2 Corinthiaid 1
1
Cyfarchiad ac Arweiniad i mewn.
1Paul, Apostol Crist#1:1 Crist Iesu א B M Brnd. ond Ln.; Iesu Grist A D G Ln. Iesu trwy ewyllys Duw, a'r brawd#1:1 Pan yn ysgrifennu at y Corinthiaid geilw Paul Timotheus yn frawd, ond pan atto ei hun, geilw ef yn fab. Danfonodd Paul ef i Corinth yr un pryd a'r Epistol Cyntaf (1 Cor 4:17). Erbyn hyn yr oedd wedi dychwelyd, ac er nad oedd yn gyd‐awdwr o'r Ail Epistol, etto yr oedd yn gyd‐ddanfonydd. Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyda'r holl saint sydd yn holl Achaia#1:1 Achaia, yn yr amseroedd clasurol, oedd y rhan ogleddol o'r Peloponnesus; ond ar ol hyn, dynodai yr oll o Hellas yn ogystal, ynghyd a'r ynysoedd cyfagos. Os defnyddir y gair yn yr ystyr eangaf yma, cymmer i mewn Athen yn ogystal a Chorinth, Cenchrea, &c.; ond y mae yn amheus a ddefnyddir ef gan Paul yn ei ystyr eang, oblegyd dywed yn 1 Cor 16:15 mai ‘Stephanas a'i deulu oedd ‘blaenffrwyth Achaia.’ Yr oedd Dionysius yr Areopagiad ac eraill wedi eu dychwelyd o flaen Stephanas.; 2Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist#1:2 Y cyfarchiad arferol. Yn yr Efengyl y mae ‘gras’ [‘ffafr,’ ‘llawenydd’] y Gorllewinwr, a ‘thangnefedd’ y Dwyreiniwr yn cyd-gyfarfod. Hefyd yma y mae Duw Dâd a'r Arglwydd Iesu yn cael eu cyssylltu gan yr un arddodiad, yr hyn a ddengys gyd‐raddoldeb, ac felly Ddwyfoldeb..
3Bendigedig fyddo#1:3 Neu, yw yn ddealledig. Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y tosturiaethau#1:3 Oiktirmos, tosturi, yn cyfatteb i'r gair Hebraeg rechem, ymysgaroedd, y rhai a debygid oeddynt gartrefle y teimlad o dosturi; yna, arddangosiad o'r teimlad. ‘Tâd y tosturiaethau,’ eu Hawdwr a'u Rhoddwr, gan ddangos tosturi Duw mewn ymarferiad. Cymharer y Weddi Iuddewig, ‘Y Tâd trugarog,’ â'r un yn y Koran, “Allah, y tosturiol, y trugarog.” a Duw pob dyddanwch#1:3 Paraklêsis, deisyfiad, cynghoriad, annogiad, cysur, dyddanwch. Y mae yn cynnwys annogaeth a chefnogaeth. Cyferfydd y ddau brif ystyr yn ‘calonogiad.’ Y mae tosturiaethau y Tâd yn cynnyrchu ‘calondid’ yn y credadyn. Dyma y man cyntaf yn y T. N. lle y cymhwysir y gair at ‘Dduw,’ yr hwn a ddefnyddir am Grist a'r Yspryd Glân yn Ioan., 4yr hwn sydd yn ein dyddanu ni yn ein holl#1:4 Gorthrymder [neu gystudd] yn ei gyfanswm. Y mae tosturi Duw yn estynedig dros yr oll. Y mae yn bresennol cyn y daw y cystudd. Y mae ‘ym mhob gorthrymder’ yn rhanedigol. Nis gallwn ni ond rhoddi ychydig o ddyddanwch yn awr ac eilwaith. Y mae dyddanwch Duw yn for didrai; nid yw ein dyddanwch ni ond ffrydiau o hono a lifant yn ddyfroedd cysur ac adloniant i eraill. Nid yw dyddanwch Duw yn cronni mewn un galon; ni fydd yn ddyddanwch i ni os na wna redeg yn ffrydlif bur i galonnau eraill. orthrymder, fel y gallom ninnau ddyddanu y rhai sydd ym mhob#1:4 Gorthrymder [neu gystudd] yn ei gyfanswm. Y mae tosturi Duw yn estynedig dros yr oll. Y mae yn bresennol cyn y daw y cystudd. Y mae ‘ym mhob gorthrymder’ yn rhanedigol. Nis gallwn ni ond rhoddi ychydig o ddyddanwch yn awr ac eilwaith. Y mae dyddanwch Duw yn for didrai; nid yw ein dyddanwch ni ond ffrydiau o hono a lifant yn ddyfroedd cysur ac adloniant i eraill. Nid yw dyddanwch Duw yn cronni mewn un galon; ni fydd yn ddyddanwch i ni os na wna redeg yn ffrydlif bur i galonnau eraill. gorthrymder, trwy y dyddanwch â'r hwn y'n dyddenir ni ein hunain gan Dduw. 5Canys fel y mae dyoddefiadau#1:5 Nid dyoddefiadau er mwyn Crist, ond dyoddefiadau Crist o'r rhai y mae ei ganlynwyr yn gyfrannog. ‘Y mae dyoddefiadau Crist yn gorlifo i ni.’ “Paham yr wyt yn fy erlid i?” Yr oedd dyoddefiadau iawnol Crist am unwaith ac ar ben am byth; ond fel ein Hesiamplydd y mae ein heiddo ni yr un a'i eiddo Ef. Yn hyn yr ydym yn ‘cyflawni yr hyn sydd yn ol o gystuddiau Crist’ (Col 1:24). Crist yn gorlifo i ni, felly trwy Grist#1:5 Yr ydym yn dyoddef o herwydd ein bod yn aelodau o Hono, dyddenir ni am mai Efe yw ein Pen. Y mae y ‘dyoddefiadau’ yn llawer, ond nid yw y ‘dyddanwch’ ond un, etto y mae yr un yn fwy na'r llawer. Y mae y dyoddefiadau yn eiddo Crist, ond y mae y dyddanwch yn eiddo i ni trwy Grist. y mae ein dyddanwch ni yn gorlifo#1:5 ‘Yn gorlifo,’ ‘tros fesur’: uwchaf i gyd y chwydda Diluw y Dyoddefiadau, uwchaf oll y nofia Arch Dyogelwch.. 6Ond pa un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae, yr#1:6 (1) Y mae y llawysgrifau yn amrywio yn ddirfawr yn eu darlleniadau o'r adnod. Fel yn y testyn y darllena B D E F La. Tr. Al.; (2) Fel y canlyn y darllena A C: Ond pa un bynnag a ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch chwi y mae, yr hwn sydd yn gweithio yng ngoddefiad dewr yr un dyoddefiadau y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef. Ac y mae ein gobaith yn ddiysgog am danoch, &c. (3) Y Test. Derb., ganlyna Erasmus, ond yr hwn ni cheir yn yr un drefn mewn un llaw‐ysgrif Roeg, gan osod Ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog ar ol y frawddeg yn y testyn, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae. Ond y mae y meddwl yr un er amrywiaeth y darlleniadau. hwn sydd yn gweithio#1:6 Neu, effeithiol; nid yn y goddefol, ‘a weithir.’ Gweler 4:12; Rhuf 7:5; Gal 5:6; Eph 3:20; Col 1:29, &c. yng ngoddefiad#1:6 Hupomonê, dal i fyny yn wrol dan galedi, gorthrwm, erledigaeth. Y mae yn dynodi y rhinwedd sydd yn teimlo i'r byw, ond yn goddef yn amyneddgar a dewr. dewr yr un#1:6 Nid yn yr ystyr mai yr un oedd dyoddefiadau y Corinthiaid ag eiddo Paul, ond fod eu dyoddefiadau o'r un natur ag eiddo Crist. dyoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef, 7ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog#1:7 Bebaios, cadarn [i'r traed], disigl, sicr.; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae#1:7 (1) Y mae y llawysgrifau yn amrywio yn ddirfawr yn eu darlleniadau o'r adnod. Fel yn y testyn y darllena B D E F La. Tr. Al.; (2) Fel y canlyn y darllena A C: Ond pa un bynnag a ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch chwi y mae, yr hwn sydd yn gweithio yng ngoddefiad dewr yr un dyoddefiadau y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef. Ac y mae ein gobaith yn ddiysgog am danoch, &c. (3) Y Test. Derb., ganlyna Erasmus, ond yr hwn ni cheir yn yr un drefn mewn un llaw‐ysgrif Roeg, gan osod Ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog ar ol y frawddeg yn y testyn, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae. Ond y mae y meddwl yr un er amrywiaeth y darlleniadau.; gan wybod#1:7 Gan gyfeirio at ai ein dyddanu yr ydys; ‘dyddenir ni â'r sicrwydd,’ &c. mai, megys yr ydych yn gyfrannogion o'r dyoddefiadau, felly hefyd yr ydych o'r dyddanwch. 8Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddygwyddodd yn Asia#1:8 Sef Asia Leiaf, yn enwedig y rhannau gorllewinol, megys Mysia, &c. Beth oedd y gorthrymder hwn, nid ydys yn sicr. Dywed rhai mai y cythrwfl a achoswyd gan Demetrius ac eraill yn Ephesus, yr hwn a gofnodir yn Act 19:24–41. Yn ol eraill, rhyw berygl arall, fel yr un a gofnodir yn 1 Cor 15:32. Yn ol eraill, afiechyd trwm neu glefyd peryglus. Tebygol ei fod yn cyfeirio at gyd‐gyfarfyddiad o beryglon, megys erledigaeth gyhoeddus, cynllwyn yr Iuddewon maleisus, afiechyd corphorol, &c., mai yn ddirfawr, tu hwnt i'n gallu, y pwyswyd yn drwm arnom, nes i ni anobeithio yn hollol#1:8 Llyth., methu gweled ffordd allan, bod mewn dyryswch hollol, mewn cyfyng‐gynghor, yna, gwan‐galonni, anobeithio. hyd y nod i gael byw; 9ië#1:9 Neu, ond., yr ydym ni ein hunain wedi cael ynom ein hunain yr atteb#1:9 Apokrima [yma yn unig yn y T.N., ac nid yw yn yr Awduron Clasurol nac yn y LXX], atteb, dedfryd, dyfarniad, cynnwys neu sylwedd atteb. “Yr oeddwn yn argyhoeddedig pan yn gofyn i mi fy hun beth fyddai diwedd neu ganlyniad yr ymdrechfa, a'r atteb diamheuol oedd, Marwolaeth.” Efallai fod i'r gair ystyr meddygol. Defnyddir apokrisis yn Hippocrates, &c., am ryw grynhoad gwenwynus a pheryglus yn y corph. Y mae yma ryw awgrym am afiechyd marwol, ac felly yr oedd adferiad Paul megys adgyfodiad o blith y meirw. o farwolaeth, fel na fyddem yn ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw; 10yr hwn a'n gwaredodd ni allan o'r cyfryw ddirfawr farwolaeth, ac a'n#1:10 Ac y mae yn ein gwared F G M; fel yn y testyn א B C; gad. A D. gwared: yn yr hwn#1:10 Llyth., i'r hwn. yr ydym wedi gobeithio y gwared ni etto hefyd, 11a chwychwi yn cyd‐gynorthwyo#1:11 Neu, cyd‐weithio, cyd‐wasanaethu (yma yn unig yn y T.N.). ar ein rhan trwy eich deisyfiad, fel, am#1:11 Gellir cyfieithu y frawddeg mewn tair ffordd o leiaf: (1) trwy gymmeryd ‘trwy lawer’ a ‘rhoddi diolch’ ynghyd, a ‘rhodd’ a ‘gan [trwy] lawer o bersonnau’ ynghyd: ‘Fel, am y rhodd a rodded i ni trwy [llyth., allan o, trwy offerynoliaeth] lawer o bersonnau y rhoddid diolch gan lawer’; (2) trwy gyssylltu ‘trwy lawer’ a ‘gan lawer o bersonnau’ a ‘rhoddid diolch’: ‘Fel am y rhodd a rodded i mi y rhoddid diolch trosom gan lawer o bersonnau trwy lawer [o eiriau]’; (3) fel yn y testyn, yr hon, i'n tyb, yw y goreu. Y ‘rhodd’ yw y waredigaeth a ddymunai yr Apostol. Golyga charisma ‘rodd arbennig neu neilltuol.’ y rhodd a rodded i ni trwy lawer, y rhoddid diolch trosom gan lawer o bersonnau#1:11 Prosôpon a olyga gwyneb‐pryd, mewn Groeg diweddarach, person, ond y mae yn amheus a ddefnyddir y gair yn yr ystyr hwn yn y T. N. Felly cyfieitha rhai yma ‘rhoddi diolch trosom gan lawer o wynebau,’ hynny yw, allan o lawer o eneuau, gan lawer gwyneb fel yr edrychai i fyny mewn diolchgarwch..
