โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

2 Corinthiaid 5

5
Y Corph anfarwol.
1Canys#5:1 “Canys ni a wyddom os y tŷ o babell, ar y ddaear, a dynnir i lawr.” Dengys ‘pabell’ natur y tŷ, hawdd ei symmud a'i thynnu i lawr. Yr oedd y ‘pabellydd,’ Paul, yn gwybod am freuder y babell. ni a wyddom, os y daearol#5:1 Golyga epigeios, ar y ddaear, fel yn 1 Cor 15:47, ac nid o ddefnydd daearol, sef o bridd; choikos yw y gair am hyn. dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad oddiwrth#5:1 Llyth., allan o Dduw, yn dyfod yn uniongyrchol oddiwrtho ef. Dduw, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd; 2canys yn hon yr ydym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â'n tŷ#5:2 Llyth., trigfa, gan gyfeirio at y trigiannydd oddimewn. Cymmwysir y ffugyrau o wisg a thy. sydd o'r nef; 3os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion#5:3 Gair am ysprydion dadgorphoredig. Yr oedd y meddwl o fod yn yspryd noeth yn wrthunus ac yn arswydus i'r Groegwr. Gweler Homer: Odyssey, Llyfr 11. Lluniau noethion a ddefnyddid yn ddiweddarach i ddynodi poenau y Purdan. y'n ceir. 4Canys nyni yn wir y rhai ydym yn y babell hon, ydym yn ocheneidio o dan y baich#5:4 Llyth., wedi ein llwytho, yn llwythog., nid am ein bod yn chwennych ymddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer#5:4 Cymharer 1 Cor 15:35–54; Es 25:8. Nid oedd Paul yn chwennych marw. Ystyrid Dyfodiad Crist fel yn agos. y marwol gan fywyd. 5A'r hwn a'n gweithiodd#5:5 ‘Gweithiodd i fyny,’ parotodd, addasodd i'r corph a'r bywyd uwch, trwy brynedigaeth, sancteiddhâd, &c. ni i hyn yma yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd#5:5 Yr Yspryd fel ernes; gweler 1:22; Rhuf 8:1–11..
Y Cartref Nefol.
6Gan fod yn hyderus#5:6 Tharreô, bod yn hyf, gwrol, cymmeryd calon. gan hynny bob amser, ac yn gwybod tra yr ydym gartref yn y corph ein bod oddi cartref oddiwrth yr Arglwydd 7(canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth ymddangosiad#5:7 Ni olyga eidos, olwg fel cynneddf, ond yr hyn a welir, gweledigaeth.); 8ond hyderus ydym, a rhyngir bodd i ni yn hytrach, fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyda'r#5:8 Pros, gyda, yn ei bresennoldeb, yn ei gwmpeini. ‘A'r Gair oedd gyda Duw’ (Ioan 1:1). Arglwydd. 9O herwydd paham, yr ydym hefyd yn ymorchestu#5:9 ‘Yn ei wneyd yn uchelgais,’ ‘yn fater o anrhydedd’ (1 Thess 4:11; Rhuf 15:20), ac yma., pa un bynnag ai gartref neu oddi cartref, i ryngu ei fodd ef; 10canys rhaid i ni oll gael ein gwneuthur yn amlwg#5:10 Nid ‘ymddangos,’ ond ‘cael ein dwyn i'r goleu,’ pob ymddygiad a phob gweithred yn sefyll allan yn glir yn y goleu a fflachia o gyfiawnder yr Orsedd; pob peth cuddiedig yn cael ei ddwyn i'r golwg; chwiloleu Duw yn treiddio i bob cell a chongl o'n bodolaeth. ‘Brawdle’: gweler Rhuf 14:10. gerbron brawdle Crist, fel y derbynio#5:10 Komizô, ‘derbyn yn ol’ (Isaac megys o feirw, Heb 11:19). Y mae pethau y corph megys yn dyfod yn ol i fod yn etifeddiaeth i'r hwn a'u gwnaeth; gweithredoedd drwg fel ellyllon i'w ddychrynnu a'i boeni; gweithredoedd da fel angelion gwarcheidwol i'w gysuro a'i ddyddanu; “A'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt.” (Eph 6:8; Col 3:25). pob un yn ol y pethau a wnaed yn y corph, pa un bynnag ai da ai drwg.
Gweinidogaeth y Cymmod.
