โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

2 Corinthiaid 8

8
Cymhorth i'r tlodion: haeledd Macedonia.
1Yr ydym ni hefyd yn hyspysu i chwi, frodyr, ras Duw yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia#8:1 Y mae 1 Cor 16 yn esboniad ar hyn. Yr oedd Groeg yr adeg hon mewn gorthrymder a thlodi mawr. Yr oedd eu tir a'u tai wedi eu hyspeilio gan fyddinoedd gwrthwynebus Cesar a Pompey, a rhwng y ‘tri chyd‐lywydd’ (triumvir) a Brutus a Cassius. Yr oedd y wlad fechan wedi bod yn faes rhyfeloedd ofnadwy, ac wedi ei gorthrymmu yn greulon gan Rufain. Felly yr oedd ymddygiad eglwysi Macedonia, fel eiddo Thessalonica, Philippi, a Berea yn ganmoladwy iawn., 2ddarfod mewn mawr brofiad gorthrymder, i orlawnder eu llawenydd hwy a'u tlodi dwfn orlifo i gyfoeth eu haelioni#8:2 Llyth., symlrwydd, unplygedd (Eph 6:5; Col 3:22; 2 Cor 1:12; 11:3); yma a thrwy y ddwy bennod hon, haeledd. Gellid darllen yr adnod hon, ‘Ym mawr brofiad eu gorthrymder yr oedd gorlawnder o lawenydd, a'u dwfn dlodi a orlifodd i gyfoeth eu haelioni.’ Ni ddefnyddia Paul ‘cyfoeth’ am feddiannau daearol ond yn 1 Tim 6:17. hwy; 3canys cyfrannasant yn ol eu gallu, yr wyf yn dyst, a thu hwnt i'w gallu, o'u dewisiad eu hun, 4gan ddeisyfu arnom gyda llawer o ymbil am y ffafr a'r cyd‐gyfrannogiad mewn gweini i'r saint#8:4 Yr oeddent am y gras, y ffafr, y rhagorfraint o fod yn gyfrannogion yn y gwasanaeth i'r saint, yn enwedig mewn cyfrannu at eu hangen. Y mae y cyfansoddiad yn doredig. Y mae berf yn ddealledig, megys cyfrannu., 5a hyn, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio#8:5 Hynny yw, ‘ym mhell tu hwnt i'n dysgwyliad.’, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw; 6mewn canlyniad, cymhellasom Titus, megys y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o hono ynoch chwi y gras hwn hefyd#8:6 Y mae yn amlwg i Titus fyned yr ail waith i Corinth cyn i'r Apostol gyrhaedd yno. Dechreuwyd casglu y flwyddyn o'r blaen a gorphennwyd y flwyddyn ddylynol.. 7Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob llwyrfrydedd, ac yn eich#8:7 Eich cariad tuag attom ni (llyth., ‘allan o honoch chwi ynom ni’) A C D F G; ein cariad tuag attoch chwi B. cariad tuag attom ni, gofelwch ar fod o honoch yn helaeth yn y gras hwn hefyd. 8Nid mewn ffordd o orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan ddwyn i brawf, trwy lwyrfrydedd eraill, wiredd#8:8 Gnêsion (gan Paul yn unig), llyth., ‘wedi ei eni yn gyfreithlon,’ yna, gwirioneddol, diffuant, nid ffugiol, diledrith (S. genuine, real). eich cariad chwi. 9(Canys chwi a adwaenoch ras#8:9 Defnyddir gras yma am garedigrwydd, haelioni, ffafr. ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac efe yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd#8:9 ‘Wnaeth ei hun yn gardottyn’ [yma yn unig yn y T.N]. Dyma y gair am y radd iselaf o dlodi. Etto ‘yr oedd yn gyfoethog.’ Ni pheidiodd a bod yn Dduw a meddiannu pob cyfoeth pan ddaeth yn ddyn. Gweler Phil 2:6–8., fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef). 