โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

2 Corinthiaid 13

13
Yr Ymchwiliad difrifol.
1Hon yw y drydedd#13:1 Barna y rhan fwyaf o esbonwyr i Paul dalu tri ymweliad â Chorinth. waith yr ydwyf yn dyfod attoch. Yng ngenau dau dyst neu dri y sefydlir pob gair#13:1 Gweler Deut 19:15. Cä yr euog eu dwyn i brawf, yn ol Cyfraith Moses a gorchymyn Crist (Mat 18:16). Neu, efallai, y cyfeiria at ei ymweliadau fel tystion yn eu herbyn.. 2Rhag‐ddywedais ac yr wyf yn rhag‐ddywedyd, fel pan#13:2 Neu, pe. Tebygol fod Paul wedi talu ail ymweliad â Chorinth. yn bresennol yr ail waith, ac yr awrhon yn absennol#13:2 yn ysgrifennu; gad. א A B D Brnd., wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill oll, os deuaf drachefn, nad arbedaf: 3gan eich bod yn ceisio prawf o'r Crist sydd yn llefaru ynof#13:3 Yr oeddynt am ryw arddangosiad gwyrthiol o awdurdod yr Apostol fel cennad Crist., yr hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol yn eich mysg#13:3 Wedi eu cynnysgaethu â doniau lawer, megys tafodau, &c.; 4canys croeshoeliwyd#13:4 Os; gad. א A B D F G. ef yn wir trwy#13:4 Llyth., allan o, gan ddangos ffynnonnell angau a bywyd. wendid, eithr byw y mae trwy#13:4 Llyth., allan o, gan ddangos ffynnonnell angau a bywyd. allu Duw. Canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo#13:4 Ynddo B D K L P; gydag, א A F G. ef#13:4 Fel dyoddefwyr oddiwrth ormes eu gwrthwynebwyr, gan fod ‘yn ufudd hyd angau.’, eithr byw#13:4 Mewn bywyd cryf ysprydol; nid yn gymmaint bywyd yr adgyfodiad. fyddwn gydag ef trwy#13:4 Llyth., allan o, gan ddangos ffynnonnell angau a bywyd. allu Duw tuag attoch chwi. 5Profwch#13:5 Peirazô, profi, holi; yna temtio (yn fynych mewn ystyr drwg). eich hunain a ydych yn y ffydd: gwnewch brawf#13:5 Dokimazô, ‘dwyn i'r maen‐prawf,’ ‘profi peth er gweled a ydyw o werth ei dderbyn,’ &c. Felly golyga fod y prawf yn foddhâol a'r mater yn ‘gymmeradwy.’ Felly awgrymma y gair yma, y gall y Corinthiaid sefyll y prawf. o honoch eich hunain: neu oni lawn adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi? oddieithr yn wir eich bod yn annghymmeradwy#13:5 ‘Yn methu sefyll y prawf.’. 6Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn annghymmeradwy. 7Ac yr#13:7 Yr ydym א A B D F G; yr wyf. Test. Derb. ydym yn gweddio ar Dduw na wneloch ddim sydd ddrwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd iawn#13:7 Kalos, da, iawn, prydferth., er i ni fod fel yn annghymmeradwy. 8Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr dros y gwirionedd#13:8 ‘Gyda'r gwirionedd o'm tu, gallaf wneuthur pob peth, ond yn fy erbyn, nis gallaf wneuthur dim.’. 9Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid#13:9 Gan fod heb gyfle i ddangos ei awdurdod i gospi o herwydd eu bywyd cryf ysprydol hwy. a chwithau yn gryfion; hyn hefyd yr ydym yn gweddio am dano, sef eich perffeithiad#13:9 Katartisis [yma yn unig yn y T.N.], cymhwysiad, ‘gosodiad at eu gilydd o wahanol rannau.’ Dynoda yma ‘gosod pob aelod yn ei le priodol,’ fel y sicrheir cyd‐bwysedd, tyfiant, ymddadblygiad, perffeithrwydd. chwi. 10O herwydd hyn, a myfi yn absennol, yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf yn bresennol, nad ymddygaf yn llym#13:10 Neu, arferwyf lymder (neu doster). yn ol yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.
Diweddglo.
11Bellach, frodyr, byddwch wych#13:11 Llyth., llawenychwch!: byddwch berffaith: dyddaner chwi: syniwch yr un peth: byddwch heddychol: a Duw y cariad a'r heddwch fyddo gyda chwi. 12Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd#13:12 Arferid ei roddi yn bennaf ar adeg y Swper, ond nid ar Wener y Groglith o herwydd cusan Judas. Arferir ef hyd heddyw yn yr eglwysi Rwssiaidd ac Aiphtiaidd.: 13Y mae yr holl saint yn eich annerch. 14Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyda chwi oll#13:14 Amen D; gad. א A B F G..

ที่ได้เลือกล่าสุด:

2 Corinthiaid 13: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้