โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

2 Corinthiaid 4

4
Cymmeriad aruchel y weinidogaeth a'i dewr weinidogion.
1O herwydd hyn, a chennym y weinidogaeth hon, megys y trugarhâwyd#4:1 Dechreuwyd y weinidogaeth mewn trugaredd a chynnaliwyd hi trwy ras (1 Cor 7:25; 1 Cor 15:9; Eph 3:8; 1 Tim 1:12–16). wrthym, nid ydym yn digalonni#4:1 Y mae i egkakeô ddau ystyr: (1) llacâu, arafu, ymollwng; (2) digalonni, llwfrhâu. Yn Paul a Luc yn unig.; 2eithr ni a ymwadasom#4:2 Llyth., llefaru allan, yna yn erbyn, ymdynghedu yn erbyn. â chuddiedig bethau cywilydd, gan beidio rhodio mewn cyfrwystra#4:2 Llyth., pob gwaith (er twyllo neu niweidio), yna anfadwaith. a llygru#4:2 Dolountês [yma yn unig yn y T.N.], maglu, llygru (trwy gymmysgu pethau iselwael â'r gwir sylwedd, megys aur, &c.). Y mae y gair hwn yn gyfyngach ei ystyr na'r ferf yn 2:17. gair Duw; eithr trwy amlygiad o'r gwirionedd yr ydym yn cymmeradwyo ein hunain i bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. 3Ac os cuddiedig#4:3 Llyth., yn orchuddiedig. Defnyddir y ffugyr o orchudd. hefyd yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig#4:3 ‘Yn y rhai sydd ar ffordd colledigaeth.’ y mae yn guddiedig; 4yn y rhai y dallodd duw y byd hwn#4:4 Y frawddeg ‘duw yr oes’ neu ‘y byd hwn’ yma yn unig. Golyga aiôn yma ‘oes’ yn ei hyspryd a'i theithi, y byd yn ei duedd a'i yspryd pechadurus. Gweler Rhuf 1:28; 2 Thess 2:10–12. syniadau#4:4 Neu, feddyliau. y rhai annghrediniol, fel na thywynai arnynt#4:4 Iddynt; gad. א A B C D. lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw#4:4 Cymharer Col 1:15; Ioan 17:5; Phil 2:6; 3:21. Y mae y goleuni yn dylifo oddiwrth Grist. Efe ddywedodd ar y cyntaf, “Bydded goleuni.” Duw. 5Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu fel Arglwydd, a ni ein hunain yn weision#4:5 Llyth., caeth‐weision. i chwi er mwyn Iesu. 6Canys Duw, yr hwn a ddywedodd:
O dywyllwch goleuni a lewyrcha#4:6 Gan gyfeirio at Gen 1:3. Cymharer Ioan 1:4; 3:19; 8:12.,
yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau ni er tywyniad o wybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist#4:6 Amlygir gogoniant Duw yn y ddelw berffaith o hono a osodir allan yn y Crist hanesyddol; ‘ym mherson Iesu Grist.’. 7Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni. 8Yn cael ein gwasgu ym mhob modd, eithr heb ei bod yn gyfyng#4:8 Llyth., bod mewn lle cyfyng. ‘Gwesgir ni o bob tu, etto y mae gennym le i fyw.’ arnom; heb wybod lle i droi#4:8 Aporoumenoi, ‘methu gweled ffordd allan,’ ‘mewn penbleth.’, eithr nid yn hollol ddi‐obaith#4:8 Exaporoumenoi [yr un gair a'r olaf], ‘heb fethu yn hollol weled ffordd allan.’; 9yn cael ein herlid, eithr heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom; 10yn wastad yn dwyn o amgylch yn y corph farwolaeth#4:10 Llyth., farweiddiad [yma ac yn Rhuf 4:19], sef, gosodiad i farwolaeth. “Fel y rhoddwyd ef i farwolaeth yr ydym ninnau mewn perygl beunyddiol i'r un dynghed.” Iesu#4:10 Arglwydd א A B C D., fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein corph ni. 11Canys nyni y rhai ydym yn fyw a draddodir yn wastadol i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd#4:11 Sef Bywyd ei Adgyfodiad. Iesu yn ein marwol gnawd ni. 12Felly y mae angau yn gweithio#4:12 ‘Yn gweithio yn egniol,’ ‘yn llawn yni.’ Personnolir angau a bywyd. Yn y byd materol ac ysprydol daw bywyd o angau; marwolaeth Crist yw bywyd y byd. ynom ni, eithr bywyd ynoch chwi. 13Ond gan fod gennym yr un yspryd ffydd#4:13 Yr un anianawd a'r Salmydd, a'r hon a greir ynom gan Yspryd Duw., yn ol yr hyn a ysgrifennwyd#4:13 Salm 116:10. Efallai fod adnod 8 wedi awgrymmu y dyfyniad, ‘O herwydd i ti waredu fy enaid oddiwrth angau,’ &c., Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru; 14gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n cyflwyno gyda chwi. 15Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i'r gras, wedi amlhâu trwy y mwyafrif, beri i'r diolchgarwch ymhelaethu, i ogoniant Duw#4:15 Cyssylltir y geiriau mewn modd gwahanol, megys ‘Fel y byddo i'r gras, wedi amlhâu o herwydd diolchgarwch y mwyrif, ymhelaethu i ogoniant Duw.’. 16O herwydd paham nid ydym yn digalonni; ond er fod ein dyn oddiallan#4:16 Ein natur faterol ac ysprydol. Na cham‐gymmerer hwynt am yr hen ddyn a'r dyn newydd. yn dadfeilio, ein dyn oddimewn#4:16 Ein natur faterol ac ysprydol. Na cham‐gymmerer hwynt am yr hen ddyn a'r dyn newydd. a adnewyddir o ddydd i ddydd#4:16 ‘Mwyaf i gyd y treulia'r marmor, mwyaf i gyd y tyfa'r cerflun.’ — Michael Angelo.; 17canys y mae ein hysgafn gystudd, yr hwn sydd am y foment#4:17 ‘Am y foment bresennol’ [yma yn unig yn y T.N.]., yn gweithio allan i ni yn fwy‐fwy ragorol#4:17 Y mae Paul yn pentyrru geiriau i osod allan y gwahaniaeth sydd rhwng y ‘gorthrymder’ sydd mor ysgafn a'r bluen a'r baich trwm neu y sylwedd pwysfawr o ogoniant oesol a weithredir allan, a gynnyrchir mewn modd gor‐ragorol a thra‐godidog gan gystuddiau bywyd. Cymharer Rhuf 8:37; Eph 3:20; Phil 1:23. dragywyddol bwys gogoniant; 18a ninnau, nid yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir ydynt am dymhor, ond y pethau ni welir ydynt dragywyddol#4:18 Llyth., oesol, yna, oes ddiddiwedd, tragywyddol..

ที่ได้เลือกล่าสุด:

2 Corinthiaid 4: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้