2 Corinthiaid 9
9
Cymhelliad i gyfrannu yn llawen, a'r fendith o hynny.
1Canys yn wir am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu attoch; 2canys gwn eich parodrwydd, am yr hwn yr wyf yn ymffrostio drosoch chwi wrth y Macedoniaid#9:2 Tebygol felly fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifennu o Macedonia., fod Achaia wedi ymbarottoi er y llynedd; a'ch sêl chwi#9:2 Llyth., y sêl ddaeth allan o honoch chwi, ‘yr hwn a ddechreuodd gyda chwi.’ a symbylodd y rhan fwyaf o honynt. 3Eithr mi a ddanfonais y brodyr#9:3 Gweler 8:16–24., fel na wneler ein hymffrost ni, yr hwn sydd ar eich rhan chwi, yn ofer yn y mater hwn#9:3 Neu, yn y rhan hon, ‘yn yr ystyr hwn.’, sef, fel y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi; 4rhag mewn un modd, os daw Macedoniaid gyda mi, a'ch cael yn ammharod, bod i ni — ni ddywedwn, chwi — gael ein cywilyddio yn yr hyder#9:4 Hupostasis (‘yr hyn a saif o dân), sylfaen, sylwedd, ‘gwir lun ei sylwedd ef’ (Heb 1:3), yna, sefydlogrwydd, diysgogrwydd, hyder. Rhydd y LXX y gair am un‐ar‐ddeg o eiriau Hebraeg. Y mae yn air cryfach na pepoithêsis, yr hwn a ddynoda yr hyder neu argyhoeddiad mewnol; ond y blaenaf, y ffeithiau neu y sylweddau ar y rhai yr ymorphwys yr hyder hwn. hwn#9:4 O ymffrost; gad. א B C D F G.. 5Mi a feddyliais gan hynny yn angenrheidiol attolygu i'r brodyr fyned o honynt o'r blaen attoch, a rhag‐ddarparu eich caredigrwydd#9:5 Llyth., eich bendith. Dyma yr unig fan lle y defnyddir y gair ‘bendith’ am ‘rodd’ yn y T.N. Defnyddir y gair yn y LXX am rodd neu fendith (Gen 33:11; Barn 1:15; Esec 34:26). Yn Diar 11:25, gelwir yr ‘enaid haelionus’ yn ‘enaid bendigedig.’ Y mae y rhodd o gariad a haelioni yn cyfrannu bendith ac yn dwyn bendith i'r rhoddwr. a rag‐addawyd#9:5 Felly א B C D F G Brnd.; rag‐fynegwyd, Test. Derb., fel y byddo y cyfryw yn barod, fel mater o garedigrwydd#9:5 Llyth., eich bendith. Dyma yr unig fan lle y defnyddir y gair ‘bendith’ am ‘rodd’ yn y T.N. Defnyddir y gair yn y LXX am rodd neu fendith (Gen 33:11; Barn 1:15; Esec 34:26). Yn Diar 11:25, gelwir yr ‘enaid haelionus’ yn ‘enaid bendigedig.’ Y mae y rhodd o gariad a haelioni yn cyfrannu bendith ac yn dwyn bendith i'r rhoddwr., ac nid o gybydd‐dra#9:5 Neu, gribddeiliad, trais, gorfodaeth; rhywbeth wedi ei wasgu allan o honynt yn erbyn eu hewyllys.. 6Ond hyn ystyriwch#9:6 Neu, yr wyf yn ei ddywedyd.:
Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd hefyd yn brin.
A'r hwn sydd yn hau yn hael#9:6 Llyth., ar sail neu gyda bendithion, gan ddangos yr yspryd a'i hysgoga, sef y dymuniad o gyfleu bendith i eraill, gan fod o duedd garedig, a meddiannu calon haelionus. Daw bendithion yn ol i'w yspryd ei hun., yn hael#9:6 Llyth., ar sail neu gyda bendithion, gan ddangos yr yspryd a'i hysgoga, sef y dymuniad o gyfleu bendith i eraill, gan fod o duedd garedig, a meddiannu calon haelionus. Daw bendithion yn ol i'w yspryd ei hun. hefyd y mêd#9:6 Yn y bennod hon rhydd yr Apostol lawer o enwau ar y fendith hon o haelioni. Geilw hi pan ystyria (1) ei ffynnonnell yn ras; (2) ei pherthynas â'r eglwys yn gyfraniad (Koinonia); (3) ei pherthynas â'i gweinyddwyr yn weinidogaeth; (4) yn ei hamcan clodwiw yn fendith; (5) ac fel gweithred grefyddol yn wasanaeth (leitourgia)..