11A ni gan hynny yn gwybod ofn#5:11 Nid y ‘dychryn’ a ddaw o'r orsedd farnol, ond yr ofn duwiol a sanctaidd oedd yng nghalon yr Apostol; nid ‘mor ofnadwy yw Duw, ond mor ddwfn ein hofn o hono a'n cariad tuag atto.’ yr Arglwydd, yr ydym yn darbwyllo#5:11 Naill ai (1) yn ymdrechu ennill dynion at Grist, neu (2) yn perswadio ‘o'n gonestrwydd, o'n hymdeimlad, o'n cyfrifoldeb, o'n gwaith, a'n ffyddlondeb ynddo.’ Yr olaf yw y goreu yn ol y cyd‐destyn. dynion; eithr i Dduw yr ydym wedi ein gwneyd yn amlwg; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneyd yn amlwg yn eich cydwybodau chwithau. 12Nid cymmeradwyo ein hunain drachefn i chwi yr ydym, eithr rhoddi achlysur ymffrost i chwi o'n plegyd, fel y byddo gennych beth i gwrdd â'r rhai a ymffrostiant yn y golwg#5:12 Llyth., yn y wyneb, ar y wyneb, ‘gan y rhai y mae ymddangosiadau arwynebol yn bob peth.’, ac nid yn y galon; 13canys pa un bynnag ai allan o'n pwyll yr oeddem#5:13 Nid Agrippa oedd yr unig un a gyhuddodd Paul o hyn. Gall hyn gyfeirio at ei sêl a'i frwdfrydedd eithafol, ei yni annifâol, gan dorri dros geulannau y ‘priodol’ a'r ‘sobr’ yng ngolwg dynion. Y mae Duw yn ei Berson ac yn ei Gariad yn tanio ac yn gwefreiddio dychymyg dyn, yr hwn sydd yn ‘ymgolli’ yn ei fawredd ac yn ei ras., i Dduw ydoedd; ai yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi y mae. 14Canys cariad Crist sydd yn ein cymhell#5:14 Sunechô, dal yn dyn, dirwasgu, dirgymhell, gorfodi. ‘Y mae cariad Crist wedi ein meistroli, nis gallwn ddewis dim arall, yr ydym yn cael ein cau i fyny i hyn,’ &c. Gweler Luc 4:38; Act 18:5; Phil 1:23. ni, gan farnu o honom hyn#5:14 Fel gwirionedd a ffaith ddisigl.: Bu#5:14 Os, gad. א D B E F G Brnd. un farw dros bawb; o ganlyniad, bu pawb feirw#5:14 Nid ‘yna meirw oedd pawb,’ gan ddangos eu sefyllfa, ond, ‘Pan fu Crist farw dros bawb, yna pawb fuont ar yr un pryd feirw gydag ef.’ Efe oedd Pen a Chynnrychiolydd yr hil ddynol. Yr oedd yr Iawn yn gyffredinol, ac, mewn ystyr cyfriniol, bu yr hil farw gydag ef. Gweler Rhuf 6:3, 4, 6, 11; Gal 5:4.; 15a bu efe farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. 16Felly nyni o hyn allan nid adwaenwn neb yn ol y cnawd#5:16 O ran eu hamgylchiadau allanol, cyfoeth, gwybodaeth, safle, &c.; ac os hyd y nod yr ydym wedi adwaen Crist yn ol y cnawd#5:16 Sef, y farn yr oedd wedi ffurfio am dano cyn ei droedigaeth, ei ddysgwyliadau am yr hyn ddylai y Messia fod, &c., etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef felly mwyach. 17Felly od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur#5:17 Neu, greadigaeth newydd, barhâol, yn para yn newydd, heb heneiddio [Kainê]. newydd; yr hen#5:17 Llyth., y pethau cyntefig, henafol; yr hen gymhellion, rhagfarnau, golygiadau. bethau a aethant heibio; wele, daethant#5:17 Pob peth, gad. א B C D Brnd. yn newydd! 18A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymododd ni âg ef ei hun trwy Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod#5:18 Gweler ar ‘Cymmod,’ Rhuf 5:10; 11:15; 1 Cor 7:11., 19sef: Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi#5:19 Llyth., ‘wedi gosod ynom ni,’ ‘wedi ymddiried i ni gennadwri y Cymmod.’ Wedi gosod megys mewn llestri etholedig er o bridd (4:7) y trysor gwerthfawr. i ni air y Cymmod. 20Dros Grist gan hynny yr ydym genhadau#5:20 Presbeuô, bod yn lys‐genhadydd, gan gynnrychioli y brenin neu y gallu llywodraethol., megys pe bae Duw yn deisyf trwom; yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw. 21Yr hwn nid#5:21 Y mae y negydd yn y Groeg yn golygu fod ymwybodolrwydd Crist yn dweyd ei fod yn hollol rydd o bob pechod. adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod#5:21 Nid yn bechadur (Chrysostom) neu yn bech‐aberth, ond Duw a'i gwnaeth ef yn gynnrychiolydd pechod a phechaduriaid, ac a ddyoddefodd gosp y cyfryw. Ymgymmerodd arno ei hun a bod yn gynnrychiolydd dynoliaeth yn ei hagwedd o bechadurusrwydd (Rhuf 7:3; Phil 2:7). Cymmerodd ein lle, ac felly yr ydym ninnau trwy ein hundeb âg ef yn gyfiawn gerbron Duw. trosom ni, fel y delem ninnau yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

2 Corinthiaid 5: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้