2 Corinthiaid 11
11
Cymhellion Paul i'w waith, a'i amddiffyniad.
1O na chyd‐ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb! na, yn wir, yr ydych yn cyd‐ddwyn#11:1 Neu, cyd‐ddygwch â mi. â mi; 2canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw#11:2 Gweler 1:12; naill ai (1) yr eiddigedd a ddaw o Dduw, neu, (2) sydd debyg i eiddo Duw. ei hun; canys mi a'ch dyweddiais#11:2 Cyfuno, cyfaddasu, trefnu (cerddoriaeth), &c., yna dyweddio. [Yma yn unig yn y T.N.] chwi i un gwr, i'ch cyflwyno#11:2 Fel cyfaill y Priodfab yn ei Ddyfodiad (Eph 5:27). Yn amser Paul cymmerai y dyweddiad le yn fynych amser maith cyn y briodas. Gweler Esec 23 &c. fel morwyn bur i Grist. 3Ond ofni yr wyf rhag mewn un modd, fel y twyllodd y sarph Efa yn ei chyfrwystra, y cä eich meddyliau chwi eu llygru oddiwrth y symlrwydd a'r purdeb#11:3 Purdeb א B F G. sydd tuag at Grist. 4Canys yn wir os yw yr hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn yspryd gwahanol, yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl wahanol, yr hon ni dderbyniasoch#11:4 Hynny yw, ‘Os ydych yn derbyn yspryd gwahanol i'r hwn a dderbyniasoch, ac efengyl wahanol i'r hon y rhoddasoch roesaw iddi,’ &c., yr ydych yn dal yn rhagorol#11:4 Defnyddia yr Apostol wawdiaith lem: ‘Yr ydych yn ymddwyn yn dda!’ Eraill a ystyriant y geiriau yn wahanol: ‘Pe buasai ganddo efengyl arall, da fuasai i chwi wrando arno.’! 5Canys yr wyf yn cyfrif nad wyf mewn dim ar ol#11:5 ‘Wedi syrthio mewn dim yn fyr!’ yr Apostolion tra‐rhagorol#11:5 Llyth., ‘ym mhell tu hwnt.’ Nis gall Paul gyfeirio at y gwir Apostolion, fel Petr, Iago, Ioan, &c., ond at y gau‐athrawon a hawlient uwchafiaeth ar bawb eraill.! 6Ac os ydwyf hefyd yn annghelfydd#11:6 Neu, annysgedig (gweler ar Act 4:13; 1 Cor 1:17; 2:1, 4, 13; 14:16). Yma, un annghyfarwydd â rheolau areithyddiaeth. mewn ymadrodd, nid wyf felly mewn gwybodaeth; na, ym mhob peth gwnaethom#11:6 Gwnaethom yn amlwg א B F G; y'n gwnaed yn amlwg D. hyn yn amlwg ym mhlith pawb tuag attoch. 7Neu a gyflawnais i bechod wrth fy ngostwng fy hun#11:7 Trwy weithio â'i ddwylaw am ei gynnaliaeth. fel y dyrchefid chwi, oblegyd pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rhad#11:7 Y mae cyferbyniaeth fawr rhwng y gwaith a'r tâl!? 8Eglwysi#11:8 Yn eu plith yr oedd Philippi yn amlwg (Phil 4:15, 16). eraill a yspeiliais, gan gymmeryd cyflog#11:8 Y gair am gyflog milwr (Luc 3:14). ganddynt hwy er y weinidogaeth i chwi; 9a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisieu, ni bum yn faich#11:9 Katanarkaô, merwino, gwneyd yn ddideimlad (S. numb); yna, pwyso ar, llethu. i neb, canys y brodyr#11:9 Efallai Silas a Thimotheus (Act 18:5)., pan ddaethant o Macedonia, a gyflawnasant fesur fy eisieu, ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac a ymgadwaf. 10Fel y mae gwirionedd Crist ynof, ni ddystewir#11:10 Sphragizô, sêlio, cuddio, cadw yn ddystaw. Gweler, yn yr ystyr olaf, Rhuf 3:19; Heb 11:33. fy#11:10 Llyth., mewn perthynas i mi. ymffrost hwn ym mharthau Achaia. 11Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a ŵyr. 12Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf, fel y torrwyf ymaith achlysur oddiwrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur#11:12 O gondemnio Paul am gymmeryd cyflog., fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y ceir hwynt fel ninnau hefyd#11:12 Ymffrostient eu bod yn gwasanaethu y Corinthiaid o galon bur ac mewn yspryd hunan‐aberthol, tra yr oedd eu hymddygiad yn groes i'w proffes. Hyn y mae Paul yn ei ddadnoethi. Y mae yr ymadrodd yn un dyrys.. 13Canys y cyfryw rai ydynt au‐apostolion#11:13 Y rhai a ystyrient eu hunain yn ‘Apostolion tu hwnt i bawb eraill’ (adnod 5)., gweithwyr twyllodrus, yn trawsffurfio eu hunain yn Apostolion Crist. 14Ac nid rhyfedd! canys y mae Satan yntau ei hun yn ymrithio#11:14 Llyth., ymlunio, arddullio. yn angel goleuni. 15Am hynny nid yw yn beth mawr os ei weinidogion ef hefyd a ymrithiant fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ol eu gweithredoedd.
Peryglon a gorthrymderau yr Apostol.
