Matthew Lefi 27
27
1-2Pan ddaeth y bore, yr holl archoffeiriaid a henuriaid y bobl, wedi ymgynghori yn erbyn Iesu, pa fodd y perent ei farwolaeth ef, á’i dygasant yn rwym at Bontius Pilat, y rhaglaw, i’r hwn y traddodasant ef.
3-10Yna Iuwdas, yr hwn á’i bradychasai ef, wedi canfod ei fod wedi ei gollfarnu, a edifarâodd; a chan ddychwelyd y deg sicl àr ugain i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, á ddywedodd, pechais, drwy fradychu y gwirion. Hwythau á atebasant, Beth yw hyny i ni? Edrych di at hyny. Gwedi hyny, efe á daflodd yr arian i lawr yn y deml, ac á aeth ymaith ac á ymdagodd. Yr archoffeiriaid wedi cymeryd yr arian, á ddywedasant, Nid yw gyfreithlawn eu dodi yn y drysorfa gysegredig, am mai gwerth gwaed ydynt. Ond, wedi ymgynghori, hwy á brynasant â hwynt faes y crochenydd, i fod yn gladdfa i ddyeithraid; am ba achos gelwir y maes hwnw, hyd heddyw, Maes y Gwaed. Yna y gwireddwyd gair Ieremia y Proffwyd, “Y deg sicl àr ugain, y gwerth i’r hwn y prisiwyd ef, á gymerais, megys y gosododd yr Arglwydd i mi, gàn feibion Israel, y rhai á’u rhoddasant am faes y crochenydd.”
11-14Ac Iesu á ymddangosodd o flaen y rhaglaw, yr hwn á’i holodd ef, gàn ddywedyd, Tydi yw Brenin yr Iuddewon? Yntau á atebodd, Yr wyt yn dywedyd yn iawn. Ond pan y cyhuddid ef gàn yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. Yna Pilat á ddywedodd wrtho, Onid wyt ti yn clywed o ba faint o droseddau y maent yn dy gyhuddo di? Ond nid atebodd efe un gair, yr hyn á berodd i’r rhaglaw sỳnu yn ddirfawr.
15-26Ac yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddâu, àr yr ŵyl, ryw un o’r carcharorion, à ofynai y lliaws. Ac yr oedd ganddynt y pryd hwnw garcharor hynod â’i enw Barabbas. Am hyny, gwedi iddynt ymgynnull yn nghyd, Pilat á ddywedodd wrthynt, Pwy á fýnwch i mi ei ryddâu i chwi? Barabbas, ynte Iesu, yr hwn á elwir Messia? (Oblegid efe á ganfyddai mai drwy genfigen y traddodasent ef; hefyd, tra yr ydoedd efe yn eistedd àr y frawdfainc, ei wraig á ddanfonodd ato y gènadwri hon, Na fydded i ti à wnelych â’r gwirion hwnw; oblegid mi á ddyoddefais lawer, heddyw, mewn breuddwyd o’i achos ef.) Ond yr archoffeiriaid a’r henuriaid á gymhellasant y lliaws i ofyn Barabbas, a pheru i Iesu gael ei ddienyddu. Am hyny, pan ofynodd y rhaglaw, pa un o’r ddau á ryddâai efe, hwy á atebasant oll, Barabbas. Pilat á atebodd, Pa beth ynte á wnaf i Iesu, yr hwn á alwant Messia? Hwythau á atebasat oll, Croeshoelier ef. Dywedodd y rhaglaw, Paham? Pa ddrwg á wnaeth efe? Ond hwy á waeddasant yn uwch, gàn ddywedyd, Croeshoelier ef. Pilat, pan ganfu nad oedd dim yn tycio, ond eu bod yn myned yn fwy terfysglyd, á gymerodd ddwfr, ac á olchodd ei ddwylaw gèr gwydd y lliaws, gàn ddywedyd, Dieuog wyf fi oddwrth waed y gwirion hwn. Edrychwch chwi at hyny. A’r holl bobl gàn ateb, á ddywedasant, Bydded ei waed ef arnom ni, ac àr ein plant. Yna y rhyddâodd efe Farabbas iddynt, a gwedi peru i Iesu gael ei fflangellu, efe á’i traddododd ef iddynt iddei groeshoelio.
27-31Ar ol hyn milwyr y rhaglaw á gymerasant Iesu i’r dadleudy, lle y casglasant o’i amgylch ef yr holl fyddin. A gwedi ei ddyosg ef, hwy á’i gwisgasant â mantell ruddgoch, ac a’i coronasant â phlethdorch o ddrain, ac á roddasant wialen yn ei law ddëau ef, a chàn benlinio o’i flaen mewn gwawd, á lefasant, Hanbych well, Frenin yr Iuddewon! A gwedi iddynt boeri arno, hwy á gymerasant y wialen, ac á’i tarawsant â hi àr ei ben. Wedi iddynt ei watwar ef, hwy á’i dyosgasant eilwaith, a gwedi rhoddi ei ddillad ei hun am dano, hwy á’i dygasant ymaith iddei groeshoelio.