7 Gwneled pob un, fel y mae wedi rhag‐arfaethu yn ei galon, nid o dristwch neu o orfodaeth#9:7 Neu, ‘nid o anfoddogrwydd neu o angenrheidrwydd.’: canys y mae Duw yn caru rhoddwr llawen#9:7 Hilaros, llawenydd y rhoddwr megys yn llifo dros ei geulannau, llon, siriol, hoenus, hyfryd, ‘un yn rhoddi dan ganu.’ Y mae yr ymadrodd yn debyg i Diar 22:8 (LXX).. 8Ac y mae Duw yn alluog i beri i bob gras fod yn helaeth tuag attoch; fel y byddoch chwi, a chennych ym mhob peth bob amser bob hunan‐ddigonedd#9:8 Yma ac yn 1 Tim 6:6. ‘Elw mawr yw duwioldeb gyda boddlonrwydd.’ Trwy ras Duw y mae digonoldeb o adnoddau moesol yn y dyn ei hun. Y mae cred y Stoiciaid yn cael ei gwireddu yn y credadyn. Y mae mewn sefyllfa o ddedwyddwch ac o foddusrwydd, fel y mae yn teimlo nad oes arno eisieu dim. Y mae ynddo ‘ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragywyddol.’, yn ymhelaethu i bob gwaith da; 9fel y mae yn ysgrifenedig,
Gwasgarodd#9:9 Salm 112:9. ‘Gwasgarodd,’ heb fod yn rhy bryderus ym mha gyfeiriad y syrthiai y gronynnau., rhoddodd i'r tlodion#9:9 Penes [yma yn unig yn y T.N.], ‘un yn gweithio yn galed am ei gynhaliaeth,’ yna, un mewn angen, heb fod yn gardottyn.;
Ei gyfiawnder#9:9 Ymddygiad iawn a chanmoladwy, yma bron yn gyfystyr a haelioni (Mat 6:1). sydd yn aros yn dragywydd.
10A'r hwn sydd yn cyflenwi hâd i'r hauwr a bara yn yma borth, a gyflenwa ac a amlha#9:10 Felly y darllena א B C D. eich hâd, ac a gynnydd-ffrwythau#9:10 Llyth., hiliogaethau.#9:10 Felly y darllena א B C D. eich cyfiawnder#9:10 Ymddygiad iawn a chanmoladwy, yma bron yn gyfystyr a haelioni (Mat 6:1).; 11gan gael eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni#9:11 Llyth., symlrwydd (calon), yr hwn a gynnwysa yspryd haelfrydig ac anhunangar., yr hwn sydd yn gweithio#9:11 ‘Gweithio allan,’ cynnyrchu, effeithio. trwom ni ddiolch i Dduw; 12canys y mae gweinyddiad y gwasanaeth#9:12 Leitourgia, gwasanaeth crefyddol (yn enwedig yn y Deml). Y mae cyflenwi anghenion y saint yn waith crefyddol diledryw. hwn, nid yn unig yn llanw i fyny ddiffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw#9:12 ‘Trwy gyd‐gân o ddiolchiadau i Dduw.’; 13gan eu bod, trwy y prawf o'r weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw am#9:13 Epi, wrth, ‘wrth weled,’ ‘yn wyneb.’ ufudd‐dod eich cyffes#9:13 Yr oedd cyffes eu ffydd yn cael ei sylweddoli yn eu hymddygiad. i efengyl Crist, ac am haelioni#9:13 Gwel yr Apostol y môr annherfynnol o'r hwn y daw yr holl ffrydiau o haelioni, caredigrwydd, a brawdgarwch, y rhai oll a ddeilliant o gariad Duw yng Nghrist. Gwel ffrwyth y Brynedigaeth ym mywyd hunan‐aberthol y saint. eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb; 14tra y maent hwythau eu hunain hefyd, gyda gweddi ar eich rhan, yn hiraethu am danoch chwi, o herwydd tra‐ragorol ras Duw, yr hwn sydd ynoch#9:14 Llyth., arnoch, ‘wedi ei dywallt arnoch.’ chwi. 15Diolch i Dduw am ei rodd annesgrifiadwy.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 9: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.