โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

2 Corinthiaid 2

2
Unig amcan yr Apostol: eu cynnydd ysprydol.
1Eithr mi a benderfynnais hyn i mi fy hun#2:1 Neu, ynof fy hun, er mwyn ei ddedwyddwch ei hun a'r Corinthiaid. ‘Penderfynnais i beidio talu ymweliad â chwi dan amgylchiadau poenus.’, na ddeuwn drachefn#2:1 Nid oes gennym hanes ond am un ymweliad blaenorol o'i eiddo â Chorinth (Act 18:1–18), sef pan blannodd yr Eglwys. Fe ysgrifennodd attynt (ei Epistol Cyntaf) mewn tristwch, ond ni ymwelodd â hwynt. mewn tristwch#2:1 Lupê, tristwch, gofid, poen meddwl. Rhai a esboniant, ‘na ddeuwn i achosi tristwch i chwi,’ ond yn hytrach gwnelai eu ‘harbed’ (1:23). attoch. 2Oblegyd os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw yr hwn ynte#2:2 Llyth., a phwy yw yr hwn a'm llawenhâ? a'm llonna i, ond yr hwn#2:2 Nid y troseddwr mawr y cyfeirir atto yn yr Epistol Cyntaf, pennod 5. Y mae Paul yma yn llefaru am yr oll a dristêid fel un person. Pwy bynnag a dristeid yw ‘yr hwn.’ a dristâwyd gennyf fi? 3Ac ysgrifennais#2:3 Naill ai yn yr Epistol Cyntaf (16:7), lle y dywed ei fod wedi newid ei fwriad, neu mewn llythyr a ddanfonodd gyda Titus. Gall fod yma gyfeiriad at y ceryddon llym yn yr Epistol Cyntaf. hyn yma#2:3 Neu, hyn ei hun.#2:3 attoch; gad. א A B C Brnd., rhag, pan ddelwn, y cawn dristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd#2:3 Yma chairein, llawenhâu, bod yn wych. Yn ad. 2, euphrainein, gwneyd yn llawen, llonni'r meddwl.; gan hyderu ynoch#2:3 Llyth., arnoch. oll fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch. 4Canys o orthrymder lawer ac o gyfyngder#2:4 Sunochê, tyniad neu wasgiad ynghyd, dirdyniad, ing, cyfyngder. Yma ac yn Luc 21:25. calon yr ysgrifennais attoch â dagrau#2:4 Yr oedd y cerydd wedi dod o'r cariad. Yr oedd dirdyniad calon wedi gwasgu allan y dagrau. Yr oedd ei galon yn archolledig a'i deimlad yn fyw. Cyfeiria yn fynych at ei ddagrau (Act 20:19, 31; 2 Tim 1:4). Yr oedd yn wir olyniaeth yr ‘Iesu a wylodd,’ a seliodd ei Epistolau â dagrau serch a phryder. Yr oedd llygaid Paul yn methu gweled yn dda, ond yr oeddynt yn gallu wylo yn helaeth. Ysgrifennodd ‘trwy’ ddiluw o ddagrau. lawer, nid fel y tristêid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad#2:4 Etto yn olyniaeth Crist, “yr wyf yn argyhoeddi ac yn ceryddu y sawl yr wyf yn eu caru” (Dad 3:19). sydd gennyf yn helaethach tuag attoch chwi.
