1 Corinthiaid 9
9
Dadganiad o'i hawliau fel Apostol.
1Onid wyf fi yn rhydd#9:1 Rhydd … Apostol א A B P Brnd. Apostol … rhydd D E F G.? onid wyf yn Apostol#9:1 Rhydd … Apostol א A B P Brnd. Apostol … rhydd D E F G.? onid wyf wedi gweled Iesu#9:1 Yr Iesu hanesyddol. Gwelodd ef nid yn unig ar ei ffordd i Damascus, ond hefyd ar ol ei ddychweliad i Jerusalem (Act 22:17); yn Corinth (Act 18:9), efallai yn y nef ei hun (2 Cor 12:1). Gwel hefyd Gal 1:17. ein#9:1 Grist D E K L P; gad. א A B Brnd. Harglwydd? onid fy ngwaith#9:1 Fel sylfaenydd yr Eglwys yn Corinth. i ydych chwi yn yr Arglwydd? 2Os i eraill nid wyf Apostol, etto yn ddios i chwi yr wyf: canys sêl fy apostoliaeth ydych chwi yn yr Arglwydd. 3Fy amddiffyniad i i'r rhai sydd yn fy arholi#9:3 Anakrino, term cyfreithiol, arholi yn gyfreithiol, gosod ar brawf. i yw hyn#9:3 Nid yr hyn a ganlyn, ond ‘fy mod wedi gweled Iesu,’ &c.: 4Onid oes gennym awdurdod i fwytta ac i yfed#9:4 Ar draul yr eglwysi.? 5Onid oes gennym awdurdod i arwain o amgylch chwaer#9:5 Chwaer grefyddol. Yr ystyr amlwg yw fod gan Paul hawl i gael gwraig fel yr Apostolion eraill. Rhai a gyfieithant ‘ddynes’ yn lle ‘gwraig,’ gan wneyd y chwaer grefyddol yn gymdeithydd yn unig i'r Apostol yn ei deithiau cenhadol; ond nid oes sail i'r dyb hon. fel gwraig, yr un modd a'r Apostolion eraill#9:5 Dywed Clement o Alexandria, fod yr holl Apostolion yn wŷr priod, ac Ambrosiaster eu bod oll gyda'r eithriad o Paul ac Ioan., a brodyr yr Arglwydd#9:5 Iago, Joseph, Simon, Judas (Mat 13:55). Yn ol rhai (1) meibion Joseph, gwr Mair, o briodas flaenorol; (2) plant Joseph a Mair; (3) ceraint yr Arglwydd, cefnderwyr, plant Alpheus, brawd Joseph. Y mae yn amlwg nad oeddynt yn perthyn i'r Deuddeg (Ioan 7:5, ‘Nid oedd ei frodyr yn credu ynddo’). Gwel Lightfoot, Galatiaid, Traethawd 11., a Cephas#9:5 Mat 8:14. Dywed rhai mai enw gwraig Petr oedd Concordia, eraill Perpetua.? 6Neu ai myfi yn unig a Barnabas sydd heb gennym awdurdod i fod heb weithio#9:6 Sef, er ein bywoliaeth. Llafurient ym mhlith y Cenhedloedd. Yr oedd yr Iuddewon crediniol wedi eu haddysgu i dalu eu harweinwyr crefyddol.? 7Pwy sydd yn milwrio#9:7 Neu, gwasanaethu fel milwr. un amser ar ei draul#9:7 Opsônia, llyth., y bwyd neu y cig oedd wedi ei goginio, a'r hwn a ddygid ac a fwytteid gyda bara; yna, cyflog, tâl. ei hun#9:7 Rhydd yr Apostol bum rheswm: (1) o wasanaeth daearol, y milwr, y gwinllanydd, y bugail; (2) o osodiad Dwyfol, Cyfraith Moses; (3) o ddiolchgarwch naturiol, adn. 11; (4) o'i wasanaeth uwchraddol, adn. 12; (5) o gynhaliaeth yr Offeiriaid Iuddewig, adn. 13.? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwytta ei ffrwyth hi? Pwy sydd yn bugeilio praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd? 8Ai yn ol dyn#9:8 Yn ol cyfattebiaeth amgylchiadau daearol. yr wyf yn llefaru#9:8 Y mae yr Apostol yn ‘llefaru,’ yn dadgan ei farn; ond y mae y ddeddf yn ‘dywedyd,’ yn gorchymyn yn bendant. y pethau hyn? neu onid yw y Gyfraith hefyd yn dywedyd#9:8 Y mae yr Apostol yn ‘llefaru,’ yn dadgan ei farn; ond y mae y ddeddf yn ‘dywedyd,’ yn gorchymyn yn bendant. hyn? 9Canys yng Nghyfraith Moses y mae yn ysgrifenedig, Ni rwymi#9:9 Kêmôseis, rhwymo â safn‐rwym B D Ti. Tr. Al., phimôseis; rhwymo [mewn unrhyw fodd] א A C WH. Diw. safn ych yn dyrnu#Deut 25:4. Ai am yr ychain y mae Duw yn gofalu#9:9 H.y., nid fel Creawdwr a Chynhaliwr, ond fel rhoddwr y Gyfraith. Y mae yn y gorchymyn neilltuol