10Ac yn hyn yr ydwyf yn rhoddi fy marn: canys hyn sydd fuddiol i chwi, y rhai oeddech y cyntaf i wneuthur dechreuad flwyddyn yn ol#8:10 Efallai tua naw mis yn ol, cyn danfoniad ei Epistol Cyntaf., nid yn unig i wneuthur ond hefyd i ewyllysio#8:10 Y mae y cymhelliad yn bwysicach na'r cyflawniad.. 11Ond yn awr, gorphennwch y gwneuthur hefyd, fel, megys ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly hefyd y byddo y cyflawniad, yn ol eich gallu#8:11 Neu, ‘allan o'r hyn sydd gennych.’. 12Canys os yw y parodrwydd yn bresennol, y mae y rhodd yn gymmeradwy, yn ol yr hyn sydd gan ddyn, nid yn ol yr hyn nid oes ganddo; 13canys nid fel y byddo hyn i fod er ysgafnder i eraill a gorthrymder i chwi; eithr yn ol cyfartalrwydd#8:13 Neu, tegwch (ex, allan o, yn ol).; 14y pryd hwn eich helaethrwydd chwi ar gyfer eu hangen hwy, fel y delo eu helaethrwydd hwythau ar gyfer eich hangen chwi, fel y byddo cyfartalrwydd; 15fel y mae yn ysgrifenedig,
Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben;
a'r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd ganddo lai#8:15 Neu, ‘nid oedd arno eisieu.’#Ex 16:18.
16Eithr i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi#8:16 ‘Rhoddion Duw yw gweithredoedd da.’ yr un llwyrfrydedd calon ar eich rhan yng nghalon Titus; 17canys yn wir, efe a dderbyniodd ein hannogaeth; ond gan ei fod o'r dechreu yn eiddgar#8:17 Neu, diwyd, difrifol, brwdfrydig., o'i ddewisiad ei hun efe a aeth allan attoch chwi. 18A danfonasom gydag ef y brawd#8:18 Nis gwyddis pwy ydoedd, ai Barnabas, Marc, Luc, Epenetus (ystyr yr hwn yw clod), Trophimus, Tychicus, &c. yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy yr holl eglwysi; 19ond nid hynny yn unig, ond hefyd a ddewiswyd#8:19 Llyth., a ddewiswyd trwy law, gan ddangos y modd y pleidleisiwyd. gan yr eglwysi i gyd‐ymdaith a ni yn#8:19 Yn B C; gyda א D F G (‘yn achos’ y gras hwn). y gras#8:19 Gras, yn yr ystyr o gymmwynas, caredigrwydd, haeledd. hwn, yr hwn a weinyddir gennym i ogoniant yr Arglwydd, ac i ddangos ein parodrwydd ni#8:19 Ni א B C D Brnd.; chwi F.; 20gan drefnu#8:20 Stellomai, parotoi, trefnu. Gair morwrol, tynnu yr hwyliau i lawr er osgoi trychineb. hyn, na fydd i neb feio arnom yn achos y llawndid#8:20 Hadrotês [yma yn unig yn y T.N], gan olygu tyfiant, addfedrwydd, yni, nerth planhigion, &c., yna, cyfoeth (1 Br 1:9), mawrion (2 Br 10:6); yna, digonedd, cyflawnder, &c. hwn a weinyddir gennym; 21oblegyd yr ydym yn rhag‐ddarpar pethau anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion#8:21 O Diar 3:4 (LXX).. 22A danfonasom gyda hwynt ein brawd#8:22 Nis gwyddis pwy oedd yntau. Enwa rhai Clement., yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau lawer gwaith, ei fod yn eiddgar, ond yn awr yn llawer mwy eiddgar, o herwydd ei ymddiried mawr ynoch chwi. 23Os am Titus y gofynnir, efe yw fy nghydymaith a'm cyd‐weithiwr tuag attoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, gogoniant Crist. 24Dangoswch iddynt hwy gan hynny amlygiad o'ch cariad, ac o'n hymffrost ninnau ar eich rhan yn wyneb yr eglwysi.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

2 Corinthiaid 8: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้