Eseia 14
14
XIV
5 Jehofah a ddrylliodd ffon yr anwiriaid,
Gwialen y gorthrymwyr,
6Yr hon a darawodd y bobloedd mewn digllonedd,
Gydâg ergydion gwastadol;
A lywodraethai y Cenhedloedd mewn llidiogrwydd,
Gydâ gorthrymder heb attalfa.
7Yr holl ddaear sydd mewn gorphwysfa, y mae yn llonydd,
Torrasant allan mewn bloedd orfoleddus:
8Y ffynnidwydd hefyd a lawenhasant yn dy erbyn,
A chedrwydd Libanus, gan ddywedyd:
Er pan orweddaist
Nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn.
9Hades oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos,
I gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad:
Hi a gyfododd i ti gysgodau (ysprydion) holl dywysogion y ddaear:
Cyfododd o’u gorseddfaoedd holl frenhinoedd y Cenhedloedd.
10Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt:
A wanhawyd tithau fel ninnau?
A ddaethost ti yn gyffelyb i ni?
11Disgynwyd dy falchder i Hades,
A thrwst dy nablau:
Danat y pryf sydd daenedig,
A’r pryf ydyw dy orchudd.
12Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd,
O Lusiffer, mab y bore!
Wedi dy dorri i’r ddaear,
Ti yr hwn a orfoleddaist ar y Cenhedloedd!
13Canys ti a ddywedaist yn dy galon,
Mi a ddringaf i’r nefoedd,
Oddi ar ser Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa;
A mi a eisteddaf ar fynydd y gynnulleidfa, yng ngororau pellaf y Gogledd:
14Esgynnaf yn uwch nag uchelion y cwmmwl;
Tebyg fyddaf i’r Goruchaf.
15Er hynny i Hades y’th ddisgynnir,
I ddyfnderau iselaf y ffos.
16Y rhai a’th welant di a edrychant yn graff arnat;
Ac a ystyriant o’th blegid di:
Ai dyma y gwr a wnaeth i’r ddaear grynu?
A gynhyrfodd deyrnasoedd?
17A wnaeth y byd fel anialwch,
Ac a ddinystriodd ei ddinasoedd?
Yr hwn ni ollyngai ei garcharorion yn rhyddion tu ag adref?
18Holl frenhinoedd y Cenhedloedd, yr oll o honynt,
A orweddant mewn gogoniant, bob un yn dŷ ei hun:
19Eithr ti a fwriwyd allan, wedi dy amddifadu o’th fedd,
Fel cangen ffiaidd. …
Đang chọn:
Eseia 14: TEGID
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.