โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

Galatiaid 2

2
Ei ail ymweliad a Jerusalem.
1Gwedi hynny, wedi yspaid#2:1 Llyth., trwy, yn ystod; ond y mae yn amlwg y golygir ar ddiwedd yr yspaid. pedair blynedd‐ar‐ddeg#2:1 Ai er troedigaeth Paul, neu er ei ymweliad cyntaf â Jerusalem? Yr olaf yn fwyaf tebygol, gan y pwysleisia yr Apostol anamlder ei gyfathrach â'r Apostolion eraill a'r eglwys yn Jerusalem., yr aethum drachefn i fyny i Jerusalem gyda Barnabas#2:1 Yr oedd Barnabas yn gydymaith Paul pan yn plannu eglwysi Galatia., gan gymmeryd Titus#2:1 Ni enwir Titus yn yr Actau, ond y mae amryw o gyfeiriadau atto yn Epistolau Paul (2 Cor 2:13; 7:6, 7; 8:6, 17, &c.). hefyd gyda mi. 2Ac aethum i fyny yn ol dadguddiad, a gosodais o'u blaen yr efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y Cenhedloedd, ond yn gyfrinachol#2:2 Neu, yn ddirgelaidd, o'r neilltu. i'r rhai mewn cyfrif#2:2 Hoi dokountes, rhai yn ymddangos, rhai a gyfrifir o bwys, rhai a berchir, o ddylanwad, arweinwyr, rhai o fri. Nid oes gwatwaredd yn y gair., rhag mewn un modd y rhedwn neu y rhedais yn ofer#2:2 Nid ei fod yn amheu ei athrawiaeth yn y mesur lleiaf, ond yr oedd yn awyddus i osgoi gwrthwynebiad cyhoeddus o ran yr Apostolion neu yr eglwys yn Jerusalem. Hyn a lesteiriai lwyddiant ei weinidogaeth ym mhlith y Cenhedloedd.. 3Eithr hyd y nod Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ni orfodwyd i enwaedu arno: 4eithr hynny o herwydd y gau‐frodyr a ddygwyd i mewn yn llechwraidd#2:4 Pareisaktous, wedi eu dwyn i mewn yn ddirgel, yn ddichellgar, cynllwyngar, &c. Y mae y brawddegau yn anorphenedig. ‘Eithr o herwydd y gau‐frodyr’; pa beth ddygwyddodd? Ni ddywed yr Apostol. Dywed rhai i Titus gael enwaedu arno, ond y mae rhediad yr adran ac ystum Paul yn erbyn y syniad., y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspio ein rhyddid, yr hwn sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y'n dygent i gaethiwed: 5i'r rhai ni roisom ffordd mewn#2:5 Neu, trwy. ymostyngiad, naddo, am awr, fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. 6Ond oddiwrth#2:6 Y mae teimlad yr Apostol yn gyffrous, ac felly ni ddywed beth gafodd oddiwrth y rhai mewn cyfrif, ond ail‐ddechreua y frawddeg ar ol yr hyn a roddir rhwng cromfachau. y rhai mewn cyfrif#2:6 Hoi dokountes, rhai yn ymddangos, rhai a gyfrifir o bwys, rhai a berchir, o ddylanwad, arweinwyr, rhai o fri. Nid oes gwatwaredd yn y gair. eu bod yn rhywbeth (pa beth bynnag oeddynt, ni wna ddim gwahaniaeth i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn), canys y rhai mewn cyfrif#2:6 Hoi dokountes, rhai yn ymddangos, rhai a gyfrifir o bwys, rhai a berchir, o ddylanwad, arweinwyr, rhai o fri. Nid oes gwatwaredd yn y gair. ni chyfranasant#2:6 Gweler 1:16, ‘ymgynghori’ mewn ffordd o dderbyn neu gyfrannu. Defnyddir y gair mewn cyssylltiad ag ymgynghori âg oraclau y duwiau paganaidd. Yna dynoda, cyfrannu cynghor neu wybodaeth. ddim i mi: 7eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megys am efengyl yr enwaediad i Petr 8(canys yr Hwn a weithiodd#2:8 Energeô, gweithio yn egniol, yn effeithiol. yn#2:8 Neu, ‘a weithiodd i’ neu ‘dros Petr.’ Petr er apostolaeth yr enwaediad#2:8 Sef pregethu yr efengyl i'r Iuddewon., a weithiodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd); 9a phan wybu Iago#2:9 Iago, brawd yr Arglwydd. Yr oedd Iago brawd Ioan wedi ei ferthyru (Act 12:1).#2:9 Petr ac Iago D E F G.; Testyn, א B C Brnd. a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu‐ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. 10Yn unig dymunent ar i ni gofio y tlodion#2:10 Y tlodion yn Jerusalem a Judea., yr hyn beth yr oeddwn hefyd yn awyddus i wneyd.
Paul a Phetr yn Antioch.