32-38Fel yr oeddynt yn myned allan o’r ddinas, cyfarfuant ag un Simon, Cyreniad, yr hwn á gymhellasant i gario y groes; a phan ddaethant i le à elwid Golgotha, yr hyn sydd yn arwyddo Penglogfa, hwy á roddasant iddo iddei yfed, winegr wedi ei gymysgu â wermod, yr hwn, wedi iddo brofi, ni fỳnai yfed. Wedi iddynt ei hoelio ef wrth y groes, hwy á rànasant ei ddillad wrth goelbren. A gwedi eistedd i lawr yno, hwy á’i gwarchodasant ef. Ac uwch ei ben y dodasant y #27:32 Arysgrifen; inscription.graifft hon, i ddynodi yr achos o’i farwolaeth; Hwn yw Iesu Brenin yr Iuddewon. Dau ysbeiliwr hefyd á groeshoeliwyd gydag ef, un àr ei law ddëau, a’r llall àr ei aswy.
39-44Yn y cyfamser, y rhai à elent heibio á’i cablent ef, gàn ysgwyd eu penau, a dywedyd, Tydi, yr hwn á ellit ddinystrio y deml, a’i hailadeiladu mewn tridiau; os Mab Duw wyt ti, disgyn oddar y groes. Yr archoffeiriaid hefyd, gyda ’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, gàn ei watwar, á ddywedasant, Efe á waredodd ereill, a all efe mo ’i waredu ei hun? Os Brenin Israel yw efe, disgyned yn awr oddar y groes, a ni á’i credwn ef. Efe á ymddiriedodd yn Nuw. Gwareded Duw ef yn awr, os yw yn ymhoffi ynddo; canys efe á’i galwai ei hun yn Fab Duw. Yr ysbeilwyr hefyd, ei gyd‐ddyoddefwyr, á edliwiasant iddo yr un modd.
45-50Ac o’r chwechfed hyd y nawfed awr, bu tywyllwch dros yr holl dir. Yn nghylch y nawfed awr, Iesu á lefodd â llef uchel, gàn ddywedyd, Eli, Eli, lama sabacthani? hyny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham ym gadewaist? Rhai o’r sawl à safent gerllaw, gwedi clywed hyn, á ddywedasant, Y mae efe yn galw àr Elias. Un o honynt yn ebrwydd á redodd, á ddyg ysbwng, ac á’i mwydodd mewn gwinegr, a gwedi ei rwymo wrth gorsen, á’i rhoddes iddo iddei yfed. Y lleill á ddywedasant, Paid, ni á gawn weled a ddaw Elias iddei waredu ef. Iesu, gwedi llefain drachefn â llef uchel, á roddodd i fyny ei ysbryd.
51-54Ac, wele, llen y deml á rwygwyd yn ddwy oddifyny hyd i waered, y ddaiar á grynodd, a’r creigiau á holltwyd. Beddau hefyd á ymagorasant; a gwedi ei adgyfodiad ef, cyrff llawer o seintiau à hunasent á gyfodwyd, á ddaethant allan o’r beddau, á aethant i’r ddinas santaidd, ac á welwyd gàn lawer. A’r canwriad, a’r rhai gydag ef oeddynt yn gwarchawd Iesu, gwedi canfod y ddaiargryn, a’r hyn à gymerasai le, á ddychrynwyd yn ddirfawr, ac á ddywedasant, Yn wir yr oedd hwn yn fab i Dduw.
55-56Yr oedd yno lawer o wragedd hefyd yn edrych o bell, y rhai á ddylynasent Iesu o Alilea, gàn weini iddo ef. Yn eu plith yr oedd Mair y Fagdalëad, a Mair mam Iago, a Ioses, a mam meibion Zebedëus.
DOSBARTH XVI.
Yr Adgyfodiad.
57-61Yn yr hwyr Arimathëad cyfoethog à elwid Ioseph, yr hwn oedd ei hun yn ddysgybl i Iesu, á aeth at Bilat ac á ofynodd gorff Iesu. Pilat wedi gorchymyn ei roddi i Ioseph; efe á gymerodd y corff, á’i hamdôdd mewn llian glan, ac a’i gosododd yn ei domawd ei hun, yr hwn oedd efe newydd beru ei naddu yn y graig; a gwedi treiglo maen mawr at y drws, efe á aeth ymaith. A Mair y Fagdalëad, a’r Fair arall oeddynt yno, yn eistedd gyferbyn â’r beddrawd.
62-66Tranoeth, sef y dydd àr ol y darparwyl, yr archoffeiriaid a’r Phariseaid á aethant yn un llu at Bilat, ac á ddywedasant. Fy arglwydd, yr ydym yn cofio i’r twyllwr hwn, pan yn fyw, ddywedyd, O fewn tridiau ym cyfodir. Gorchymyn, gàn hyny, fod i’r beddrawd gael ei ddiogelu hyd y trydydd dydd, rhag dyfod o’i ddysgyblion ef a’i ladrata, a dywedyd wrth y bobl, Efe á gyfodwyd oddwrth y meirw; o herwydd byddai y twyll diweddaf hwn yn waeth na’r cyntaf. Pilat á atebodd, Y mae genych warchodlu; gwnewch y beddrawd mòr ddiogel ag y medroch. Yn ganlynol, hwy á aethant ac á’i gwnaethant yn ddiogel, gàn selio y maen, a gosod gwarchodwyr.
Đang chọn:
Matthew Lefi 27: CJW
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.