1 Corinthiaid 10
10
Esiampl Israel yn rhybudd i Gristionogion.
1Canys#10:1 Canys א A B C D Brnd.; ac (ond, de) K L. nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i'n tadau oll fod dan y cwmmwl#10:1 Y cwmmwl niwl a'r golofn a fu yn arweinydd ac yn amddiffyn (gorchudd) i'r Israeliaid (Num 14:4; Salm 105:39)., ac i'r oll o honynt fyned trwy y mor, 2ac i'r oll o honynt gymmeryd#10:2 Y ffurf ganolog yn ddiamheu yw yr un gywir, er fod llawer o'r prif‐lawysgrifau yn ffafr y goddefol. Ond y mae yn hawdd cyfrif am yr olaf. Felly, pwysleisir yma ffydd yr Israeliaid ym Moses fel yr egwyddor weithredol. Dyma yr unig fan yn y Beibl lle y mae dyn yn wrthrych ffydd (Ex 14:31).#10:2 Gymmeryd eu bedyddio [ebaptisonto, y llais canolog] B K L P Tr. WH. Al. Diw.; gael eu bedyddio א A C D F G Ti. eu bedyddio i Moses#10:2 Yr oedd Moses yn gynnrychiolydd Crist. Dygwyd yr Israeliaid i undeb ysprydol â Moses, a daethant yn ddysgyblion ac yn ganlynwyr iddo. Yr un modd y bedyddir credinwyr, ar sail eu ffydd, i Grist. Gwel Mat 28:19. yn y cwmmwl ac yn y mor; 3ac i bawb fwytta yr un bwyd#10:3 Y manna [Ex 16; Salm 78:24]. Nid yn unig yn oruwch‐naturiol yn ei roddiad, heb gymhorth ail achosion, ond hefyd yn arwyddocau pethau ysprydol, yn enwedig Crist, Bara y Bywyd. ysprydol, 4ac i bawb yfed yr un ddiod#10:4 Cyflenwad gwyrthiol o ddwfr (Ex 17:1–6; Num 20:2–11). ysprydol; canys hwy a yfasant o Graig#10:4 Cyfeiria Paul at draddodiad Rabbinaidd i ffynnon gael ei ffurfio o'r ffrydlif yn Horeb, ac iddi ymgasglu a ffurfio ei hun fel craig a dylyn y genedl am ddeugain mlynedd. Defnyddia yr Apostol y traddodiad, nid am ei fod yn ei gredu, ond fel alleg, i ddangos mai Crist oedd y Gwir Bresennoldeb o dan y Ddwy Oruchwyliaeth. ysprydol a'u canlynai; a'r Graig oedd Crist. 5Eithr ni bu Duw foddlawn i'r rhan fwyaf o honynt, canys dymchwelwyd#10:5 Llyth., wedi eu taenu ar hyd [y ffordd], wedi eu taflu ar lawr, (Num 14:16). hwynt yn y diffaethwch. 6A'r pethau hyn a ddaethant yn siamplau#10:6 Tupoi. Golyga y gair naill ai ensampl (“ensampl i'r ffyddloniaid,” 1 Tim 4:12) neu gyffelybiaeth neu gysgod o ffaith neu wirionedd ysprydol. Yr oedd eu hesiampl hwy i'n rhybuddio ni. i ni, fel na byddom yn chwennychwyr pethau drwg, fel y chwennychasant hwy. 7Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megys rhai o honynt hwy, fel y mae yn ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu#10:7 Defnyddir y gair yn arbennig am ddawnsio, ac mewn Groeg clasurol am yr ymchwareu anfoesol fel rhan o wasanaeth eilun‐addolgar.”#Ex 32:6. 8Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain#10:8 Yn ol Num 25:9, pedair mil ar hugain. Efallai fod y nifer cywir rhwng y ddau.. 9Ac na themtiwn#10:9 Na themtiwn i'r eithaf, yn ormodol. Dyna ystyr εk yn y ferf. Dygwydda yn Mat 4:7; Luc 4:12; 10:25. yr#10:9 Yr Arglwydd א B C Brnd.; Crist D F G. Arglwydd, megys ag y temtiodd rhai o honynt hwy, ac y dinystriwyd hwy gan y seirph#Num 21:4–6. 10Ac na rwgnechwch, megys y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac a'u dinystriwyd gan y Dinystrydd#10:10 Yr Angel Dinystriol (Ex 12:23), achosydd y pla (Num 16:8).. 11A'r pethau hyn ar wedd siamplau#10:11 Gr. tupikôs, ‘gydag ystyr ffugyrol.’ Yr oedd eu hanes hwy yn gyffelyb i'n heiddo ni. Yr oedd y gorphennol yn amlinelliad ac yn brophwydoliaeth o'r presennol. a ddygwyddasant iddynt hwy, ac a ysgrifennwyd er cynghor i ni, ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd#10:11 Yn cyfatteb i ‘derfynau y dyddiau’ yn y prophwydi. Gwel Heb 9:26; Act 2:17; 1 Petr 1:20. Cymharer ‘amseroedd y cenhedloedd’ (Luc 11:24). wedi dyfod#10:11 Katantaô, dyfod i gyfarfod, goddiweddyd, dyfod i lawr i gwrdd.. 12Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un dynol#10:13 Naill ai (1) yr hwn sydd yn dyfod oddiwrth ddyn fel eilun‐addolwr, neu (2) y gall dyn ei wrthsefyll neu ei ddwyn. Yr olaf yw y mwyaf tebygol. ‘Nid angenrhaid yw i chwi syrthio.’; eithr ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn y ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
Ynghylch bwydydd a offrymmwyd i eilunod.
