1 Corinthiaid 16
16
Cyfarwyddiadau ymarferol. Diweddglo.
1Yn awr ynghylch y casgliad tuag at y saint#16:1 Y rhai a berthynant i'r fam‐eglwys yn Jerusalem. Yr oedd Cristionogaeth wedi ennill corph mawr y credinwyr o blith y tlodion. Yr oedd yr eglwys yn Jerusalem a thrwy Palestina mewn amgylchiadau isel a chyfyng. Darllener Iago 2:6; 5:1–6.; fel y trefnais yn fanwl#16:1 Diatassô, trefnu trwodd. i eglwysi Galatia#16:1 Efallai, Galatia Ddeheuol, gan gynnwys eglwysi Antioch, Derbe, Lystra, ac Iconium. Tebygol iddo wneyd hyn ar y daith a enwir yn Act 18:23., felly hefyd gwnewch chwithau. 2Ar#16:2 Kata, ar bob dydd. y dydd cyntaf o'r wythnos#16:2 Gr. Sabbath, yr hwn air a ddefnyddir hefyd am wythnos (Marc 16:9; Luc 18:12), gan y mesurid wythnosau wrth y Sabbathau. Ymddengys fod y dydd cyntaf erbyn hyn wedi ei fabwysiadu yn gyffredinol fel dydd addoliad crefyddol. Gweler Act 20:7; Dad 1:10., gosoded pob un o honoch heibio gartref#16:2 Llyth., yn ymyl ei hun, o'r neilltu., gan roddi i gadw#16:2 Llyth., trysori: ‘gan drysori yr hyn y llwyddodd ynddo.’ fel y llwyddodd#16:2 Llyth., cael taith dda, ‘myned ym mlaen’ yn llwyddiannus (Rhuf 1:10; 3 Ioan 2)., fel na wneler casgliadau pan ddelwyf. 3A phan gyrhaeddwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau#16:3 Gwell cyssylltu ‘â llythyrau’ a ‘danfonaf hwynt’ nag â ‘cymmeradwyoch.’ Yr eglwys yn Corinth oedd i ddewis, Paul oedd i ysgrifennu i Jerusalem. y danfonaf hwynt i ddwyn eich rhodd i Jerusalem; 4ac os teilwng y peth i minnau fyned hefyd, hwy a änt gyda mi. 5Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia; canys trwy Macedonia yr wyf yn myned; 6a dichon yr arhosaf gyda chwi, neu y gauafaf#16:6 Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn yn Ephesus ar adeg y Pasc, 57. Bwriadai aros yno hyd y Pentecost (ad 8; 5:7, 8). Yn yr hydref elai trwy Macedonia i Corinth, a gauafu (57, 58) yno. Yr oedd croesi y mor Aegeaidd yn beryglus yn y gauaf. hefyd, fel y'm hebryngoch#16:6 Llyth., danfon ym mlaen ar daith, cyflenwi anghenion y daith â chwmpeini, bwyd, dillad, arian, &c. i ba le bynnag yr elwyf; 7canys nid ewyllysiaf eich gweled yn awr ar fy hynt#16:7 ‘Wrth fyned heibio,’ heb gyfle i aros., oblegyd yr wyf yn gobeithio yr arhosaf gryn amser gyda chwi, os caniata yr Arglwydd. 8Eithr mi a arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost#16:8 Nid ‘Sulgwyn’!; 9canys drws#16:9 Mawr yn y cyfleusderau i bregethu yr efengyl, effeithiol, yn ei ddylanwad. Yr oedd dau gymhelliad i Paul i aros, cylch eang ac addawol, a gwrthwynebiad cryf. Yr hyn a ddychrynai eraill oedd yn ysbrydiaeth iddo ef. Llwyddai yr Efengyl (Act 19:20), a gwrthwynebid hi yn Ephesus (19:23, 33; 20:29). mawr ac effeithiol a agorwyd i mi, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. 10Ac os Timotheus a ddaw#16:10 Danfonodd Paul ef gydag Erastus o Ephesus i Macedonia, ac oddiyno i Corinth (Act 19:22)., edrychwch ar ei fod yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau hefyd. 11Am hynny, na ddiystyred#16:11 “Na ddiystyred neb dy ieuenctyd di” (1 Tim 4:12). neb ef; ond hebryngwch#16:11 Llyth., danfon ym mlaen ar daith, cyflenwi anghenion y daith â chwmpeini, bwyd, dillad, arian, &c. ef mewn heddwch, fel y delo attaf fi, canys yr wyf fi yn ei ddysgwyl ef gyda'r brodyr#16:11 Ai Erastus ac eraill, ai y cynnrychiolwyr a bennodent i fyned i Jerusalem? ai Titus a dau frawd arall a ddanfonwyd yn ddiweddarach na Timotheus er dwyn y llythyr hwn i Corinth a grymysu ei gynnwysiad (2 Cor 8:6; 12:18)?. 