1 Corinthiaid 15
15
Adgyfodiad Crist yn ffaith.
1Ac yr wyf yn gwneyd yn hyspys i chwi, frodyr, yr efengyl a efengylais#15:1 A efengylais, yr hyn a bwysleisia ei chynnwysiad fel ‘newydd da.’ i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll, 2trwy yr hon hefyd yr ydych gadwedig, os ydych yn dal gafael#15:2 Rhai a gyfieithant ‘yr wyf yn hyspysu i chwi â pha fath ymadrodd yr efengylais i chwi, os ydych yn ei ddal yn dyn.’ Rhydd rhai yr ystyr ‘o ddal yn y cof’ i katechô, “Os ydych yn dal yn eich cof â pha fath ymadrodd yr efengylais i chwi.” yn yr hyn a efengylais i chwi, oddieithr i chwi gredu yn ofer. 3Canys mi a draddodais i chwi ym mhlith y pethau cyntaf#15:3 Nid o ran amser, ond o ran pwysigrwydd., yr hyn hefyd a dderbyniais#15:3 Yn rhannol trwy hyfforddiad yr Apostolion (yn enwedig Petr ac Iago, Gal 1:19), ond yn bennaf trwy ddatguddiad uniongyrchol Crist (Gal 1:12)., farw o Grist dros ein pechodau, yn ol yr Ysgrythyrau#15:3 Megys Salm 16; 22; Es 53; Zech 12:10.; 4a'i gladdu#15:4 Gan ddangos iddo farw ‘yn wir,’ ac hefyd iddo gyfodi ‘yn wir,’ oblegyd sylfaenir Cristionogaeth ar ‘y bedd gwag.’; a'i fod wedi cael ei gyfodi#15:4 Y mae hwn yn yr amser perffaith, oblegyd y mae yr effeithiau yn parhau. ‘Crist adgyfodedig yw efe heddyw. y trydydd dydd#15:4 Nid damwain ‘y trydydd dydd.’ Nid oedd corph Crist i weled llygredigaeth, a dechreuai hyn y trydydd dydd., yn ol yr Ysgrythyrau#15:4 Hosea 6:2; Jonah 2:10; Mat 12:40.; 5ac ymddangos o hono i Cephas#15:5 Luc 24:34. Ioan a Paul yw yr unig rai a ddefnyddiant yr enw Aramaeg, Cephas (Ioan 1:42).; yna i'r Deuddeg#15:5 Enw swyddogol am y ‘Coleg Apostolaidd,’ er nad oedd y nifer yn gyflawn (Dad 21:14). Defnyddir ‘un‐ar‐ddeg’ weithiau (Marc 16:14).; 6wedi hynny, efe a ymddangosodd i fwy na phum' cant#15:6 Diamheu yn Galilea, pan oedd yr ‘un‐ar‐ddeg’ yn bresennol (Mat 28:16). Dywedodd yr elai o'u blaen i Galilea (Mat 26:32; Marc 14:28). o frodyr ar un waith#15:6 Ephapax, golyga weithiau, unwaith am byth, yma, ar un pryd., o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yn awr; eithr rhai a hunasant#15:6 Defnyddir y gair bedair gwaith yn y bennod (6, 18, 20, 51). Y merthyr cyntaf, yng nghanol trwst y gawod gerrig, a hunodd (Act 7:59, 60). Y mae ‘cwsg’ yn brophwydoliaeth o ‘adgyfodiad.’. 7Wedi hynny yr ymddangosodd i Iago#15:7 Ni chofnodir hyn. Ceir y traddodiad yn yr Efengyl at yr Hebreaid. Cafodd Paul ymddyddan personnol â Iago (Gal 1:19). Yr Iago hwn oedd ‘brawd yr Arglwydd,’ arweinydd yn yr eglwys yn Jerusalem (Act 15:13; 21:18). Ni chredodd yng Nghrist yn ystod gweinidogaeth Crist.; yna i'r apostolion oll#15:7 Rhoddir pwyslais ar ‘oll,’ ‘i bob un o honynt.’ Efallai yr ymddangosiad a gofnodir yn Act 1:4, 6.. 8Ac yn ddiweddaf o'r cwbl, megys i'r un annhymig#15:8 Ektrôma [yma yn unig yn y T.N]. Dygwydda yn Num 12:12; Job 3:16; Preg 6:3. Dynoda erthyl, un wedi ei eni allan o bryd; weithiau, marw‐anedig. Gwna gyfatteb i'r gair Hebraeg nephel, ‘yr hyn a syrth neu a deflir i'r llawr.’ Ektrôma yw yr hwn a aned yn gynt na phryd, ac yn enwedig mewn ffordd annaturiol a pheryglus. Geilw Paul ei hun ektrôma mewn cyfeiriad at ei droedigaeth sydyn, gorthrechol a phoenus, pan yn erlid yr eglwys; cynnwysa hefyd ei ymdeimlad o'i waeledd a'i annheilyngdod. Ymddangosai yr oll, mewn cymhariaeth i'r Apostolion eraill, yn chwithig ac afreolaidd, etto, dysgleiriai gras a doethineb drwy yr oll. Felly, yr oedd yn ektrôma oherwydd nad oedd (1) wedi ei dderbyn i'r Apostolaeth fel y lleill. Yr oedd yr amgylchiadau yn wahanol. Fel nephel, taflwyd ef i'r ddaear (Act 9:4); (2) o herwydd ei ostyngeiddrwydd. Yr oedd yn ‘llai na'r lleiaf.’ Efe oedd Benjamin yr Apostolion (Act 13:1). Yr oedd fel Benoni mab Rahel, yn ‘blentyn gofid’ (Gen 35:18). Cafodd Benjamin ei eni yn sydyn ac yn annysgwyliedig (Gen 35:16)., yr ymddangosodd hefyd i mi; 9canys myfi yw y lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw#15:9 I ddwyn y teitl o Apostol. yn apostol, am i mi erlid eglwys Crist. 10Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi#15:10 Llyth., yr hwn a fu tuag attaf., ni bu yn ofer, eithr mi a lafuriais#15:10 Dynoda y gair, nid yn unig waith caled, lludded, dyoddefaint, &c. ond hefyd ffrwyth. Yr oedd ei fywyd yn llafurfawr ac yn ffrwythlon a llwyddiannus. yn helaethach na hwynt oll; etto nid myfi, ond gras Duw gyda#15:10 Yr hwn, gad א B D. mi#15:10 Hynny yw, nid myfi yn unig lafuriodd, ond ‘gras Duw gyda myfi a lafuriodd.’ Yr oeddynt yn gyd‐weithwyr.. 11Pa un bynnag gan hynny ai myfi ai hwynt hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
Os cyfodwyd Crist, cyfodir ninnau.
12Ac os pregethir Crist ei fod wedi ei gyfodi o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi nad oes adgyfodiad y meirw#15:12 Meirw. Gadewir allan y fannod o flaen ‘meirw’ o 12 hyd 29. Gosodir pwyslais ar y sefyllfa, nid ar y personnau. Yr oedd bywyd llygredig Corinth, lle yr halogid y corph gan chwantau y cnawd, yn anffafriol iawn i grediniaeth yn yr Adgyfodiad, fel y pregethid ef gan Paul.? 13Eithr os nad oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith; 14ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yn wir yw ein pregethiad#15:14 Kêrugma, mater neu bwnc y pregethu. ni, ofer hefyd yw eich#15:14 Eich א A F G; ein B D. ffydd chwithau. 15Ac fe'n ceir hyd y nod yn au-dystion i Dduw#15:15 Gau‐dystion Duw; nid cenhadon Dwyfol yn dwyn cam‐dystioliaeth, ond rhai yn dwyn tystiolaeth anwir am Dduw, gan briodoli i Dduw weithred na chyflawnodd., canys ni a dystiasom am#15:15 Kata, am, mewn perthynas i Dduw, neu, yn erbyn Duw (Mat 26:62; 27:13). Dduw ddarfod iddo gyfodi Crist, yr hwn nis cyfododd efe, os yn wir, y meirw ni chyfodir. 16Canys os y meirw ni chyfodir, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith; 17ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, diwerth#15:17 Mataia, ofer yn yr ystyr o fod yn ddi‐ffrwyth, diwerth. Yn yr adnodau blaenorol defnyddir kenos, gwag, disylwedd, disail, disynwyr. ‘Yr ydych etto yn eich pechodau, oblegyd nid oes gennych brawf fod Crist wedi marw yn effeithiol drosoch, gan mai ei Adgyfodiad fyddai yr unig brawf fod ei waith prynedigol yn gymmeradwy gyda Duw.’ yw eich ffydd chwi: yr ydych etto yn eich pechodau; 18yn wir hefyd y rhai a hunasant yng Nghrist a gyfrgollwyd. 19Os yn unig#15:19 Y mae ‘yn unig’ yn perthyn i'r holl frawddeg, ac nid yn unig i'r ‘bywyd hwn.’ yn y bywyd hwn yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, truenusaf o bob dynion ydym ni.
