Galatiaid 1
1
Cyfarchiad.
1Paul, Apostol — nid oddiwrth ddynion, na chwaith trwy ddyn#1:1 “Ni ddeilliodd ei awdurdod Apostolaidd o ddynion, ac ni neillduwyd ef i'w waith gan unrhyw ddyn.”, ond trwy Iesu Grist a Duw Dâd, yr Hwn a'i cyfododd Ef o feirw#1:1 Yr oedd Paul yn gennad y Crist adgyfodedig a gogoneddedig.— 2a'r holl frodyr#1:2 Gweler Act 20:4, 5, Sopater, Aristarchus, Secundus, Gaius, Timotheus. sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: 3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw#1:3 Dduw ein Tad a'r Arglwydd א A. Testyn, B D F G Brnd. Dâd a'n Harglwydd Iesu Grist, 4yr Hwn a roddes ei Hun am#1:4 Peri, am, mewn perthynas i, א A D F G Brnd.; uper, ar ran, dros, B. ein pechodau#1:4 Y mae Paul ar unwaith yn amddiffyn ei apostolaeth a'i athrawiaeth., fel y'n gwaredai#1:4 Yr oedd y Galatiaid wedi syrthio yn ol i gaethiwed, ac mewn perygl dybryd. ni allan o'r byd#1:4 Gr. oes, yn enwedig yn ei hyspryd a'i thueddiadau llygredig. drwg presennol, yn ol ewyllys#1:4 Felly try yn ol ddysgeidiaeth y gau‐athrawon, oblegyd y mae yr oll o ras. ein Duw a'n Tâd#1:4 Neu, ‘yn ol ewyllys Duw a'n Tâd.’, 5i'r Hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Paul yn amddiffyn ei Apostolaeth.
6Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan#1:6 Naill a (1) ar ol eich troedigaeth, neu, (2) fy ymweliad diweddar, neu (3) mor ebrwydd, ar ol dyfodiad y gau‐athrawon. yn symmud#1:6 Amser presennol: yn myned trosodd, gwrthgilio, ymadaw. oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yng ngras Crist i efengyl wahanol, 7yr hon nid yw arall#1:7 Heteron, gwahanol, arall yn ei natur; allo, arall mewn rhif. Gwedy y blaenaf debygrwydd, yr olaf, hunaniaeth. Saif yr efengyl wrthi ei hun; nid oes arall. Os dysgir rhywbeth gwahanol, nid Efengyl mo hono. Nid oes ail Efengyl.: ond fod rhai yn eich cythryblu chwi, ac yn chwennych dattroi#1:7 Troi i'r gwrthwyneb, yna, dymchwelyd. efengyl Crist. 8Eithr pe bai hyd y nod i nyni#1:8 Paul a'i gymdeithion. Yr oedd Timotheus a Silas gydag ef yn Galatia (Act 15:40; 16:1, 6). neu angel#1:8 Fel cennad pennaf ac uniongyrchol Duw. o'r nef efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded felldigedig#1:8 Anathema, ‘yr hyn a ddiofrydir i'w aberthu’; yma, melldith.. 9Megys y dywedasom#1:9 Yn debygol, ar ei ail ymweliad. o'r blaen, yr wyf hefyd yn awr drachefn yn dywedyd, Os oes neb yn efengylu i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig#1:9 Anathema, ‘yr hyn a ddiofrydir i'w aberthu’; yma, melldith.. 10Canys yn awr ai am ennill ffafr#1:10 Peithô, darbwyllo, ennill ffafr, denu; ‘ac wedi ennill Blastus’ (Act 12:20). Cyhuddid yr Apostol o wneyd pob peth er ennill ffafr dynion. dynion yr wyf, neu ynte Duw? A ydwyf yn ceisio boddloni#1:10 Amser ammherffaith, ‘Canys os yr holl amser hyn y byddwn yn ymdrechu boddloni dynion, ni fyddwn gaethwas [fel yr wyf wedi bod] i Grist.’ dynion? Os#1:10 Canys; gad. א A B D Brnd. hyd yn hyn y byddwn yn boddloni#1:10 Amser ammherffaith, ‘Canys os yr holl amser hyn y byddwn yn ymdrechu boddloni dynion, ni fyddwn gaethwas [fel yr wyf wedi bod] i Grist.’ dynion, ni fyddwn was i Grist. 