11A phan ddaeth Cephas#2:11 Cephas א A B C Brnd.; Petr D F G. i Antioch, mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb, canys yr oedd yn gondemniedig#2:11 Yr oedd ei ymddygiad yn gondemniad ynddo ei hun. Gwnaeth y Tadau lawer ymgais i gyfiawnhau Petr, trwy ddweyd mai Kephas arall oedd hwn, mai ‘mewn ymddangosiad’ [yn y gwaith] yn unig y beiodd Paul ef, &c.. 12Oblegyd cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, efe a fwyttâodd gyda'r Cenhedloedd; ond pan ddaethant#2:12 Daeth yw darlleniad amryw o'r hen law‐ysgrifau. Os hwn yw y darlleniad iawn, golygir Iago neu Petr o'i flaen; ond y mae yn ddiamheuol mai llygriad yw.#2:12 Ddaeth א B D F G; daethant A C., efe a dynnodd yn ol ac a ymwahanodd, gan ofni y rhai oedd o'r enwaediad. 13A chydag ef hefyd y cyd‐ragrithiodd y lleill o'r Iuddewon, fel y dygwyd ymaith Barnabas hefyd â'u rhagrith hwy. 14Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn‐droedio#2:14 ‘Y maent yn gŵyro oddiwrth lwybr uniawn gwirionedd.’ yn ol gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Cephas#2:14 Cephas א A B C Brnd.; Petr D F G. yn eu gŵydd hwynt oll, Os wyt ti, a thi yn Iuddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iuddewon, pa fodd yr wyt yn dirgymhell#2:14 Neu, gorfodi. y Cenhedloedd i fyw#2:14 Neu, ‘fabwysiadu arferion Iuddewig.’ fel Iuddewon? 15Nyni wrth naturiaeth ydym Iuddewon, ac nid yn bechaduriaid#2:15 Gan ddefnyddio yn watwarus iaith yr Iuddewon am y Cenhedloedd dienwaededig, megys rhai digyfraith neu annghyfiawn, pechaduriaid, &c. o'r Cenhedloedd; 16ond yn gwybod na chyfiawnheir#2:16 Yn yr Hen Destament, ac yn y Newydd, gyda'r eithriad o'r defnydd a wneir o'r gair gan Paul yn y Rhufeiniaid a'r Galatiaid, hefyd yn 1 Cor 6:11 a Titus 3:7. Dynoda ryddhau o euogrwydd, clirio cymmeriad trwy fod y person yn ddiniwed neu yn lân. Yma ac yn Rhuf. (megys yn 3:21, 24) dynoda ‘ddadgan yr euog yn gyfiawn,’ cyfrif yn gyfiawn, ymddwyn tuag at un fel yn gyfiawn, o herwydd ei ffydd yng Nghrist. dyn gan#2:16 Llyth., allan o, fel tarddell cyfiawnhâd. weithredoedd deddf, ond trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnheid trwy#2:16 Llyth., allan o, fel tarddell cyfiawnhâd. ffydd yng Nghrist ac nid trwy#2:16 Llyth., allan o, fel tarddell cyfiawnhâd. weithredoedd deddf; oblegyd ni chyfiawnheir un cnawd trwy#2:16 Llyth., allan o, fel tarddell cyfiawnhâd. weithredoedd deddf#2:16 Dynodir ‘deddf’ yma fel egwyddor, heb fannod, ac nid fel yn ymgorphoredig yn Neddf Moses!. 17Eithr os, tra yn ceisio cael ein cyfiawnhâu yng Nghrist, y'n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist gan hynny yn weinidog pechod? 18Na atto Duw#2:18 Llyth., na fydded o gwbl, ‘ymaith a'r fath syniad’! Defnyddir yr ymadrodd ddeng waith yn y Rhufeiniaid, tair gwaith yn y Galatiaid, ac unwaith yn y Corinthiaid.. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn profi#2:18 Neu, cyfansoddi, dangos. fy hun yn droseddwr. 19Canys myfi trwy ddeddf#2:19 Dynodir ‘deddf’ yma fel egwyddor, heb fannod, ac nid fel yn ymgorphoredig yn Neddf Moses! fum farw#2:19 Gwaith y Ddeddf oedd deffroi ymwybodolrwydd o bechod a'r anallu i ddianc rhag ei gosp; yr oedd hefyd yn ‘athraw,’ hyfforddwr, arweinydd at Grist (3:24), a ‘Christ yw diwedd y ddeddf’ (Rhuf 10:4), ac efe a gyflawnodd ei holl ofynion. i ddeddf#2:19 Dynodir ‘deddf’ yma fel egwyddor, heb fannod, ac nid fel yn ymgorphoredig yn Neddf Moses!, fel y byddwn fyw i Dduw. Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ#2:19 Yn ei brofiad yn ei undeb cyfriniol â Christ y mae yr hen fywyd yn darfod o dan ddylanwad y Groes. Y mae wedi marw i hawliau y Ddeddf, ond yn byw i ofynion y cyfiawnder sydd yng Nghrist.; 20ac nid myfi mwyach sydd yn byw#2:20 Gwell un frawddeg na'i thorri i fyny yn ddwy, “Eithr byw ydwyf; etto nid myfi.” ‘Nid fy mywyd i ydyw ond bywyd Crist ynof.’ Efe yw y winwydden, ninnau ydym y canghennau, a'i fywyd Ef sydd yn treiddio trwyddynt oll., ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yn awr yr wyf yn ei fyw yn y cnawd, yr wyf yn ei fyw mewn ffydd, yr hon sydd ym Mab#2:20 Mab Duw א A C; yn Nuw a Christ B D F G. Duw, yr Hwn a'm carodd ac a'i rhoddes ei Hun i fyny drosof#2:20 Defnyddir y frawddeg yn fynych yn yr Efengylau am Grist yn rhoddi ei fywyd dros ddynion (Marc 9:31; 10:33).. 21Nid wyf yn dirymmu gras Duw; canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ddianghenrhaid#2:21 Dôrean, nid yn gymmaint yn ‘ofer,’ ond yn ‘ddiachos,’ yn ‘anfuddiol,’ yn ‘ddianghenrhaid.’.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Galatiaid 2: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้