Effeithiau adgyfodiad Crist.
20Eithr yn awr y mae Crist wedi ei gyfodi oddiwrth y meirw#15:20 Tebygol i'r geiriau hyn gael eu hysgrifennu tuag adeg y Pasc., blaenffrwyth#15:20 Cyfododd ein Harglwydd drannoeth i Sabbath y Pasc pan offrymmid y blaenffrwyth.#15:20 A wnaed; gad. א A B D Brnd. y rhai a hunasant#15:20 Credinwyr yn unig sydd yn huno.. 21Canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. 22Canys megys yn Adda#15:22 Y mae y fannod o flaen y ddau enw yn eu hynodi fel y ddau ben neu gynnrychiolydd yr hiliogaeth ddynol. y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn y Crist#15:22 Y mae y fannod o flaen y ddau enw yn eu hynodi fel y ddau ben neu gynnrychiolydd yr hiliogaeth ddynol. y bywhêir pawb. 23Eithr pob un yn ei drefn#15:23 Neu, restr. Golyga tagma gwmpeini o filwyr, felly dosbarth; Crist wrtho ei hun yn y dosparth cyntaf; ei bobl yn yr ail. ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; yna y rhai ydynt eiddo Crist yn ei Ddyfodiad#15:23 A godant yn ei Ddyfodiad. Golyga Parousia, presennoldeb, yna, dyfodiad. ef. 24Yna y diwedd, pa bryd bynnag y rhoddo efe i fyny y deyrnas#15:24 Ei deyrnas gyfryngol, i'w gwahaniaethu oddiwrth y deyrnas i'r hon ‘ni bydd diwedd’ (Luc 1:33). i Dduw#15:24 Dau enw yn dangos perthynas Crist â Duw. a'r Tâd#15:24 Dau enw yn dangos perthynas Crist â Duw., pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth, a phob awdurdod a gallu#15:24 Nid yn gymmaint alluoedd daearol a gelynion anweledig ac ysprydol (Rhuf 8:38; Col 1:13, 16; 2:15; Eph 2:2; 6:11, 12).; 25canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo#15:25 Sef, Crist ac nid Duw. ei holl elynion dan ei draed. 26Y gelyn diweddaf a ddiddymmir yw Angau#15:26 Rhai a ddarllenant, ‘Y gelyn olaf a ddiddymmir, sef yr angau, canys pob peth a ddarostyngodd efe dan ei draed ef,’ sef, dan draed angau; ond nid yw hyn yn cyduno â'r hyn a ganlyn.. 27Canys pob peth a ddarostyngodd efe dan ei draed ef#15:27 Salm 8:6. Yn yr Hen Destament dywedir hyn am ddyn, ond syrthiodd efe, ac yn y T.N. cymhwysir y dywediad at ‘y dyn Crist Iesu’ (Eph 1:22; Heb 2:8): a phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw y gadewir allan#15:27 Ektos, y tu allan, gan eithro. yr hwn#15:27 Sef, Duw ei hun. a ddarostyngodd bob peth iddo. 28A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun#15:28 Hefyd א A; gad. B D E F G. a ddarostyngir#15:28 O'i wir fodd. I hyn y daeth, nid i ennill teyrnas iddo ei hun ond i'w Dâd, ac wedi gorphen ei waith prynedigol, a gorchfygu pob gelyn, efe a gyflwyna ei eglwys, i'r hon y mae pob peth yn etifeddiaeth, i'w Dâd. i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll#15:28 Nid y Tâd fel y cyfryw, ond Duw yng nghyflawnder ei fodolaeth, y Tâd, ffynnonnell pob peth ynddo ei hun ac yn y bydysawd, y Mab yn ei ddadguddio, a'r Yspryd Glân yn cyfrannu ei ddylanwadau. Yr oedd y cyflawnder hwn yn trigo yng Nghrist, ac yr ydym ninnau i dderbyn o'i gyflawnder ef, oll yn oll. Bydd Duw yn bob peth ym mhob un. Fel