5Ond os oes neb#2:5 Ffordd dyner yr Apostol o gyfeirio at y troseddwr. wedi peri tristwch, nid i myfi y mae wedi peri tristwch, ond mewn rhan (fel na phwyswyf yn ormodol) i chwi oll#2:5 Gellir cyssylltu ‘ond mewn rhan’ a ‘myfi,’ ‘nid yw wedi peri tristwch i myfi ond mewn rhan.’ ‘Nid yw yr elfen bersonnol i'w hystyried o gwbl. Nid fel Paul ond fel Apostol Iesu Grist ac aelod o'i Eglwys y mae wedi peri tristwch i mi. Ond gwell cyssylltu ‘ond mewn rhan’ a ‘chwi oll’: ‘y mae mewn rhan wedi peri tristwch i chwi oll.’ Hwy oedd y dyoddefwyr mwyaf, er nad oeddent wedi tristâu fel y dylasent. ‘Fel na phwyswyf yn ormodol.’ Ar bwy? Nid ‘arnoch chwi,’ ond yn hytrach ‘arno ef,’ yr hwn oedd yn awr yn edifeiriol.. 6Digon#2:6 Nid yn ei pharhâd, ond gan ei bod wedi cynnyrchu yr effaith dyladwy. i'r cyfryw un yw y gosp#2:6 Epitimia [yma yn unig yn y T.N.], cosp, pennyd, cerydd [yma ‘dysgyblaeth,’ esgymmuniad], sef yr hyn y cyfeirir atto yn 1 Cor 5:5. yma a weinyddiwyd gan y mwyafrif, 7fel yn y gwrthwyneb#2:7 Y mae dysgyblaeth eglwysig i'w thymheru gan yspryd cariad a maddeuant. Y mae edifeirwch y troseddwr i gael ei feithrin gan gynhesrwydd y frawdoliaeth. y dylech yn#2:7 Yn hytrach א C D F G; gad. A B. hytrach faddeu iddo a'i ddyddanu#2:7 Neu, ‘Eich lle yn hytrach yw maddeu a dyddanu.’, rhag rhywfodd i'r cyfryw gael ei lyngcu#2:7 Gweler 1 Cor 15:54; Heb 11:29, ‘llyngcu i fyny,’ ‘dinystrio,’ ‘gorthrechu.’ Yr oedd i gael ei draddodi i Satan, ond nid oedd i aros yn ei grafangau. Arf y Diafol yw Anobaith. Rhai a farnant fod yma awgrym at hunan‐laddiad neu wrthgiliad; ond y mae drws Anobaith yn agor i fil o beryglon. gan ormod tristwch. 8Gan hynny yr wyf yn attolwg i chwi gadarnhau#2:8 Trwy weithred gyhoeddus neu trwy arddangosiad o'u cydymdeimlad tuag atto a'u dyddordeb ynddo. eich cariad tuag atto. 9Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch, a ydych yn ufudd ym mhob peth. 10Ac i'r hwn yr ydych yn maddeu dim, yr wyf finnau hefyd: canys yr#2:10 Felly א A B C Brnd. hyn hefyd yr wyf wedi ei faddeu, os maddeuais ddim#2:10 Felly א A B C Brnd., er eich mwyn chwi y maddeuais ef ym mherson#2:10 Llyth., yn wyneb, neu, ym mhresennoldeb. Y mae Paul yn rhoddi ei gymmeradwyaeth swyddogol i'r hyn yr oedd Eglwys Corinth wedi ei wneyd. Crist, 11fel nad enniller mantais#2:11 Llyth., ‘cyrhaedd tu hwnt,’ ‘gwneuthur ennill o,’ yna, ‘cymmeryd mantais ar,’ hudo. arnom gan Satan, canys nid ydym heb wybod ei ddyfeision#2:11 Llyth., meddyliau, yna, amcanion (drwg), dychymygion, dichellion. ef.
Dyfodiad Titus.