Ymddiffyniad Paul o'i ymddygiad.
12Canys ein hymffrost ni yw hyn, tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn sancteiddrwydd#1:12 Yma ac yn Heb 12:10 (am sancteiddrwydd Duw). Dynoda yma burdeb amcan, cywirdeb ac uniondeb meddwl.#1:12 Sancteiddrwydd א A B C Brnd.; symlrwydd D. a'r purdeb#1:12 Neu, gywirdeb. Dywedir y deillia y gair eilêkrineia, o eilê, goleuni yr haul, a krino, barnu, profi: ‘yr hyn a ddeil ei brofi yng ngoleu haul,’ felly golyga, tryloewder cymmeriad, cywirdeb, didwylledd. Gwel 1 Cor 5:8. sydd o Dduw#1:12 Llyth., purdeb Duw, nid y purdeb sydd yn ofynol i wasanaethu Duw, purdeb duwiol, ond y cywirdeb sydd yn rhodd Duw, yn dyfod oddiwrtho ef., nid mewn doethineb cnawdol, ond yng ngras#1:12 Neu, ffafr, sef ‘yr Apostoliaeth i ufudd‐dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd’ (Rhuf 1:5). Duw, yr ymddygasom yn y byd, ac yn helaethach tuag attoch chwi#1:12 Arhosodd yn hwy ym mhlith y Corinthiaid na'r rhan fwyaf o'r lleoedd yn y rhai yr efengylodd ac y plannodd eglwysi. Cawsant bob mantais i sylwi ar burdeb ei amcanion a didwylledd ei gymmeriad. Gwrthododd yn bendant dderbyn oddiwrthynt unrhyw gymhorth at ei gynnaliaeth.. 13Canys nid ydym yn ysgrifennu pethau eraill attoch amgen na'r rhai yr ydych yn eu darllen#1:13 Defnyddir yma ddau air cyffelyb o ran sain, anaginôskô ac epiginôskô. Dynoda y blaenaf cydnabod, gwahaniaethu, gwybod yn gywir, ond yn y T.N. defnyddir ef yn yr ystyr o ddarllen (Mat 12:5; Marc 12:26; Luc 10:26; Act 8:30, 32, &c.). Ystyr yr ail yw cyflawn‐wybod, cywir‐wybod, llawn‐ddeall. ‘Pan yn ysgrifennu attoch, y mae y meddwl yn amlwg ac ar y wyneb.’ ‘Gwelwch ein calon yn ein llythyrau; ac yr ydych yn gydnabyddus â'n hymddygiad. Nid ydym yn rhodio mewn cyfrwysdra.’, neu hyd y nod yn eu cydnabod#1:13 Defnyddir yma ddau air cyffelyb o ran sain, anaginôskô ac epiginôskô. Dynoda y blaenaf cydnabod, gwahaniaethu, gwybod yn gywir, ond yn y T.N. defnyddir ef yn yr ystyr o ddarllen (Mat 12:5; Marc 12:26; Luc 10:26; Act 8:30, 32, &c.). Ystyr yr ail yw cyflawn‐wybod, cywir‐wybod, llawn‐ddeall. ‘Pan yn ysgrifennu attoch, y mae y meddwl yn amlwg ac ar y wyneb.’ ‘Gwelwch ein calon yn ein llythyrau; ac yr ydych yn gydnabyddus â'n hymddygiad. Nid ydym yn rhodio mewn cyfrwysdra.’, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch#1:13 Defnyddir yma ddau air cyffelyb o ran sain, anaginôskô ac epiginôskô. Dynoda y blaenaf cydnabod, gwahaniaethu, gwybod yn gywir, ond yn y T.N. defnyddir ef yn yr ystyr o ddarllen (Mat 12:5; Marc 12:26; Luc 10:26; Act 8:30, 32, &c.). Ystyr yr ail yw cyflawn‐wybod, cywir‐wybod, llawn‐ddeall. ‘Pan yn ysgrifennu attoch, y mae y meddwl yn amlwg ac ar y wyneb.’ ‘Gwelwch ein calon yn ein llythyrau; ac yr ydych yn gydnabyddus â'n hymddygiad. Nid ydym yn rhodio mewn cyfrwysdra.’ hyd y diwedd; 14fel hefyd y cydnabuoch ni o ran#1:14 Yr oedd aelodau yr Eglwys yn rhannedig o ran eu barn am dano. Yr oedd rhai o honynt yn ei lawn‐werthfawrogi., mai nyni yw eich ymffrost#1:14 Yn ad. 12, defnyddir kauchêsis, y weithred o ymffrostio, ond yma kauchêma, sylfaen neu gynnwys yr ymffrost. Y mae y geiriau yn nodweddu yr Epistolau a berthynant i'r adeg hon. Dygwyddant 46 o weithiau yn 1 Cor, 2 Cor, Rhuf, a Gal, a dim ond 6 o weithiau yn y lleill. chwi, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn Nydd#1:14 Pan ddaw i farnu'r byd, ac i ddangos pob bwriad ac amcan ac ysgogydd yn ei liw priodol. ein Harglwydd Iesu.
15Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn chwennych dyfod attoch o'r blaen#1:15 Neu, ‘chwennychwn o'r blaen ddyfod attoch.’, fel y caffech ail ras#1:15 Neu, ffafr, lleshâd, trwy ei ail‐ymweliad a hwy ar ol ei ddychweliad o Macedonia. Dysgwyliai i Dduw fendithic ei bresennoldeb yn eu plith. Sylwer fod rhai o'r hen law‐ysgrifau yn darllen ‘llawenydd.’ Nid oes gwahaniaeth yn y gwreiddiol ond mewn un llythyren (charin a charan).#1:15 Gras [charin] א A C D Ti. Tr. Al. Diw.; llawenydd [charan] B L WH.; 16a thrwoch#1:16 Hynny yw, bwriadai fyned trwy Corinth i Macedonia. Ei fwriad cyntaf felly, ydoedd: Croesi y môr o Ephesus i Corinth; yna myned dros y tir trwy Ogledd Groeg i Macedonia; yna dychwelyd o Macedonia, dros fôr neu dir, i Corinth, ac yn y diwedd hwylio i Jerusalem. Ond newidiodd ei gynllun cyn gorphen ei Epistol Cyntaf (1 Cor 16:5, 6), canys yno y dywed ei fod yn myned ym mlaenaf i Macedonia, ac y byddai yn dychwelyd i Corinth oddiyno. Aeth Timotheus o Ephesus i Corinth cyn i Paul anfon ei Epistol Cyntaf at y Corinthiaid, ac y mae yn debygol iddynt glywed am ei gynllun gwreiddiol trwy Timotheus. chwi fyned trwodd i Macedonia, a dyfod drachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennych i Judea. 17Gan hynny pan yn#1:17 Yn chwennych [ewyllysio, boulomenos] א B C F G; bwriadu [bouleuomenos] D. chwennych hyn, a arferais i yn wir ysgafnder o gwbl#1:17 Neu, a ddangosais i anwadalwch? Y mae y ffurf yn y gwreiddiol yn dysgwyl yr atteb yn y nacaol, ‘Yn sicr ni feddyliwch fy mod wedi bod yn wamal neu anwadal?’ Dygwydda elaphria, ‘ysgafnder,’ ‘anwadalwch,’ yma yn unig yn y T. N., a'r ansoddair ‘elaphros,’ ‘baich sydd ysgafn,’ yn Mat 11:30. Y mae Paul yn cyfarfod â dau gyhuddiad a allesid eu coleddu, sef ei fod yn cael ei ysgogi gan gymhelliadau annheilwng, a'i fod yn anwadal yn ei feddwl.? Neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi yr Ië, Ië, a'r Nage, Nage?#1:17 Y mae yma yn cyfarfod â'r cyhuddiad o anwadalwch — yn addaw a pheidio cyflawni. A oedd yn alluog i ddywedyd Ië ar un adeg a Nage ar un arall yng nghylch yr un mater? A oedd yn gallu chwareu â'i fwriadau, a newid ei feddwl ‘fel y gwynt’? Na, yr oedd yn ddidroi‐yn‐ol yn ei ‘fwriad,’ er newid y ‘cynllun.’ Yr oedd yn benderfynnol i ymweled â hwy, a'r canlyniad fyddai arhosiad hir yn eu plith ar ei ddychweliad o Macedonia, ac nid dau ymweliad byr. Yr oedd y cynllun wedi ei newid, ond yr oedd y bwriad yn aros. 18Eithr ffyddlawn yw Duw fod ein hymadrodd ni wrthych chwi nid yn Ië a Nage#1:18 Y rhan fwyaf a gyfieithant: Eithr fel y mae Duw yn ffyddlawn, ein gair ni wrthych chwi nid ydyw Ië a Nage. Nid rhyw fath o lw yw yr ymadrodd, ‘Ffyddlawn yw Duw’; nid dadganiad yw y frawddeg fod Paul yn ffyddlawn a chysson âg ef ei hun fel y mae Duw yn ffyddlawn; ond teimla fod Duw tu cefn iddo, yn ffyddlawn i'w addewid, ac yn ei gynnysgaethu a ‘gras am ras,’ fel y mae ei gennadwri yn ei Epistolau a'i Annerchiadau yr un, ac felly yn gysson, ei amcanion yn bur, a'i holl fywyd yn y goleu.. 19Canys Mab Duw,#1:19 Gesyd Paul destyn ei bregethu, y Person tragywyddol ac annghyfnewidiol, ar ddechreu ei ymadrodd i ddangos mor annhebyg ydoedd efe ei hun i fod yn euog o anwadalwch ac ysgafnder. Hefyd, nid yn unig Crist oedd ei bwnc dihysbydd ei hun, ond hefyd eiddo ei gyd-efengylwyr, Silvanus a Thimotheus. Yn ol Act 18:5, aeth Silas (yr un a Silvanus) gyda Timotheus i Corinth i gyfarfod a chyd‐lafurio â Phaul. Gweler hefyd 1 Thess 1:1; 2 Thess 1:1. Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gennyf fi a Silvanus a Thimotheus, nid ydoedd Ië a Nage#1:19 Y mae Iesu Grist yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd. Efe hefyd yw Y Gwirionedd. ‘Yn wir, yn wir’ oedd ei arwyddair [Amen, amen, 31 o weithiau yn Matthew, 14 yn Marc, 6 yn Luc, a 25 yn Ioan]. Llinell union oedd ei fywyd a'i athrawiaeth, ac y mae tystiolaeth Paul a'i gyd‐weithwyr yn barhâd union o honi, ac y mae y ffaith hanesyddol ‘wedi dyfod’ yn wirionedd sefydlog, yn Ië arhosol ynddo Ef, naill ai yn Nuw, neu yn hytrach yng Nghrist ei hun., eithr y mae wedi dyfod yn Ië ynddo ef. 20Canys cynnifer ag yw addewidion Duw, ynddo ef mae yr Ië#1:20 Pa mor lluosog a phwysig bynnag yw yr addewidion a roddodd Duw, rhoddwyd hwynt oll yn a thrwy Iesu Grist, a chyflawnir hwynt oll ‘ynddo’ Ef. Y mae Ië, hynny yw, cadarnhâd yr addewidion yng Nghrist, a thrwyddo Ef y mae eu gwireddiad, yr Amen eu bod wedi eu cyflawni. ‘Ynddo,’ yn ei berson; ‘trwyddo,’ yn ei waith. Y mae yr ‘Amen’ yn rhoddi coron ar yr ‘Ië.’ Y mae Crist yn ei fywyd a'i waith, yn wyneb bwriadau ac addewidion Duw yn dywedyd, Ië; y mae yr Eglwys Gyffredinol yn syllu ar eu cyflawniad ynddo, yn unfryd lefain mewn bonllef fyd‐gyrhaeddol, ‘Amen.’ ‘Ië,’ meddai y Groegwr, ‘Amen,’ meddai yr Iuddew; ‘Ie,’ meddai'r Apostolion wrth bregethu, ‘Amen,’ meddai'r credinwyr wrth wrando.; o herwydd hynny hefyd trwyddo ef mae yr Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. 21A'r hwn sydd yn ein cadarnhâu ni gyda chwi yng Nghrist#1:21 Christos‐chrisas. Naturiol oedd enwi'r ‘enneiniad’ ar ol yr ‘Enneiniog.’ Y mae y ‘cadarnhau’ yn y presennol, y mae yn barhaus yn cymmeryd lle. Y mae yr ‘enneinio’ a'r ‘selio’ yn y gorphennol. Dynodant y gweithrediadau Dwyfol ar gychwyniad y bywyd newydd. Cymmerant le yr un pryd. Y mae yr ‘enneinio’ yn dangos cyssegriad, ‘selio’ yn dynodi meddianiad, ac ‘ernes’ yr Yspryd, Sancteiddhâd., ac a'n henneiniodd#1:21 Christos‐chrisas. Naturiol oedd enwi'r ‘enneiniad’ ar ol yr ‘Enneiniog.’ Y mae y ‘cadarnhau’ yn y presennol, y mae yn barhaus yn cymmeryd lle. Y mae yr ‘enneinio’ a'r ‘selio’ yn y gorphennol. Dynodant y gweithrediadau Dwyfol ar gychwyniad y bywyd newydd. Cymmerant le yr un pryd. Y mae yr ‘enneinio’ yn dangos cyssegriad, ‘selio’ yn dynodi meddianiad, ac ‘ernes’ yr Yspryd, Sancteiddhâd. ni, yw Duw; 22yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roddodd i ni ernes#1:22 Arrabôn, gair Hebraeg (Gen 38:17, 18, 20), yr hwn mewn gwahanol ffurfiau a geir mewn amryw ieithoedd. Dynoda nid gwystl, ond ernes, rhoddiad rhan o'r hyn a gytunir yn ei gylch, neu a addewir ei roddi. Ernes yr Yspryd yw yr Yspryd ei hun. Defnyddir y gair yma (5:5; Eph 1:14). yr Yspryd yn ein calonnau. 23Ac yr wyf yn galw#1:23 Neu, appelio (Act 25:11). Ni ddefnyddir yr ymadrodd ond yma yn y T. N. Duw yn dyst yn erbyn#1:23 Neu, ar fy enaid, ond gwell yr uchod, ‘Os nad wyf yn dywedyd y gwirionedd, bydded Duw yn dyst yn erbyn fy enaid.’ fy enaid, mai er eich arbed ni ddaethum i etto i Corinth: 24nid am ein bod yn arglwyddiaethu#1:24 Gweinidogaethol ac nid Arglwyddiaethol oedd nodwedd ei fywyd a'i waith. ar eich ffydd, ond yr ydym yn gyd‐weithwyr i'ch llawenydd; oblegyd trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 1: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.