yr oedd Crist, felly y bydd ei saint, yn oruchwylwyr rhydd ac ufudd, yn meddiannu ei sancteiddrwydd, wedi eu llenwi a'i gariad, yn ddeonglwyr o'i ddoethineb. Trwy eu llanw hwy y lleinw Duw bob peth. Bydd ei lawnder ym mhob un. Ni fydd dim yn un aelod o'r gymdeithas ogoneddedig na fydd yn cael ei dreiddio gan Dduw, fel y deil y diamond belydrau yr haul. Y mae yr ‘oll’ olaf yn y rhyw gwrrywaidd, neu bersonnol. Llefara yr Apostol am ‘y Greadigaeth newydd’ ysprydol. “Fel y byddont hwythau un ynom ni” (Ioan 17:21)..
Yr Adgyfodiad yn gysson â hunan‐aberth.
29Os amgen beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw#15:29 Y mae o leiaf 30 o esboniadau o'r ymadrodd dyrys. Y canlynol yw y prif farnau: (1) personnau yn ymostwng i gael eu bedyddio dros berthynasau neu gyfeillion oedd wedi marw, gan feddwl fod hyn o ryw les iddynt. Ni edrychai Paul ar hyn gyda chymmeradwyaeth; (2) yn ol yr esbonwyr Groegaidd, y mae ‘y meirw’ yn gyfartal i ‘adgyfodiad o feirw,’ a bedydd yn arddangosiad o grediniaeth yn yr Adgyfodiad (Chrysostom); (3) bedydd o ddyoddefaint a threialon trwy yr hwn yr oedd dysgyblion ffyddlon a gwrol Crist yn myned; bedydd ‘o waed,’ bedydd y merthyr. Defnyddir y gair gan Grist am dano ei hun (Luc 12:50), ac am ei ganlynwyr (Marc 10:38). Y mae yr esboniad hwn mewn cydgordiad a'r hyn a ganlyn, ‘Paham yr ydym ninnau mewn perygl?’, os y meirw ni chyfodir o gwbl? paham hefyd y bedyddir hwy drostynt#15:29 Drostynt, א A B D E F G Brnd.; y meirw, Test. Derb.? 30Paham hefyd yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? 31Yr wyf yn ardystio#15:31 Defnyddir nê yn y Groeg am lw a gymmerid yn y llysoedd, &c., megys nê Dia, ‘trwy, yn enw Jwpiter.’ Cymmerai yr Apostol lw yn enw ei ymffrost yn y Corinthiaid, ei fod yn marw yn ddyddiol. yn enw fy ymffrost ynoch#15:31 Llyth., ‘myn eich ymffrost,’ hynny yw, ‘yr ydych yn achos ymffrost neu orfoledd i mi.’, frodyr, yr hwn sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yr wyf yn marw beunydd. 32Os yn ol dull dyn#15:32 Llyth., Os yn ol dyn, o safbwynt dynol yn unig; hynny yw, ‘os nad oedd egwyddor a chymhellion uwch yn fy ysgogi na chymhellion yr ymladdwr,’ &c. yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus#15:32 Yn ol y mwyrif o esbonwyr, llefara Paul yn ffugyrol; er hynny, y mae llawer i'w ddweyd dros gymmeryd y dywediad yn llythyrennol. Gweler Act 19:31., pa leshâd sydd i mi? Oni chyfodir y meirw#15:32 Rhai a gyssylltant y frawddeg hon â'r un flaenorol, ‘Pa leshâd i mi, os na chyfodir y meirw?’, bwyttâwn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym#15:32 Dyfyniad o'r LXX. (Es 22:13). 33Na cham-arweinier chwi: y mae cwmpeini drwg yn llygru moesau#15:33 Neu, natur, tueddfryd. Y mae yr ymadrodd hwn yn Menander, yr hwn fu farw 291 C.C. da. 34Deffrowch#15:34 Deffrowch i sobrwydd. ‘Deffrowch o gwsg meddwdod,’ ‘yn gyfiawn,’ yn ddifrifol. yn gyfiawn, ac na phechwch; canys nid oes gan rai wybodaeth o Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn llefaru.
