Evan Andrews (1804-1869). Genesis 1 i 10:2 a gyhoeddwyd gan W. Spurrell yn 1866. Wedi’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2022.