Matthew Lefi 25
25
1-13Yna tebyg fydd teyrnas y nefoedd i ddeg o wyryfon, y rhai á aethant allan gyda ’u lluserni i gyfarfod â’r priodfab. A phump o honynt oedd gall, a phump yn ffol. Y rhai ffol á gymerasant eu lluserni, a ni ddygasant olew gyda hwynt. Ond y rhai call, heblaw eu lluserni, á ddygasant olew yn eu llestri. Tra yr oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll, ac yr hunasant. Ac àr hanner nos y bu gwaedd, Y mae y priodfab yn dyfod, ewch allan i gyfarfod ag ef. Yna y cyfododd yr holl wyryfon, ac y trwsiasant eu lluserni. A’r rhai ffol á ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi; canys y mae ein lluserni yn diffoddi. Ond y rhai call á atebasant, gàn ddywedyd, rhag na byddo digon i ni ac i chwithau, ewch yn hytrach at y sawl sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. Tra yr oeddynt yn myned i brynu, daeth y priodfab, a’r rhai oeddynt barod, á aethant i fewn gydag ef i’r briodas, a chauwyd y drws. Wedi hyny, daeth y gwyryfon ereill hefyd, gàn ddywedyd, Feistr, feistr, agor i ni. Yntau á atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, Nid wyf yn eich adnabod chwi. Gwyliwch, gàn hyny, am na wyddoch na’r dydd na’r awr.
14-30Canys Mab y Dyn sy debyg i un yn bwriadu myned i wlad ddyeithr, yr hwn á alwodd ei weision, ac á roddes ei eiddo dàn eu gofal; i un y rhoddes efe bumm talent, i arall ddwy, ac i arall un; i bob un yn ol ei allu ei hun, ac yn ddiattreg á gychwnodd. Yna yr hwn á dderbyniasai y pumm talent, á aeth ac á farchnatâodd â hwynt, ac á ennillodd bump ereill. Yr un modd yr hwn á dderbyniasai ddwy, á ennillodd ddwy ereill. Eithr yr hwn à dderbyniasai ond un, á gloddiodd dwll yn y ddaiar, ac á guddiodd arian ei feistr. Yn mhen hir amser dychwelodd eu meistr, ac á wnaeth gyfrif â hwynt. Yna yr hwn à dderbyniasai y pumm talent, á ddaeth ac á gyflwynodd bumm talent ereill, gàn ddywedyd, Syr, pumm talent á roddaist ataf: dyma nhwy, a phumm talent ereill à ennillais. Ei feistr á atebodd, Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn àr ychydig, myfi á roddaf i ti ymddiriad pwysicach. Cyfranoga o lawenydd dy feistr. Yntau hefyd, yr hwn á dderbyniasai y ddwý dalent, á ddaeth yn mlaen, ac á ddywedodd, Syr, dwy dalent á roddaist ataf; dyma nhwy, a dwy dalent ereill à ennillais. Ei feistr á atebodd, Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn àr ychydig, myfi á roddaf i ti ymddiriad pwysicach. Cyfranoga o lawenydd dy feistr. Yna y daeth yntau hefyd, yr hwn á dderbyniasai y dalent, ac á ddywedodd, Syr, myfi á wn mai dyn tost ydwyt, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist; am hyny, mi á ofnais, ac á guddiais dy dalent o dán y ddaiar: ond yn awr yr wyf yn dychwelyd i ti yr eiddot dy hun. Ei feistr gán ateb, á ddywedodd wrtho, Was drygionus á diog, a wyddit ti fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu lle ni wasgerais? Oni ddylesit ti, gàn hyny, roddi fy arian i ’r ariannwyr, fel, àr fy nychweliad, y gallaswn ei dderbyn gyda llog? Cymerwch, gàn hyny, y dalent oddarno, a rhoddwch hi i’r hwn sy ganddo ddeg: canys i bwybynag y mae ganddo y rhoddir chwaneg, ac efe á gaiff helaethrwydd; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y dygir hyd yn nod yr hyn sy ganddo. A bwriwch allan y gwas anfuddiol hwn i dywyllwch, lle y bydd wylofain a rhincian dannedd.
31-33Pan ddel Mab y Dyn yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef, ac y seddir ef àr ei orsedd ogoneddus; yna y cynnullir gèr ei fron ef yr holl genedloedd; ac allan o honynt y didola efe y da oddwrth y drwg, fel y didola bugail y defaid oddwrth y geifr. Efe á esyd y defaid àr ei ddeheulaw, a’r geifr àr ei aswy.
34-40Yna y dywed y Brenin wrth y rhai àr ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas à barotowyd i chwi èr lluniad y byd; canys bum newynog, a chwi á roisoch i mi fwyd; bum sychedig, a chwi á roisoch i mi ddiod; bum ddyeithr, a chwi á’m llettyasoch; bum noeth, a chwi á’m dilladasoch; bum glaf, a chwi á’m cynnorthwyasoch; bum yn ngharchar, a chwi á ymwelsoch â mi. Yna y cyfiawnion á’i hatebant ef, gàn ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y gwelsom di yn newynog, ac yth borthasom; neu sychedig, ac y rhoisom i ti ddiod? Pa bryd yth welsom yn ddyeithr, ac yth lettyasom? Pa bryd yth welsom yn glaf, neu yn ngharchar, ac yr ymwelsom â thi? Y Brenin á etyb iddynt, Yn wir, meddaf i chwi, yn gymaint a’i wneuthur o honoch i un o’r rhai lleiaf hyn fy mrodyr, chwi á’i gwnaethoch i mi.
41-46Yna y dywed efe wrth y rhai àr ei law aswy, Ewch oddwrthyf, rai melldigedig, i’r tân tragwyddol, à barotöwyd i’r diafol a’i gènadau: canys bum newynog, a ni roisoch i mi fwyd: yn sychedig, ond ni roisoch i mi ddiod; bum ddyeithr, ond ni lettÿasoch fi; yn noeth, ond ni ddilladasoch fi; yn glaf ac yn ngharchar, ond ni ymwelsoch â mi. Yna yr atebant hwythau, gàn ddywedyd, Arglwydd, pa bryd yth welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddyeithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yn ngharchar, a ni chynnorthwyasom di? Yna yr etyb efe iddynt, gàn ddywedyd, Yn wir, meddaf i chwi, yn gymaint a na wnaethoch hyny i’r un o’r rhai lleiaf hyn, ni wnaethoch i minnau. A’r rhai hyn á ant i gosbedigaeth tragwyddol, ond y cyfiawnion i fywyd tragwyddol.
Đang chọn:
Matthew Lefi 25: CJW
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.