arwyddocâd cyffredinol ac ysprydol. Gwel ‘Hagar’ a ‘Sara,’ Gal 4., 10neu er ein mwyn ni yn hollol#9:10 Neu, yn sicr, yn ddiamheu [Luc 4:13]. y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, gan mai mewn#9:10 Llyth., ar, ar sail. gobaith y dylai yr arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn#9:10 Llyth., ar, ar sail. gobaith o gyfrannogi#9:10 Felly א A B C Brnd.; mewn gobaith o'i obaith gyfrannogi, Ks L.. 11Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol#9:11 Y mae tal y gweithiwr ysprydol yn llai o werth na'i waith.? 12Os yw eraill yn gyfrannogion o'r awdurdod hon#9:12 Llyth., o'ch awdurdod [hawl]. Eraill a gyfieithant ‘o'r rhagorfraint hon o'ch eiddo,’ sef eu cynnal gan yr eglwys. Gwel Mat 10:1; Ioan 17:2. Ond ni olyga feddiant neu dda. arnoch, onid ydym nyni yn hytrach? Etto ni ddefnyddiasom ni yr awdurdod hon, eithr ni a oddefwn#9:12 Stegô, taflu gorchudd dros, cuddio, yna amddiffyn trwy guddio (derbyn yr ergydion a fwriedid i eraill), dwyn, cyd‐ddwyn, dal i fyny dan, &c. bob peth, fel na roddom unrhyw rwystr#9:12 Egkopê, rhwystr [toriad yn y ffordd i rwystro y gelyn], A B C Brnd.; ekkopê, toriad ymaith, anafiad, anffurfiad, א D L. i efengyl Crist. 13Oni wyddoch fod y rhai sydd yn ymwneyd#9:13 Neu, gweinyddu. â'r pethau cyssegredig yn bwytta o bethau y Deml? y rhai sydd yn gweini#9:13 Paredreuô, llyth., eistedd wrth neu yn ymyl, yna gweini. Y mae y ddwy frawddeg yn yr adnod yn cyfeirio at yr offeiriaid, ac nid y blaenaf at y Lefiaid a'r olaf at yr offeiriaid, fel y tybia rhai. ar yr allor, a gydgyfrannogant â'r allor#9:13 Cyfeiria yr Apostol at y gwasanaeth yn Jerusalem, ac nid mewn teml baganaidd.? 14Felly hefyd yr ordeiniodd#9:14 Yn Mat 10:10; Luc 10:7. yr Arglwydd i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fyw wrth#9:14 Llyth., o'r. yr efengyl.
Hunan‐ymwadiad yr Apostol mewn perthynas a'i hawliau.
15Eithr nid wyf fi wedi#9:15 Wedi arfer א A B C D Brnd. arfer un o'r pethau#9:15 Nid y rhesymmau uchod, ond y rhagorfreintiau, i briodi, i gynhaliaeth, &c. hyn; ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid yn y modd hyn i mi#9:15 Llyth., ynof fi, yn fy achos i.; canys da i mi farw yn hytrach na'u harfer — ni wna neb fy ymffrost yn ofer#9:15 Y mae y cyfansoddiad yn anhawdd. Darllena C, “Da i mi farw yn hytrach nag i neb wneyd fy ymffrost yn ofer”; ond y mae א B D yn dangos cyfnewidiad yn y gystrawen, ac yn darllen fel hyn, ‘farw yn hytrach nag — fy ymffrost ni wna neb yn ofer.’ Y mae teimlad yr Apostol yn torri ar draws cyfansoddiad llyfn a gorphenedig.. 16Canys os efengylaf, nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd#9:16 Gwel Act 9:6; 22:21. arnaf; canys gwae sydd i mi, os nad efengylaf. 17Canys os wyf yn gwneuthur hyn o'm hewyllys fy hun, y mae i mi dâl; ond os nid o'm hewyllys, y mae i mi oruchwyliaeth wedi ei hymddiried#9:17 Os argymmerodd yr Apostol â'r gwaith o bregethu o hono ei hun, y mae ganddo destyn ymffrost; ond os dechreuodd bregethu mewn ufudd‐dod i alwad a gorchymyn cymhellol Crist, nid oes clod iddo ef. Yr oedd efe yn gaethwas Crist, yn oruchwyliwr ar ei bethau; ac yr oedd gan Grist hawl berffaith ar ei berson a'r oll a feddai. Y mae yma gyfeiriad neilltuol at ei neillduad i'r swydd.. 18Pa beth gan hynny yw fy nhâl? fel gan efengylu y gwnaf#9:18 Llyth., y gosodwyf. yr efengyl#9:18 Crist F G K L P; gad. א A B C D Brnd. yn ddidraul: fel na ddefnyddiwyf i'r eithaf fy awdurdod yn yr efengyl.
19Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb#9:19 Nid oddiwrth bob peth, defodau, &c., ond pawb dynion., mi a wnaethum fy hun yn gaethwas i bawb, fel yr ennillwn y rhan fwyaf#9:19 Neu, mwy‐rif. Nid mwy na'r Apostolion eraill, ond ‘cynnifer ag a allesid.’. 20Ac i'r Iuddewon mi a fum megys Iuddew, fel yr ennillwn Iuddewon; i'r rhai sydd dan y ddeddf#9:20 Llyth., dan ddeddf. Golyga ‘Iuddewon’ y genedl o safbwynt cenedlaethol, ‘rhai dan y ddeddf,’ y genedl o safbwynt crefyddol., megys dan ddeddf#9:20 Llyth., dan ddeddf. Golyga ‘Iuddewon’ y genedl o safbwynt cenedlaethol, ‘rhai dan y ddeddf,’ y genedl o safbwynt crefyddol., a#9:20 A mi fy hun heb fod dan y ddeddf א A B C D E F G Brnd. mi fy hun heb fod dan ddeddf#9:20 Llyth., dan ddeddf. Golyga ‘Iuddewon’ y genedl o safbwynt cenedlaethol, ‘rhai dan y ddeddf,’ y genedl o safbwynt crefyddol., fel yr ennillwn y rhai sydd dan ddeddf; 21I'r rhai sydd ddiddeddf, megys diddeddf, heb fy mod yn ddiddeddf i Dduw, eithr o fewn cylch deddf#9:21 Ennomos, yn‐neddf, yn ddarostyngedig i, o fewn cylch, deddf Crist. Crist, fel yr ennillwn y rhai diddeddf. 22I'r gweiniaid mi a fum yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid. I bawb yr wyf wedi bod yn bob peth, fel ym mhob modd yr achubwn rai. 23Ac yr wyf yn gwneuthur pob#9:23 Pob peth א A B C D Brnd.; hyn Ks L. peth er mwyn yr efengyl, fel y byddwyf yn gyd‐gyfrannog o honi.
Cymhellion i ymgadwad.
24Oni wyddoch am y rhai sydd yn rhedeg yn y rhedeg‐le#9:24 Cyfeiria yr Apostol at y campau Isthmiaidd (un o'r pedair gwyl fawr Roegaidd), y rhai a gymmerent le ar guldir Corinth. Yr oedd y campau hyn, felly, yn adnabyddus iawn i'r rhai yr ysgrifennai Paul attynt. Yr oedd y mesur, y stadion, yn 606¾ o droedfeddi. Hyn oedd hyd arferol y rhedeg‐le. Yr oedd tair colofn mewn gwahanol fannau o hono; ar y cyntaf yr oedd yn gerfiedig, Rhagorwch; ar yr ail, Cyflymwch; ac ar y drydedd, Trowch., eu bod oll yn rhedeg, ond un sydd yn derbyn y wobr#9:24 Brabeion, yr hyn a roddir gan y brabeus, y barnwr; gwobr.? Rhedwch yn y fath fodd, fel y cymmerwch afael#9:24 Neu, y goddiweddwch [y rhai ydynt hyd yn hyn o'ch blaen]. Ond gwell yr uchod, cipio y wobr. ynddi.
25A phob un sydd yn ymdrechu#9:25 Neu, ymgystadlu o ddifrif. am dani, ym mhob peth y mae yn ymarfer hunan‐reolaeth#9:25 Am y deng mis yr oedd yn parotoi ar gyfer yr ymdrechfa, pan ymgadwai rhag gwin a phob peth niweidiol arall.: hwynthwy yn wir fel y derbyniont goron lygradwy#9:25 Neu darfodedig, yn gynnwysedig o ddail y pinwydd.; eithr nyni, un anllygradwy. 26Myfi, mewn canlyniad, wyf felly yn rhedeg, nid fel yn ansicr#9:26 Adêlos, yn ansicr [o gael y wobr, neu gyrhaedd pen yr yrfa], yn betrusgar, amheus. Eraill a gymmerant y gair yn y goddefol, yn ddisylw, heb hynodi ei hun, fel un wedi ei golli yng ngyrfa yr aflwyddiannus.; felly yr wyf yn ymbaffio fel nid yn curo'r awyr#9:26 Un o'r campau eraill oedd ymbaffio (boxing). Yr oedd yr Apostol yn taro ei elyn nes ei lorio, ac nid yn curo ‘yr awyr annghlwyfadwy.’. 27Eithr yr wyf yn cleisio#9:27 Hupopiazô, taro dan y llygaid, du‐gleisio, dyrnodio. Paul, fel ymbaffiwr, yn cael y fuddugoliaeth. Yma a Luc 18:5 [Gwel nodiad yno]. fy nghorph ac yn ei ddwyn i gaethiwed, rhag mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn annghymmeradwy.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 9: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.