2 Corinthiaid 10
10
Yr Apostol yn amddiffyn ei Apostolaeth.
1A myfi fy hun, Paul, wyf yn attolwg i chwi, trwy addfwynder#10:1 Y mae y ddau air yn agos at eu gilydd o ran eu hystyr. Dengys y blaenaf y rhinwedd o addfwynder ynddi ei hun, yr ail, yn ei pherthynas âg eraill; felly dynoda tegwch, cyfiawnder, moesgarwch, goddefgarwch, hynawsedd. a thiriondeb#10:1 Y mae y ddau air yn agos at eu gilydd o ran eu hystyr. Dengys y blaenaf y rhinwedd o addfwynder ynddi ei hun, yr ail, yn ei pherthynas âg eraill; felly dynoda tegwch, cyfiawnder, moesgarwch, goddefgarwch, hynawsedd. Crist, yr hwn yn bresennol#10:1 Neu, o ran gwedd. wyf iselwael#10:1 Gostyngedig, isel. yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hŷf tuag attoch; 2ië, ac yr ydwyf yn deisyf arnoch fod yn hŷf gyda'r hyder â'r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai sydd yn ein cyfrif ni yn rhodio yn ol y cnawd#10:2 Y mae y rhan olaf o'r Epistol (10–13) yn wahanol iawn o ran ei yspryd i'r rhan flaenorol. Nis gwyddis yn hollol beth sydd i gyfrif am hyn. Y mae y dôn yn lem, a theimlad Paul wedi ei gynhyrfu yn erbyn y gau‐athrawon, y rhai yn debygol oeddent Iuddeweiddwyr.. 3Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd 4(canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond galluog trwy Dduw#10:4 Neu, ‘nerthol i Dduw,’ hynny yw, yn ei olwg. i fwrw cestyll#10:4 Neu, wrthglawdd, twr. Yma yn unig yn y T.N. i lawr); 5gan fwrw i lawr ymresymiadau#10:5 Neu, ddychymygion; y mympwyon, tybiadau, ymresymiadau, &c., a ymddangosant o rym i'r meddwl cnawdol a daearol. a phob uchelder sydd yn ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth Duw, a chaethiwo#10:5 Llyth., ‘gyrru â blaen y bidog.’ Y mae yr adran yn llawn o dermau milwrol. Dinystriwyd 120 o amddiffynfeydd y Ciliciaid rheibus rai blynyddau cyn hyn. pob meddwl i ufudd‐dod Crist; 6ac yn barod#10:6 ‘Gan ddal eu hunain mewn parodrwydd.’ i gospi#10:6 Neu, i ddial. pob anufudd‐dod, pan gyflawner eich ufudd‐dod chwi. 7Yr ydych yn edrych ar y pethau sydd o flaen y wyneb#10:7 Neu, ‘A ydych, &c.?’ neu, ‘Edrychwch ar y pethau,’ &c.. Os ymddiried neb ynddo ei hun ei fod yng Nghrist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly ninnau hefyd#10:7 Yn eiddo Crist; gad. א B C D.. 8Canys pe ymffrostiwn ryw faint yn helaethach yng nghylch ein hawdurdod — yr hon a roddodd yr Arglwydd er eich adeiladu i fyny, ac nid er eich bwrw i lawr — ni'm cywilyddir, 9fel nad ymddangoswyf fel yn eich dychrynnu chwi trwy fy llythyrau#10:9 Gweler 1 Cor 5:9. Bwriada ddangos ei awdurdod pan ddaw yn o gystal ag yn ei Epistolau.. 10Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, eithr presennoldeb y corph#10:10 Y mae yn amlwg fod rhyw wendid neu eiddilwch yn perthyn i'r Apostol o ran ei ymddangosiad corphorol. Nid oedd yn edrych mor awdurdodol a Barnabas (Act 14:12). Cyfeiria at ei wendid (1 Cor 2:3). Beth oedd y swmbwl yn ei gnawd? Gweler Gal 4:13, 14. sydd eiddil, a'r ymadrodd#10:10 Talai sylw i sylwedd ei gennadwri, ac nid i gelfyddyd‐waith ei ymadroddion a gofynion hyawdledd dynol. yn ddirmygus. 11Hyn meddylied y cyfryw un, mai y fath ydym ni mewn ymadrodd trwy lythyrau pan yn absennol, yr un fath hefyd y byddwn mewn gweithred pan yn bresennol. 12Canys nid ydym yn beiddio cyfrif ein hunain ym mhlith neu gymharu ein hunain â rhai ydynt yn canmol eu hunain; ond hwynthwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain#10:12 Gan ddynodi y gwerthfawredd a osodent arnynt eu hunain., a'u cymharu eu hunain â hwy eu hunain#10:12 Gan ddynodi y safon isel wrth yr hon y barnent eu hunain., ydynt#10:12 Ydynt heb ddeall א B L; gad. D F G. Felly darllenna rhai, ‘Ond nyni, gan fesur ein hunain wrthym ein hunain, a'n cymharu ein hunain â ni ein hunain, ni ymffrostiwn tu hwnt i'n mesur,’ &c. heb ddeall; 13eithr nid ymffrostiwn ni tuhwnt i'n mesur, ond yn ol mesur y cylch#10:13 Kanôn, (1) ffon neu linyn mesur, (2) y llinell neu y cylch a fesurir, (3) rheol, safon., yr hwn fel mesur a rannodd Duw i ni, i gyrhaeddyd hyd y nod attoch chwi; 14canys nid ydym yn ymestyn allan tu hwnt i'n mesur, megys pe buasem heb gyrhaeddyd attoch chwi, canys ni a ddaethom hyd y nod hyd attoch chwi yn efengyl Crist; 15nid gan ymffrostio tu hwnt ein mesur, sef yn llafur rhai eraill, eithr gan fod gennym obaith, fel y cynnyddo eich ffydd, y cawn ein mawrygu ynoch chwi yn helaethach yn ol ein cylch#10:15 Kanôn, (1) ffon neu linyn mesur, (2) y llinell neu y cylch a fesurir, (3) rheol, safon., 16fel ag i efengylu hyd y nod yn y parthau#10:16 Megys rhannau eraill o Groeg, yr Eidal, Yspaen, &c. tu hwnt i chwi, nid i ymffrostio yng nghylch#10:16 Kanôn, (1) ffon neu linyn mesur, (2) y llinell neu y cylch a fesurir, (3) rheol, safon. un arall am bethau yn barod i'n llaw. 17Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd#10:17 Jer 9:24.; 18canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 10: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.