16Trachefn dywedaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol; ond os gwnewch, etto derbyniwch fi fel ffol, fel yr ymffrostiwyf finnau hefyd ychydig. 17Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd#11:17 Yn ei yspryd gostyngedig, ‘Y mae rhai pethau heb fod yn ol yspryd Crist ac etto heb fod yn hollol groes iddo’ (Robertson). Y mae hunan‐amddiffyniad yn fynych yn angenrheidiol., eithr megys mewn ffolineb, yn yr hyder hwn o ymffrost. 18Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. 19Canys yr ydych yn goddef y ffyliaid yn llawen, gan eich bod eich hunain yn ddoethion. 20Canys goddefwch ef, os rhyw un a'ch caethiwo#11:20 Yma ac yn Gal 2:4., os rhyw un a'ch llwyr‐fwytta#11:20 Eu meddiannau., os rhyw un a'ch magla#11:20 Llyth., dal, cydio., os rhyw un a ymddyrchafa, os rhyw un a'ch tery ar y wyneb#11:20 Nid yw yr esgob i fod yn ‘darawydd’ (1 Tim 3:3; Titus 1:7). Pasiwyd deddf yng Nghynghor Braga, mor ddiweddar a'r flwyddyn 675, nad oedd esgob i daraw yr offeiriaid!. 21Er ein gwaradwydd yr wyf yn llefaru, megys pe buasem yn weiniaid#11:21 ‘Yr oeddem ni lawer yn rhy wan i wneyd dim o'r pethau uchod! Nid oedd gennym y nerth i sangu arnoch a'ch yspeilio, gan eich taro yn eich wyneb ac ymddwyn fel bodau anffaeledig!. Etto ym mha beth bynnag y mae neb yn hŷf (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd), yr wyf finnau hefyd yn hŷf. 22Ai Hebreaid#11:22 Gan ddynodi eu cenedlaetholdeb. ydynt hwy? felly finnau: Ai Israeliaid#11:22 Gan ddynodi y genedl etholedig. Defnyddir y gair ‘Israeliaid’ yn y T.N. fel enw anrhydeddus. ydynt hwy? felly finnau. Ai hâd#11:22 Fel etifeddion yr Addewidion. Abraham ydynt hwy? felly finnau. 23Ai gweinidogion Crist ydynt? (yr wyf yn llefaru fel un o'i bwyll,) mwy wyf fi: mewn llafur yn helaethach; mewn#11:23 Mewn carcharau, &c. ar ol mewn gwialennodiau, &c. B D E; o flaen א F G. carcharau#11:23 Ni enwir ond un cyn dyddiad yr Epistol hwn (Act 16:23). Dywed Clement yn ei Epistol at y Corinthiaid i'r Apostol ddwyn cadwynau saith gwaith. yn amlach; mewn#11:23 Mewn carcharau, &c. ar ol mewn gwialennodiau, &c. B D E; o flaen א F G. gwialennodiau tu hwnt i fesur; mewn marwolaethau#11:23 Fel enghreifftiau o beryglon marwolaeth, cawn Damascus (Act 9:23); Antioch yn Pisidia (13:50); Iconium (14:5, 6); Lystra (14:19); Philippi (16); Thessalonica (17:15); Berea (17:13). yn fynych; 24gan yr Iuddewon bum' waith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un#11:24 Ni enwir yr un o'r rhai hyn yn yr Actau. Deugain oedd y rhif uwchaf o wialennodiau (Deut 25:3).; 25tair gwaith y'm curwyd â gwiail#11:25 Gan yr ynadon Rhufeinig. Ni enwir ond un yn yr Actau (16:22)., unwaith y'm llabyddiwyd#11:25 Act 14:19, yn Lystra.; tair gwaith y dyoddefais longddrylliad#11:25 Nid oes hanes o'r un. Yr oedd y llongddrylliad yn Mor Adria yn ddiweddarach.; noswaith a diwrnod a dreuliais yn y dyfnfor; 26mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd#11:26 Y rhai yn fynych a orlifent yn sydyn yn y Dwyrain.; ym mheryglon yspeilwyr; ym mheryglon oddiwrth fy nghenedl#11:26 Megys yn Damascus, Lystra, Thessalonica, Berea, &c.; ym mheryglon oddiwrth y cenhedloedd#11:26 Megys yn Philippi ac yn Ephesus, &c.; ym mheryglon yn y ddinas#11:26 Yn Damascus, Jerusalem, Ephesus, &c.; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon yn y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau; 27mewn llafur a lludded; mewn gwyliadwriaethau#11:27 Llyth., anhuneddau, methu cysgu. yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni. 28Heblaw y pethau a adewir allan, y mae yr hyn sydd yn gwasgu arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi. 29Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a wneir i dramgwyddo, nad wyf finnau yn llosgi#11:29 Gan dosturi at yr hwn sydd yn tripio neu o gasineb at yr achos.? 30Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf yn y pethau a berthyn i'm gwendid. 31Duw a Thâd yr Arglwydd Iesu#11:31 Grist; gad. א B F G., yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. 32Yn Damascus, y llywydd#11:32 Ethnarch, ‘llywodraethwr cenedl’: teitl yn y Dwyrain. dan Aretas#11:32 Tad‐yng‐nghyfraith Herod Antipas. Ei brif‐ddinas oedd Petra yn Arabia Petraea. y brenin a wyliodd#11:32 ‘Oedd yn cadw gwyliadwriaeth gysson.’ ddinas y Damasciaid er fy nal; 33a thrwy ffenestr#11:33 Gweler Act 20:9; Jos 2:15; 1 Sam 19:12. y'm gollyngwyd i lawr mewn basged ar hyd y mur, a diengais o'i ddwylaw ef.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
2 Corinthiaid 11: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.