11Canys#1:11 Canys B D F G; eithr א A. yr wyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad ydyw yn ol#1:11 “Y mae kata, ‘yn ol,’ yn cynnwys grym y tri arddodiad oddiwrth, trwy, gan.” — Bengel. Cyfyngir yr ymadrodd ‘yn ol dyn’ i'r Rhufeiniaid, Corinthiaid, a Galatiaid. dyn. 12Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, ond trwy ddadguddiad Iesu Grist#1:12 Hynny yw, oddiwrth Iesu Grist; yn bennaf ar adeg ei droedigaeth, ac wedi hynny yn raddol.. 13Canys chwi a glywsoch am fy ymarweddiad#1:13 Llyth., rhodiad, yna, buchedd, ymddygiad, bywyd yn ei arddangosiad. gynt#1:13 Yr oedd Paul yn hoff o gyfeirio atto (Act 22:4, 5; 26:10, 11; 1 Cor 15:9; 1 Tim 1:13). mewn Iuddewaeth#1:13 ‘Yn y ffydd a'r addoliad Iuddewig.’, i mi tros fesur erlid eglwys Dduw a'i hanrheithio hi; 14a myned rhagof mewn Iuddewaeth tuhwnt i lawer o'm cyfoedion#1:14 Rhai o'r un oedran. yn fy nghenedl, gan fod o'r dechreu yn fwy gorselog tros draddodiadau fy nhadau. 15Ond pan welodd Duw#1:15 Duw א A D.; gad. B F G. yn dda, yr hwn a'm neillduodd#1:15 ‘Yr Hwn a'm nododd allan oddiwrth eraill.’ o'm genedigaeth#1:15 Llyth., ‘o groth fy mam.’, ac a'm galwodd#1:15 Y mae troedigaeth yn alwad i ymgyssegriad a gwasanaeth. trwy ei ras, 16i ddadguddio ei Fab ynof fi#1:16 Cafodd yr Apostol nid yn unig ei oleuo ond ei drawsffurfio. Yr oedd yn ymgorphoriad o Grist. Y mae ‘dadguddio’ yn cynnwys bywyd ac athrawiaeth., fel y pregethwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed#1:16 “Cynnwysa ‘cig a gwaed,’ natur dyn, synwyr a rheswm ar wahan â'r Yspryd Glân.” — Melancthon. Gweler Mat 16:17.; 17ac nid aethum#1:17 Aethum i fyny א A K L P.; aethum ymaith B D F G. ymaith i fyny i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr aethum ymaith i Arabia#1:17 Tebygol i gymmydogaeth ramantus Sinai, i unigrwydd er myfyrio a pharotoi ar gyfer ei waith mawr ac arbennig. Credir iddo dreulio yn agos i dair blynedd cyn dychwelyd.; a thrachefn y dychwelais i Damascus.
Ei ymweliad a Jerusalem, Syria, a Cilicia.
18Yna ar ol tair blynedd aethum i fyny i Jerusalem i ymweled#1:18 Historeô, gwneyd ymchwiliad manwl, cael allan trwy ymchwiliad, ennill gwybodaeth trwy ymweled, ymgydnabyddu. a Cephas#1:18 Yr unig gyfeiriadau at Petr tu allan i'r Epistol hwn, geir yn 1 Cor 1:12; 3:22; 9:5; 15:5.#1:18 Cephas א A B; Petr D F G., ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod#1:18 Gweler Act 9:29, 30; 22:17–21.; 19eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd#1:19 Yn debygol yn frawd naturiol i'r Iesu ac nid yn fab i Cleophas a chwaer Mair. Cyfrifir ef yma yn Apostol, er nad oedd yn perthyn i'r Deuddeg.. 20A'r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn dywedyd celwydd. 21Wedi hynny daethum i ororau Syria a Cilicia#1:21 Yn Act 15:23, 41 cawn eglwysi a sylfaenwyd yn ddiamheu gan Paul.; 22ac yr oeddwn yn anadnabyddus yn bersonnol#1:22 Llyth., wrth fy wyneb. i eglwysi Judea#1:22 Sef, tu allan i Jerusalem., y rhai oeddynt yng Nghrist; 23ond yn unig yr oeddynt yn clywed: Yr hwn oedd gynt, yn ein herlid, sydd yn awr yn pregethu y Ffydd#1:23 Saif am yr Efengyl, yna yr Eglwys a'i coleddai. yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio; 24a hwy a ogoneddasant Dduw ynof#1:24 ‘Yn fy achos’ fel esiampl o'i gallu a'i dylanwad. fi.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Galatiaid 1: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.