2 Corinthiaid 6
6
Gweinidogion Duw yn eu gwaith#Y mae yr adran hon yn un o gyfansoddiadau aruchel Paul, fel Rhuf 8:31–39; 1 Cor 13. Clywir ynddi guriadau ei galon.
1A chan gyd‐weithio ag ef#6:1 Sef Duw., yr ydym yn attolygu#6:1 Cynghori, cefnogi, rhybuddio (parakaleô). na dderbynioch ras Duw yn ofer 2(canys dywed efe,
Mewn amser cymmeradwy y'th wrandewais,
Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di#6:2 Es 49:8, ‘Yn amser ffafr,’ &c. Geiriau cyfeiriedig at Was Jehofa, yr hwn yn fynych yn y rhan olaf o Esaia a hunaniaethir â'i bobl..
Wele, yn awr yr amser cymmeradwy! Wele, yn awr ddydd iachawdwriaeth!) 3heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn unrhyw beth, fel na feier ar y weinidogaeth; 4eithr ym mhob peth yn cymmeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn amynedd#6:4 Dynoda o ‘amynedd’ hyd ‘ymprydiau’ (1) yr hyn a ddyoddefodd yr Apostol trwy amgylchiadau ac erledigaethau dynion. Efallai fod y ‘cyfyngderau’ yn cynnwys (1) y fflangellu gan Iuddewon a Rhufeiniaid, (2) ei garcharu (Act 16:22 &c.), (3) y terfysgau yn Asia Leiaf (Act 13:50; 14:19), yn Groeg (16:19; 18:12), Jerusalem (21:30); (2) o ‘purdeb’ hyd ‘cariad diragith,’ nodweddau bywyd a gweinidogaeth yr Apostol; (3) o ‘air y gwirionedd’ hyd ‘anghlod a chlod,’ y moddion trwy y rhai y dangosodd ei hun yn weithiwr difefl ac y llwyddodd yn ei waith; ac (4) o ‘twyllwyr’ hyd ‘meddiannu pob peth,’ gyferbyniadau rhyfeddol y bywyd Cristionogol. lawer, mewn cystuddiau, 5mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialen‐nodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn llafuriau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau; 6mewn purdeb#6:6 Neu, ddiniweidrwydd, bywyd syml a phur., mewn gwybodaeth, mewn hir‐ymaros, mewn hynawsedd#6:6 Chrestotês, caredigrwydd, tiriondeb, hynawsedd., yn yr Yspryd Glân#6:6 Daw yr ‘Yspryd Glân’ yn y man yma i ddangos y cyfnewidiad o gystuddiau allanol a rhinweddau moesol i'r moddion mwyaf ysprydol fel offerynnau y weinidogaeth., mewn cariad diragrith; 7yng ngair y gwirionedd, yng ngallu Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy#6:7 Arfau ymosodol, fel y cleddyf, ac amddiffynnol, fel y darian., 8trwy barch ac ammharch, trwy anghlod a chlod; fel twyllwyr, ac yn cirwir! 9fel yn anadnabyddus, ac yn hollol adnabyddus! fel yn meirw, ac, wele, yn byw! fel yn cael ein dysgyblu, ac heb ein lladd! 10fel yn cael ein tristâu, ond yn wastad yn llawenhâu! fel yn dlodion#6:10 ‘Yn dlottach na'r tlawd’ (ptôchoi)., ond yn cyfoethogi llawer! fel heb ddim gennym, ac yn meddiannu#6:10 ‘Dal yn dyn,’ heb golli gafael. Y mae yr adran yn debyg i 1 Cor 7:29–31. Dyma esboniad ar eiriau Crist, “Pwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegyd i, a'i caiff” (Mat 16:25). pob peth!
Yr ymddygiad a hawlia y fath weinidogaeth
11Ein genau a agorwyd wrthych chwi, o Gorinthiaid, ein calon a eangwyd#6:11 Llyth., lledu. Y mae digon o le yn ystafell ei chariad i'w cynnwys oll.. 12Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich serchiadau#6:12 Llyth., ymysgaroedd, lle y tybid yr ymgartrefai y serchiadau. Yr oedd calon Paul yn ddigon eang i dderbyn pawb; yr oedd eu heiddo hwy yn rhy gul i dderbyn neb ond hwy eu hunain. eich hunain. 13Ac fel ad‐daliad#6:13 ‘Taliad yn ol neu yn lle,’ ‘cyfryw daliad.’ (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd), eanger chwithau hefyd. 14Na ieuer chwi yn annghymharus#6:14 Llyth., ‘ieuo yn wahanol’ fel creadur o un rhyw gyda chreadur o ryw gwahanol. â rhai digred: canys pa gyd‐gyfrannogaeth sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfraith? neu pa gymmundeb sydd rhwng goleuni a thywyllwch? 15a pha gydgordiad#6:15 Yma yn unig yn y T.N.; ‘dau yn cyd‐leisio.’ rhwng Crist a Belial#6:15 Neu Beliar (yn ol rhai o'r ysgrifau). Dynoda ‘un diwerth’ neu ‘ddrwg.’ Defnyddir ef am ‘feibion neu ferched’ drwg yn yr Hen Destament (Deut 13:13; 1 Sam 2:12). Yn ddiweddarach daeth yn enw ar Satan. Y mae yn un o brif gymmeriadau Milton yng Ngholl Gwynfa.? neu pa gyfran i gredadyn gydag annghredadyn? 16a pha gydsyniad#6:16 ‘Gosod i mewn yn un bleidlais,’ cyttundeb. rhwng cyssegr Duw ag eilunod? canys cyssegr y Duw byw ydym#6:16 Ydym ni א B D; ydych chwi C F G. ni, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf ynddynt; ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi#6:16 Cyfuniad o Lef 26:11, 12, ac Esec 27:26, 27; 43:7. Y mae yn rhodio yn ei bobl, fel ei deml.; 17gan hynny,
Deuwch allan o'u canol ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd,
Ac na chyffyrddwch â pheth aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi.
18Ac a fyddaf yn dâd i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog#6:18 Cyfuniad o Es 52:11, Esec 20:34, ac 2 Sam 7:14. Y mae y cyntaf yn cyfeirio at y dychweliad o Babylon..
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 6: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.