14O herwydd paham, fy anwyliaid, ffowch oddiwrth#10:14 Y mae yr arddodiad yma yn golygu ym mhell oddiwrth. Gweler 6:18. eilun‐addoliaeth. 15Fel wrth rai synwyrol yr wyf yn dywedyd; bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd. 16Cwpan y Fendith#10:16 Ymadrodd Hebreig, ‘y cwpan a fendithir neu y diolchir am dano.’ Golyga ‘bendithio’ yma ‘diolch’ (Mat 26:26; Luc 22:19). Cwpan y Fendith oedd yr olaf yng Ngwyl y Pasc. Gelwid y Swper yn fynych ‘Y Fendith’ (Eulogia) a ‘Diolch’ (Eucharistia). yr hwn a fendigwn, onid cymmun#10:16 Koinônia, cymmundeb, cyfrannogiad, cymdeithas (Act 2:42; 1 Ioan 1:3). ‘Onid yw yfed o'r cwpan yn dangos ein bod yn gyd‐gyfrannogion o waed Crist’? gwaed Crist ydyw? y bara#10:16 Neu, y dorth; fel yr oedd y dorth yn un a phawb yn cyfrannogi o honi, felly yr ydym yn cyd‐gyfrannogi o ‘gorph Crist.’ Gweler Swper yr Arglwydd, gan yr Awdwr. yr ydym yn ei dorri, onid corph cymmun Crist ydyw? 17Oblegyd mai un bara sydd, nyni, y rhai ydym yn llawer, ydym un corph; canys yr ydym oll yn cyfrannogi o'r un bara#10:17 Gwell na'r cyfieithiad, “nyni yn llawer ydym un bara, un corph.”. 18Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd: onid yw y rhai sydd yn bwytta yr ebyrth yn gyfrannogion o'r allor#10:18 Yr oedd yr Israeliaid oedd yn cyfrannogi o'r aberthau (Lef 8:31) yn uno eu hunain âg allor Duw.? 19Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod y peth a aberthwyd i eilunod yn rhywbeth, neu bod eilun yn rhywbeth? 20Ond, dywedaf, fod y pethau y#10:20 Y maent yn aberthu B D F G La. Ti.; y mae y Cenhedloedd yn aberthu א A C Tr. [WH.] Diw. mae y Cenhedloedd yn aberthu yn cael eu haberthu i gythreuliaid#10:20 Demoniaid. Benthycia Paul ei ymadrodd o'r LXX., “Hwy a aberthasant i ddemoniaid ac nid i Dduw” (Deut 32:17). Nid oedd yr eilunod yn ddim, ond yr oedd yr eilun‐addolwyr dan ddylanwad ysprydol y Diafol ac ysprydion drwg. ac nid i Dduw; ac ni fynnaf i chwi fod mewn cymmundeb#10:20 Neu, yn gyd‐gyfrannogion. â'r cythreuliaid: 21ni ellwch yfed o gwpan yr Arglwydd a chwpan y cythreuliaid; ni ellwch gyfrannogi o fwrdd yr Arglwydd a bwrdd cythreuliaid. 22Neu ai gyrru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?
23Pob peth sydd#10:23 I mi; gad. א A B C D Brnd. yn ganiataol#10:23 Neu, gyfreithlawn., eithr nid yw pob peth yn lleshâu; pob peth sydd#10:23 I mi; gad. א A B C D Brnd. yn ganiataol#10:23 Neu, gyfreithlawn., eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24Na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond yr#10:24 Pob un; gad. א A B C D Brnd. eiddo y dyn arall#10:24 Llyth., gwahanol.. 25Pob peth a werthir yn y gigfa#10:25 Makellon, o'r Lladin macellum, marchnad cig, marchnad bwyd., bwyttêwch, heb ofyn#10:25 Heb wneyd unrhyw ymchwiliad a oedd y cig wedi ei ddefnyddio mewn aberth i eilunod. dim er mwyn cydwybod; 26canys eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder#10:26 Salm 24:1, ac felly yr oedd pob creadur yn perthyn i'r Arglwydd ac nid i'r eilun. Defnyddiai yr Iuddew duwiol y geiriau hyn fel diolchgarwch wrth ei fwrdd.. 27Os gwna neb o'r rhai digred eich gwahodd, ac ewyllysio o honoch fyned, bwyttêwch bob peth a roddir ger eich bron, heb ofyn dim er mwyn cydwybod#10:27 Heb wneyd unrhyw ymchwiliad a oedd y cig wedi ei ddefnyddio mewn aberth i eilunod.. 28Eithr os dywed neb wrthych, Peth a aberthwyd yw hwn, na fwyttêwch, er mwyn yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod,#10:28 Canys eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder; gad. א A B C D Brnd.; 29a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr yr eiddo y llall; canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30Os myfi gyda diolch#10:30 Llyth., trwy ras. Golyga Charis y gras o ddiolchgarwch weithiau; “I Dduw y byddo y diolch” (2 Cor 9:15). a gyfrannogaf, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn diolch am dano? 31Pa un bynnag gan hynny ai bwytta yr ydych neu yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant Duw. 32Byddwch ddidramgwydd i Iuddewon a Groegiaid, ac i eglwys Dduw, 33fel yr wyf finnau ym mhob peth yn rhyngu bodd i bawb, heb geisio fy llês fy hun, ond eiddo y llawer, fel yr achuber hwynt.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 10: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.