12Ac wedi dyfod i Troas#2:12 Gweler ar Act 16:8, 11; 20:5. Yr oedd i'r dehau o'r Hellespont, ac yn diriogaeth yn yr hon yr adeiladwyd Caerdroia enwog. Adeiladwyd Troas ar adfeilion yr hen ddinas gan Antigonus, un o ddylynwyr Alexander Fawr. er efengyl Crist, a drws wedi ei agoryd i mi yn yr Arglwydd, 13ni chefais esmwythâd i'm hyspryd, gan na chefais Titus fy mrawd#2:13 Pennodwyd i gyfarfod yn Troas, ond lluddiwyd Titus i ddyfod yno mewn pryd. Yr oedd yr Apostol yn or‐bryderus i glywed am sefyllfa pethau yn Corinth, yn enwedig am effaith y llythyr cyntaf ar yr eglwys.; eithr wedi canu#2:13 Wedi ymadael, neu ffarwelio. yn iach iddynt, mi a aethum allan i Macedonia#2:13 Y mae Paul yn byw etto o ran ei ymweliadau cylch‐deithiol yn yr Epistol hwn. Cawn ein hunain gydag ef yn Ephesus, Troas, Macedonia, Corinth, &c.. 14Ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn ein harwain mewn buddugoliaeth#2:14 Thriambeuô. Defnyddir y gair yn Col 2:15 ac yma. Daw o thriambos, emyn i Bacchus. Dynoda yn bennaf yr arddangosfa o fuddugoliaeth Rufeinig, pan ddychwelai y cadfridogion a'r milwyr i Rufain, ac a ymdeithient yn osgorddlu ysplenydd drwy brif heolydd y ddinas i'r Capitol, gan ddwyn gyda hwynt garcharorion rhyfel yn rhwym wrth eu cerbydau. Y ffugyr yw, fod Paul a'i gyd‐lafurwyr yn rhwym wrth gerbyd y Gorchfygwr, Iesu Grist, ac yn eu holl fywyd a'u gwasanaeth yn ei deyrnas, y mae Crist yn gwneyd arddangosiad o honynt fel ei gaeth‐weision (‘Paul, caethwas Iesu Grist’), a'i garcharorion, yn yr hyn y gorfoleddant. Y mae'r Groes wedi myned yn gerbyd buddugoliaeth, a rhwymir Paul a'i frodyr wrtho â chadwyn cariad a theyrngarwch annattodol. yng Nghrist, ac yn amlygu arogledd#2:14 Ar adeg gorymdaith y Cadfridog Rhufeinig, yr oedd y temlau yn agored, blodau persawrus yn daenedig ar y ffordd ac yn addurno yr heolydd, a pherarogl‐darth yn esgyn o bob allor. Y mae yr Apostol wedi hunaniaethu ei hun â Christ. Y mae y clai wedi cymmeryd i mewn iddo ei hun bersawredd Rhosyn Saron, ac y mae ei berson a'i bregethu yn esgyn fel arogl‐darth i'r nef, ac yn ymledaenu drwy y gwledydd pa le bynnag y mae Crist yn ymdeithio mewn goruchafiaeth achubol. y wybodaeth o hono trwom ni ym mhob lle; 15canys perarogl#2:15 Yr oedd yr arogl yn codi o'r allorau yn brophwydoliaeth o farwolaeth i'r carcharorion, ac arwydd o orfoledd ac anrhydedd i'r gorchfygwyr. Y mae yr efengyl sydd yn achub yn troi yn wenwyn i'r rhai sydd yn ei gwrthod. Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig ac yn y rhai colledig#2:15 Llyth., ‘i'r rhai sydd yn cael eu cadw a'r rhai sydd yn cael eu colli,’ sef y rhai sydd ar y ffordd i gadwedigaeth, &c.: 16i'r naill yn arogl#2:16 Ek, ‘allan o,’ o, א A B C Brnd.; gad. D F G. marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd#2:16 ‘O hadau marwolaeth a'r condemniad dechreuol ym mlaen i farwolaeth dragywyddol, ac o ddechreuad y bywyd newydd ym mlaen i gyflawn sancteiddiad a gogoneddiad.’. Ac i'r pethau hyn, pwy sydd ddigonol? 17Canys nid ydym ni fel y llawer yn llygru#2:17 Kapêleuô [yma yn unig yn y T.N.]. Dynoda weithred y mân-werthwyr (yn enwedig masnachwyr mewn gwin) o gymmysgu pethau iselwael â'u nwyddau, ac felly yn twyllo y cyhoedd; yma, llygru. gair Duw; eithr megys o burdeb#2:17 ‘Yr hyn a fernir yng ngoleuni haul’ (1:12)., megys o Dduw, wyneb yn wyneb â Duw, yng Nghrist yr ydym yn llefaru.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

2 Corinthiaid 2: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้