Phylomenes 1
1
Y Cytpen kyntaf
1Pawl carcharor krist iesu ar brawd tymotheus: at [. . .] [phile]mon: anwyl eyn kymhorthwr ni 2ag at appya gred[ig] ag archyppws: eyn kydryfelwr ag at y gynylleidfa sy [yn] dy dyy di: 3gras ywch a thenghefedd i can dduw yn [ . . .] ar arglwydd iesu grist: 4Diolch i rydwy i dduw maû sy yn dy goffaû y fewn fyngweddiaû. 5Can fy mod yn klowed son am y Cariad tau ar ffydd sydd kenytt tuag att yr arglwydd iesu: a thuagatt yr holl saint: 6hyd yn oed bod kyfran dy ffydd daû yn ffrwythlon mewn gwybodeth pob daûoni sydd ynochi yngrhrist iesu: 7mawr ywr llywenydd ar cownffort sydd kenyn yn y cariad taû o herwydd ytt fymrawd gusuraw calonay r saint: 8ag am hyn kyd gallwn i yn hyderûs orchymyn i tydi yr hyn a berthynay: 9etto ir mwyn cariad dewisach yw kenyf ddymunaw arnat: kyd fy mod fal i rydwy: yr hen bawl ag yr awr hon kyrcharor iesu grist: 10fy nemuniad arnat sydd tros fy mab rhwn a ynnillais y fewn fy rhwymay: 11onesymws rhwn ryw amser ydoedd amrhoffidiol i tydy eithr yr awr hon yn broffidiol i ti ag i minaû: 12yr hwn a ddanfonais adref eilwaith: dithaû am hyn derbyn efo sef yw yr enaid maû: 13yr hwn a attaliaswn i gida myfy mal i gallai ef fyngwasneuthu fi trosoti y fewn rhwymaû r efengil: 14ethr ni fynnwn i wneuthyr dim heb dy gyngor taû: mal na byddai dy ddaioni di megis o gymhell namyn wollysawl. 15Cans fo ddymwyniai mai am hynny ir ymadawodd tros amser: fal i gallyr i dderbyn ef yn dragwyddawl: 16nid bellach fal gwasnaythwr eithr vwch no gwasnaythwr: yn frawd anwyl yn benddifaddau i myfi: eithr i tydi yn rhagorawl bob vn [ai eyn] y knawd ag yn yr arglwydd: 17ag am hyn o kymeri di fi yn gydymaith derbyn ef fal fi fy hun: 18o gwnaeth ef i tydi ddim niwed neû i fod yn ddeledwr ytt: kyfri hynny i myfi: 19myfi pawl ai yscrifennodd am llaw fyhun: myfi ai dewgiaf: fal hyn ni dydwy yn son dy fod yn ddeledus i myfi o honott dy hun hefyd: 20fal hyn fymrawd bid i mi dy feddiannu di yn yr arglwydd: kysura y keudawd mau yn yr arglwydd: 21am fy mod yn hyderus oth vfyddtra taû ir ysgrifennais attatt: yn gwybod i gwneid di mwy nag i rydwy yn i ddoyded: 22Am ben hyn darparaa i myfi letty: Cans gobeithio i rydwy drwy help ych gweddiau chwi im rhoddir i chwi: 23y may yn erchi dannerch: Epaphras fynghydgarcharor [[yn yr arglwydd]] yngrhist iesu: 24marcws: arystarcws: Demas: lucas: fynghymhorthwyr: 25Gras yr arglwydd iesu grist a fo gidach ysbryd amen
O rufain i danfonwyd
gidag onesimws gwasnaythwr.
Đang chọn:
Phylomenes 1: RDEB
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Epistolau Bugeiliol gan Esgob Richard Davies. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.