โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

2 Corinthiaid 7

7
Paul a'i ddychweledigion
1Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwyliaid, glanhâwn ein hunain#7:1 Fel cyssegr neu deml Dduw. oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd#7:1 Defnyddir y gair yn enwedig fel yn wrthwynebol i halogrwydd cnawdol; ‘gan fyned ym mlaen i berffaith sancteiddrwydd.’ yn ofn Duw. 2Gwnewch le i ni#7:2 Neu, ‘Deallwch ni yn iawn.’ yn eich calonnau: ni wnaethom gam a neb; ni lygrasom neb; ni chymmerasom fantais ar neb#7:2 Tebygol fod y cyhuddiadau hyn wedi cael eu dwyn yn ei erbyn. Gwahanol iawn oedd yr ymddygiad at y gau‐athrawon, 2 Cor 11:19, 20.. 3Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd; canys dywedais o'r blaen#7:3 Megys yn 1:6; 4:10–12, 15; 5:13–15. eich bod chwi yn ein calonnau i farw ac i fyw gyda chwi. 4Y mae hyfder fy ymadrodd tuag attoch yn fawr; y mae fy ymffrost am danoch yn fawr; yr wyf yn llawn o ddyddanwch; yr wyf yn gorlifo o lawenydd yn ein holl orthrymder.
Dyfodiad Titus
5Canys hyd y nod wedi dyfod o honom i Macedonia#7:5 Dywed ragor o hanes ei daith nag yn 2:13. Llefara yno am ei drallod yn Troas., ni chafodd ein cnawd esmwythâd#7:5 Neu, ymwared, adgyfnerthiad, gorphwysfa, seibiant., ond cystuddiwyd ni ar bob llaw#7:5 Llyth., ym mhob peth.; oddiallan, yr oedd ymladdau; oddimewn, ofnau#7:5 Yr ‘ymladdau’ oedd y trafferthion yn Macedonia; yr ofnau, materion Corinth. Yn Troas nid oedd gorphwysdra i'w yspryd; yn awr yr oedd y corph yn dyoddef.. 6Eithr yr hwn sydd yn dyddanu yr isel#7:6 Yma, rhai isel, digalon eu hyspryd, ac nid gostyngedig., Duw, a'n dyddanodd ni yn nyfodiad#7:6 Neu, presennoldeb. Titus; 7ac nid yn unig yn ei ddyfodiad, ond hefyd a'r dyddanwch â'r hwn y dyddanwyd ef ynoch chwi, wrth fynegu o hono i ni eich hiraeth, eich galar#7:7 Mynegiad o alar, ‘galarnad.’, a'ch sêl ar fy rhan, fel y llawenychais yn fwy.
Eu hedifeirwch
8Canys er i mi eich tristâu chwi â'm llythyr, nid yw edifar gennyf, er y bu edifar gennyf, canys yr wyf yn gweled dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er ond dros amser. 9Yn awr llawenhâu yr wyf, nid am eich tristâu chwi, eithr am eich tristâu i edifeirwch: canys tristâwyd chwi tuag at#7:9 Mynegiad o alar, ‘galarnad.’ Dduw#7:9 Llyth., yn ol Duw, yn dduwiol., fel na chaech golled mewn dim oddiwrthym ni; 10canys tristwch tuag at Dduw#7:10 Llyth., yn ol Duw, yn dduwiol. sydd yn cynnyrchu#7:10 Effeithio, gweithio, dwyn o amgylch. edifeirwch i iachawdwriaeth, yr hwn edifeirwch ni fyddis edifar o hono; eithr tristwch y byd a gynnyrcha#7:10 Effeithio, gweithio, dwyn o amgylch. angau. 11Canys wele y peth hwn ei hun, sef tristâu tuag at Dduw#7:11 Llyth., yn ol Duw, yn dduwiol., y fath lwyrfrydedd#7:11 Spoudê, brys, diwydrwydd, taerineb, dyfalwch, astudrwydd, ilwyrfryd calon. a gynnyrchodd#7:11 Effeithio, gweithio, dwyn o amgylch. ynoch; ië, ymddiffyn#7:11 Trwy roddi rhesymmau neu esgusodion trwy Titus am eu hymddygiad ynglyn â'r troseddwr.; ië, sorriant#7:11 [Yma yn unig yn y T.N.], gofid, trallod meddwl, o herwydd ymddygiad y troseddwr ac eraill.; ië, ofn#7:11 O ddyfodiad Paul yn ol ei rybudd.; ië, hiraeth#7:11 Am ei bresennoldeb.; ië, sêl#7:11 Yn erbyn y camwri a oddefwyd yn rhy hir.; ië, gospedigaeth#7:11 Ekdikêsês, gweini cyfiawnder, yna, cosp, nid dial.! Ym mhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y mater#7:11 Ym mater y troseddwr godinebus.. 12Felly, er ysgrifennu o honof attoch, nid oedd yn achos yr hwn a wnaethai y cam, na'r hwn a gawsai gam, eithr fel yr amlyger eich#7:12 ‘Ein llwyrfryd calon ar eich rhan,’ Test. Derb. Vulg.; eich llwyrfryd, &c. B C K L Brnd. llwyrfryd calon ar ein rhan i chwi eich hunain gerbron Duw. 13O herwydd hyn y'n dyddanwyd; ac yn#7:13 Llyth., ar, ar sail. ein dyddanwch ni a lawenhasom fwy o lawer am#7:13 Llyth., ar, ar sail. lawenydd Titus, oherwydd adlonni ei yspryd ef gennych chwi oll. 14Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni'm cywilyddiwyd; eithr fel y llefarasom bob peth wrthych mewn gwirionedd, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd. 15Ac y mae ei serch#7:15 Llyth., ymysgaroedd. ef yn helaethach tuag ag attoch, wrth gofio o hono eich ufudd‐dod chwi oll, y modd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. 16Llawen wyf gan fod gennyf hyder ynoch ym mhob peth.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

2 Corinthiaid 7: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้