12Ond am y brawd Apollos, mi a ymbiliais lawer ag ef i ddyfod attoch gyda'r brodyr, ond nid oedd ei ewyllys o gwbl i ddyfod yn awr, ond daw pan gaiff gyfleusdra. 13Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhêwch; 14gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad#16:14 Enwa Paul bum rhinwedd Gristionogol: (1) yspryd gwyliadwrus, bywiog, gofalus; (2) diysgogrwydd (cyferbynner “cylch‐arwain gan bob awel,” Eph 4:14); (3) dynoliaeth gyssegredig, ‘dangoswch eich bod yn ddynion,’ yr hyn sydd yn wrthgyferbyniol i lwfrdra; (4) cryfder ysprydol, yr hwn sydd yn angenrheidiol gyda dewrder yspryd i ennill lawn fuddugoliaeth; (5) yna y mae yr oll i'w gael neu ei gyflawni yn awyrgylch cariad, er sicrhau tangnefedd a chyd‐weithrediad.. 15Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas#16:15 Gweler 1:16, mai blaenffrwyth Achaia#16:15 Rhennid Groeg gan y Rhufeiniaid i ddwy ran, Macedonia ac Achaia; cynnwysa y blaenaf yn ychwanegol i Macedonia briodol, Illyricum, Epirus, a Thessaly; dynodai Achaia yr oll o'r gweddill i'r dehau. ydyw, ac iddynt ymroddi#16:15 Llyth., osod neu drefnu eu hunain. i wasanaeth y saint), 16fod o honoch chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cyd‐weithio ac yn llafurio. 17Ac yr wyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas a Phortunatus ac Achaichus, canys yr hyn oedd eisieu#16:17 Sef, eu cymdeithas. Gwnaeth y tri hyn i fyny am absennoldeb y Corinthiaid. ar eich rhan chwi hwy a gyflawnasant; 18canys hwy a adlonasant fy yspryd i a'ch eiddo chwithau; cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. 19Y mae eglwysi Asia#16:19 Rhan dde‐orllewinol o Asia Leiaf, ac ym mhlith yr eglwysi oedd Colosse, Hierapolis, a Laodicea. yn eich cyfarch chwi. Y mae Acwila a Phrisca#16:19 Gweler Act 18:2, 18, 26. Dysgwn iddynt ddychwelyd i Rufain mor fuan ag yr oedd ddyogel iddynt wneyd (Rhuf 16:3).#16:19 Prisca א B; Priscilla C D F G. yn eich cyfarch yn wresog yn yr Arglwydd, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. 20Y mae y brodyr oll yn eich cyfarch. Cyferchwch eich gilydd â chusan#16:20 Yr oedd ‘cusan tangnefedd’ yn cael lle amlwg yn nefodaeth yr eglwys foreuol (Rhuf 16:16; 2 Cor 13:12; 1 Thess 5:26; 1 Petr 5:14). sanctaidd. 21Fy nghyfarchiad i Paul â'm llaw fy hun#16:21 Ysgrifennid llythyrau Paul gan ysgrif‐was, ond yr oedd yn arferiad ganddo eu llaw‐nodi er profi eu dilysrwydd (2 Thess 2:2).. 22Os oes neb nad yw yn hoffi#16:22 Phileô, ‘hoffi’ (fel cyfaill). Gweler y gwahaniaeth rhwng phileô, ‘hoffi’ ac agapaô, ‘caru’ yn Ioan 21:15, 16, 17. yr Arglwydd, bydded anathema#16:22 Neu, felldigedig.. Maran atha#16:22 Maran atha: (1) gair Aramaeg, Mar neu Maran, ‘Arglwydd,’ atha, ‘wedi dyfod’ neu yn dyfod. ‘Y mae yr Arglwydd wedi dyfod.’ Ond hefyd (2) gellir cymmeryd y gair fel hyn: Marana, Arglwydd, a tha (modd gorchymynol), Tyred. Os felly, y mae Maranatha yn union yr un ymadrodd â'r un yn Dad 22:20: “Tyred, Arglwydd Iesu.” Y mae y deongliad hwn yn naturiol ac yn gydnaws â theimlad tanbaid yr Apostol. Felly y mae yna dri esboniad: (1) ‘Y mae yr Arglwydd wedi dyfod’ yn ei ymgnawdoliad; (2) ‘Y mae yr Arglwydd yn dyfod’ neu ‘i ddyfod i gospi neu i felldithio’ yr hwn nad yw yn ei garu. Cymharer Phil 4:5, “Y mae yr Arglwydd yn agos”; (3) ‘Arglwydd, Tyred,’ cyfrinair yr Eglwys foreuol. [‘Arglwydd, Tyred’]. 23Gras yr Arglwydd Iesu fyddo#16:23 Crist; gad. א A B C Brnd. gyda chwi. 24Fy nghariad i fyddo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen#16:24 Amen א A C D; gad. B F..
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 16: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.