2 Corinthiaid 12
12
Gweledigaethau nefol a gwendidau poenus.
1Y mae yn#12:1 Felly B E F G Brnd.; ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol א D. rhaid i mi ymffrostio, er nad yw yn fuddiol; ond deuaf at weledigaethau a dadguddiadau yr Arglwydd#12:1 A roddwyd gan yr Arglwydd. Gweler am rai tebyg, Es 6; Esec 3:14, 22, 24; 8:1; 37:1; 40:1–3; Dad 1:10.. 2Yr wyf yn adwaen dyn yng Nghrist, pedair blynedd ar ddeg yn ol#12:2 Efallai pan yr oedd yn Tarsus pan yn dysgwyl wrth Dduw i egluro iddo ei waith (rhwng Act 9:30 a 11:25), neu pan ordeiniwyd ef i Apostolaeth y Cenhedloedd, flynyddau ar ol ei droedigaeth. (ai yn y corph, nis gwn; ai allan o'r corph, nis gwn; Duw a ŵyr), gipio y cyfryw un hyd y drydedd#12:2 Yr oedd yn nhyb y Rabbiniaid saith nef. Y cymmylau oedd y drydedd nef; ond amlwg yw nad oedd eu cyfundrefn hwy wedi dylanwadu ar syniadau Paul. Yr oedd ei drydedd nef ef yn gartrefle dedwyddwch. nef. 3Ac yr wyf yn adwaen y cyfryw ddyn (ai yn y corph, ai ar wahân â'r corph, nis gwn, Duw a ŵyr), 4a gipiwyd i Baradwys#12:4 Gair Persiaidd, a geir hefyd yn y Sanscrit, Hebraeg, Syriaeg a Groeg, yn golygu gardd neu barc pleserus. Defnyddir y gair hefyd yn Luc 23:43, a Dad 2:7. Golyga, yn debygol, yr un peth a'r drydedd nef; cartrefle y cyfiawnion ar ol marwolaeth., ac a glywodd eiriau annhraethadwy, y rhai nid yw bosibl#12:4 Nid yn gymmaint ‘gyfreithlawn.’ Yr oedd ei weledigaethau a'r geiriau a glywodd tu hwnt i ddesgrifiad neu adroddiad (Rhuf 8:26). i ddyn eu llefaru. 5Am y cyfryw ddyn yr ymffrostiaf; ond am danaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendidau. 6Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf yn ffol, canys gwirionedd a ddywedaf; eithr yr wyf yn ymattal, rhag i neb feddwl am danaf fi uwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed oddiwrthyf. 7Ac o ganlyniad, fel na'm tra‐dyrchafer trwy odidowgrwydd#12:7 Neu ragoroldeb. y dadguddiadau, rhoddwyd i mi swmbwl#12:7 Skolops, polyn, pawl, wedi ei flaenllymmu er ei yrru i'r ddaear. Uu ffordd o roddi i farwolaeth oedd trywanu y corph neu ei daflu ar bolyn blaenllym (impalement). Ammhosibl gwybod yn sicr beth oedd y ‘swmbwl’; ond amlwg yw mai nid clefyd meddyliol ydoedd, megys y demtasiwn i ammhuredd neu hunan‐laddiad neu feddyliau cableddus (Luther). Yr oedd yn wendid corphorol. Rhai a farnant ei fod yn fasglwyfus (epileptic); eraill, ei fod yn ymwybodol o waeledd ei berson; eraill, mai gwendid ei olygon a olygir. Y mae Gal 4:15 yn ffafriol i'r olaf. Gweler hefyd Gal 6:11. yn y cnawd, cennad#12:7 Neu, angel. Priodolir y gwendid corphorol i angel drwg a ddanfonwyd gan Satan (Job 2:5, 7; Luc 13:16; Act 10:38). Satan i'm cernodio#12:7 Fel na'm tra‐dyrchafer B; gad. א A D F G.. 8Am hwn#12:8 Sef, angel neu gennad Satan., mi a attolygais ar yr Arglwydd deirgwaith#12:8 Gweddiodd Crist deirgwaith., ar fod iddo ymadael â mi; 9ac y mae efe wedi dywedyd#12:9 Yr amser perffaith; y mae y dywediad yn aros yn ei effeithiau. Cafodd Paul yr atteb ar y trydydd tro. Temtiwyd Job gan Satan deirgwaith: (1) collodd ei feddiannau, (2) ei blant, (3) ei iechyd. Temtiwyd Crist deirgwaith; felly Petr (Mat 26:34–75). wrthyf, Digon i ti fy ngras i; canys nerth#12:9 Fy E K L; gad. א A B D F G. a berffeithir mewn gwendid. Gyda'r llawenydd pennaf gan hynny yr ymffrostiaf yn hytrach yn fy ngwendidau, fel y cysgodo#12:9 Llyth., tabernaclu, pabellu. ‘Daw gallu Crist fel pabell Ddwyfol i lawr a chysgoda o'm hamgylch, a minnau a arhosaf yn ddyogel dan y gorchudd.’ Gwel Ioan 1:14. gallu Crist drosof. 10Am hynny yr wyf yn cymmeryd hyfrydwch mewn gwendidau, mewn sarhadau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn#12:10 Neu, alluog..
