Tytws 2
2
Yr ail Kytpen
1Eithr tydi traytha yr pethau a wedday ir gwir addysc 2y gwyr hen ar fod yn sobr, dwys, hynaws, iach mewn ffydd Cariad ag ymynedd: 3ar hen wragedd yn yr vn modd ar fod o honynt o gyfriw ymddygiad ag a wedday i dduwioliaeth: nid cam gyhuddyon: [nid rhybyddion gwin] nid rhai a fynychgyrchant ir gwin: eithr ar roi o honynt athraweth dda 4i beri ir gwragedd ieuaynk fod yn sobr eu meddwl, i garû eu gwyr, eû garû eu plant: 5bod yn ddisyml, yn rhianaidd, warcheidwaid [[y tyy]] eu tai: daûonys gostyngedig yw gwyr eu hûn: rhag bod gogan i air dûw: 6y gwyr ieuaink yn yr vn modd kynhora hwynt i fod yn sybr: 7ymhob peth dyro di dyhûn yn siampl gweithredoedd da, mewn dysc: diweirdeb, dwysder, 8iach ymadrodd diwall: mal i bo quilyddus ir gwrthnebwr heb cantho ddim drwg yw ddoyded am danom: 9kynghora ir gwasnaythwyr fod yn vfydd yw meistred: yn rhyglyddû bodd ymhob peth: nid yn ymgydatteb: 10nag yn darnguddio: Eithr yn dangos pob ffyddlondeb da: ir [[urddoli]] anrhydeddû urddasû addysc eyn keidwad ni duw ymhobpeth: 11Cans fo ymrithiawdd y rhad tuw a ddwg iechid ir holl ddynion 12[[ag a rodda]] dan roddi athraweth eyn: ar ymwrthod [[ohonom]] ag anwiredd a thrachwant bydawl: ag ar fyw yn bwyllog yn gyfion ag yn dduwiol yn y byd yma: 13yn discwyl am y gobaith dedwyddawl (gwynfydedig) ag ymrithiad gogoniant y dûw mawr: ayn keidwad iesu grist: 14rhwn ai rhoddes eu hûn trosom ir yn prynnû (ymwared) o ddiwrth hôll anwiredd ag eyn puro yn bobl eilltûol i dduw eu hûn [a ymgytgym a gweithredoedd da] yn fawr eu hynni (hawydd) i weithredoedd da (gorllwyngar gweithredoedd da): 15y pethaû hyn traytha a chynghora: a chyrydda yn ffrayth [[trwy holl awydd gorchymyn]] gwna na [[ddiystyro]] (ddirmyko) neb dydy.
Đang chọn:
Tytws 2: RDEB
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Epistolau Bugeiliol gan Esgob Richard Davies. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.