2 Corinthiaid 3
3
Cred‐lythyrau yr Apostol a gweinidogaeth yr Yspryd.
1Ai dechreu drachefn i gymmeradwyo ein hunain yr ydym? neu a oes arnom raid, fel ar rai, wrth lythyrau o gymmeradwyaeth attoch neu oddiwrthych? 2Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn ddealledig#3:2 Y mae tebygrwydd yn ffurf y geiriau yn y Groeg (ginôskô ac anaginôskô, ‘cydnabod’ a ‘darllen’). ac yn ddarllenedig#3:2 Y mae tebygrwydd yn ffurf y geiriau yn y Groeg (ginôskô ac anaginôskô, ‘cydnabod’ a ‘darllen’). gan bob dyn, 3wedi ei wneuthur yn amlwg eich bod yn llythyr Crist, wedi ei weini#3:3 Y mae y bennod yn llawn ffugyrau. Crist yw Awdwr y llythyr, yr Apostol oedd wedi ei ysgrifennu. gennym, wedi ei ysgrifennu, nid âg ingc, ond âg Yspryd y Duw byw; nid mewn llechau o gerrig, ond mewn llechau ydynt galonnau#3:3 Mewn llechau ydynt galonnau א A B C D Brnd.; mewn llechau cnawdol y galon F. o gnawd#3:3 Gweler Esec 11:19; Jer 17:1; 31:33.. 4A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw; 5nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i gyfrif unrhyw beth megys o#3:5 Llyth., allan o, fel gwreiddyn a ffynnonnell yr oll. honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o#3:5 Llyth., allan o, fel gwreiddyn a ffynnonnell yr oll. Dduw, 6yr hwn hefyd a'n gwnaeth yn ddigonol fel gweinidogion cyfammod#3:6 Ar diatheke, cyfammod, gweler ar 1 Cor 11:25. Y mae y geiriad ‘Testament Newydd’ yn ddiweddarach na'r oes Apostolaidd. newydd, nid i'r llythyren eithr i'r yspryd#3:6 Sef, ‘gweinidogion nid i'r llythyren ond i'r yspryd.’; canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr yspryd yn bywhâu. 7Ond os bu gweinidogaeth angau, wedi ei cherfio mewn llythyrennau#3:7 llythyrennau א A C L Ti. WH. Diw.; llythyren B D La. Tr. Al. ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Moses#3:7 Ex 34:29–35., o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn oedd yn diflannu#3:7 Neu, yn cael ei ddileu., 8pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr yspryd gyda gogoniant? 9Canys os bu gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant. 10Canys yn wir ni wnaethpwyd yn ogoneddus yr hyn a wnaethpwyd yn ogoneddus yn yr ystyr#3:10 Neu, yn y rhan hon, yn yr enghraifft hon perthynol i Moses. hyn, o achos y gogoniant tra‐rhagorol. 11Canys os yw yr hyn sydd yn diflannu gyda#3:11 Llyth., trwy. Rhoddwyd y Ddeddf gydag amlygiadau o ogoniant Duw. Yr oedd gogoniant yn cyd‐fyned â'i rhoddiad, ond y mae gogoniant yn gyd‐ymblethedig â'r Cyfammod Newydd. Yr oedd gyda'r Hen, ond y mae yn y Newydd. gogoniant, mwy o lawer y mae yr hyn sydd yn aros mewn gogoniant. 12Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder#3:12 Nid fel Moses, ond yn ddiorchudd, yn eglur a chroyw. mawr; 13ac nid fel y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai meibion Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddiflannai#3:13 Ni ddywedir yn Ex 34:33–35 mai hyn oedd amcan Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb, ond rhoddir gwir ystyr yr Hebraeg gan y LXX. ‘Pan orphennodd â llefaru, gosododd orchudd ar ei wyneb.’ Y mae yn amlwg fod llygad yr Apostol ar y LXX.; 14eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddarllen yr Hen Gyfammod, yn aros, gan nad yw wedi ei ddadguddio ei fod wedi ei ddileu yng Nghrist#3:14 Neu, ‘Y mae y gorchudd wrth ddarllen yr Hen Gyfammod, yn aros heb ei ddadorchuddio’ neu ei godi.. 15Eithr hyd heddyw, pan ddarllenir Moses, y mae y gorchudd ar eu calon hwynt; 16eithr pan dry#3:16 Sef, ‘eu calon hwynt,’ ac nid Moses. at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. 17Yn awr, yr Arglwydd yw yr Yspryd, a lle y mae Yspryd yr Arglwydd#3:17 Jehofa yr Hen Destament, yr hwn a lefarodd wrth Moses. Yr Arglwydd Iesu yw yr Yspryd sydd yn bywhâu y Cyfammod Newydd. y#3:17 yno, gad. א A B C D. mae rhyddid. 18Eithr nyni oll ag wyneb diorchudd, gan edrych megys mewn drych#3:18 Katoptrizomenoi [yma yn unig yn y T.N.]. Ni olyga y gair yn y llais canolog adlewyrchu fel yn y C. D. Saesoneg, ond gweled neu edrych ar beth megys mewn drych. Ni cheir enghraifft o'r blaenaf. Yr Efengyl yw y drych, ‘Efengyl gogoniant Duw’ (4:4). Nyni, gan edrych iddi heb orchudd a drawsffurfir i'r ddelw a welwn yn y drych, sef delw gogoniant Crist (Gal 4:19; 1 Ioan 3:3). ar ogoniant yr Arglwydd, a drawsffurfir i'r un ddelw o ogoniant i ogoniant#3:18 Nid ‘o ogoniant Crist’ fel y ffynnonnell ‘i'n gogoniant ni’ fel canlyniad yr edrych, ond o un gradd o ogoniant i un uwch, hyd nes cyrhaedd perffeithrwydd sancteiddrwydd., megys oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd#3:18 Hyn yw y cyfieithiad naturiol. Nid cystal y lleill: (1) ‘Arglwydd yr Yspryd,’ sef yr Yspryd fel eiddo Crist, (2) ‘Yspryd yr Arglwydd,’ (3) ‘Yr Yspryd yr hwn yw yr Arlgwydd’ (Chrysostom). Dyma y diweddglo aruchel. Ym mhresennoldeb y gogoniant dadorchuddir ein gwyneb, a ffy pechod fel un euog. Deil pob dyn yn ei ffordd ei hun ogoniant Crist. Amrywia y gogoniant ym mhob un, ond ffurfia yr oll, fel y saith lliw yn yr enfys, pan gesglir yr oll at eu gilydd, un ysplander annesgrifiadwy yr hwn a wir adlewyrcha ogoniant yr Arglwydd Iesu..
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 3: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.