Cred‐lythyrau Apostol.
11Aethum yn ffol#12:11 Gan ymffrostio; gad. א A B D F G.; chwychwi a'm gorfodasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol#12:11 Neu, gymmeradwyo. gennych chwi; canys ni fum mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol#12:11 Gweler 11:5.! Er nad wyf fi ddim#12:11 Cyplysir y frawddeg hon yn fynych â'r frawddeg olaf., 12arwyddion Apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi mewn pob amynedd, trwy arwyddion a rhyfeddodau a nerthoedd#12:12 Hawlia Paul allu i gyflawni gwyrthiau (Act 13:11; 14:10; 16:18; 19:11, 12).. 13Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ol am dano, tuhwnt i'r eglwysi eraill, oddieithr na bum i fy hun yn faich#12:13 Gweler 11:9. arnoch? Maddeuwch i mi yr annghyfiawnder hwn! 14Wele, hon yw y drydedd#12:14 Yr ymweliad cyntaf a gofnodir yn Actau 18; yr ail ni chofnodir yn yr Actau, ond cyfeirir atto yn 2 Cor 2:1. waith yr wyf yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf yn faich; canys nid wyf yn ceisio eich eiddo chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i'r rhieni, eithr y rhieni i'r plant; 15a myfi, gyda'r llawenydd pennaf, a dreuliaf ac a ymdreuliaf allan dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi yn eich caru yn ddirfawr#12:15 Neu, yn helaethach., ai llai y'm cerir i? 16Ond bydded felly: ni phwysais i arnoch#12:16 Cyferfydd yma ag ensyniad arall: ‘Caniattaer na ddarfu i Paul bwyso arnom am ei gynnaliaeth, ei ffordd gyfrwys oedd hynny i'n rhwydo mewn ffordd arall.’; eithr gan fod o'r dechreu yn gyfrwys, mi a'ch deliais trwy ddichell. 17A gymmerais i unrhyw fantais#12:17 Neu, ‘a wnaethum unrhyw elw o honoch’? arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a ddanfonais attoch? 18Deisyfais ar Titus#12:18 Hynny yw, i ddyfod attoch., ac mi a anfonais y brawd#12:18 Nid oes gwybodaeth pwy ydoedd. Gweler 8:18, 22. gydag ef. A gymmerodd Titus unrhyw fantais#12:18 Neu, ‘a wnaethum unrhyw elw o honoch’? arnoch? Oni rodiasom wrth yr un Yspryd, yn yr un llwybrau#12:18 Llyth., camrau.? 19Er#12:19 Er ys meityn (palai) א B F G.; etto (palin), D E. ys meityn yr ydych yn tybied mai amddiffyn ein hunain ydym wrthych#12:19 Rhai a ystyriant y frawddeg yn ofyniad, ‘A ydych yn tybied?’ &c.. Ger bron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru: a'r oll, anwyliaid, er mwyn eich adeiladaeth chwi. 20Canys yr wyf yn ofni, rhag mewn un modd, pan ddelwyf, i mi eich cael nid fel y dymunwn, a minnau i'm cael gennych chwithau yn gyfryw ag na ddymunech chwi: rhag mewn un modd fod cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonnau#12:20 Gweler ar Rhuf 2:8, gan ddynodi yr hyn a wnaed yn gyhoeddus., enllibiadau, ensyniadau#12:20 Hustyngau, cabl‐eiriau dirgelaidd., ymchwyddiadau, terfysgau: 21rhag, pan ddelwyf drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gŵydd, a galaru o honof am lawer ydynt wedi pechu eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid a'r godineb a'r anlladrwydd a wnaethant.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 12: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.