Yr Adgyfodiad a chorph yr Adgyfodiad.
35Eithr dywed rhyw un, Pa fodd y codir y meirw? ac a pha fath gorph y deuant? 36O ddyn anneallus, yr hyn yr wyt ti yn ei hau ni fywhêir oni bydd farw. 37A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, ond gronyn noeth, efallai o wenith, neu ryw un o'r hadau eraill; 38eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd efe, ac i bob un o'r hadau gorph o'i eiddo ei hun. 39Nid yw pob cnawd yr un cnawd; eithr un yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, ac arall yw cnawd adar, ac arall yw cnawd pysgod#15:39 Darllena א A B D adar o flaen pysgod.. 40Y mae hefyd gyrph nefol#15:40 Nid angelion (De Wette, Meyer); ond cyfeiria Paul at y bydoedd gweledig uwchben a'u trigolion. Nid yw y gair ‘cyrph’ yn gyfyngedig i fodau byw (37, 38). a chyrph daearol; ond gwahanol yw gogoniant y rhai nefol, a gwahanol#15:40 Hetera yw y gair yma, yr hwn a ddynoda wahaniaeth arbennig; arall (allê) a ddynoda wahaniaeth llai, fel yn adnodau 39 a 41. yw gogoniant y rhai daearol. 41Un yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lleuad, ac arall yw gogoniant y sêr; canys y mae seren yn gwahaniaethu oddiwrth seren mewn gogoniant. 42Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth#15:42 Aphtharsia, anllygredigaeth, parhad heb ddadfeilio, anfarwoldeb (Rhuf 2:7; 2 Tim 1:10), purdeb tryloew (Eph 6:24).; 43heuir#15:43 Tebygol y llefara Paul am y corph fel y cleddir ef. Rhai a farnant fod y cyntaf, ‘llygredig,’ yn cyfeirio at ei dranc; yr ail, ‘gwendid,’ at ei enedigaeth; y trydydd, ‘anianol,’ at ei natur, fel yn cael ei fywiogi a'i ysgogi gan egwyddor y bywyd anifeilaidd (psuchê). mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu; 44heuir yn gorph anianol#15:44 Psuchikos, anianol, naturiol, eneidiol (mewn cyferbyniaeth i ysprydol). Dengys y bywyd a gyssyllta dyn â'r byd hwn, a'i dyg i gyffyrddiad â'r materol a'r teimladwy. Anhawdd cael gair priodol yn y Gymraeg., cyfodir yn gorph ysprydol.Os#15:44 Os א A B C D Brnd. oes corph anianol, y mae hefyd gorph ysprydol. 45Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig#15:45 Gen 2:7, LXX., Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid#15:45 Yn ddyn byw, gan feddiannu enaid rhesymmol a chorph cyfluniol. byw, a'r Adda#15:45 Gelwir Crist yn Adda fel Pen hiliogaeth newydd, fel yr oedd Adda yn ben yr hen. diweddaf yn yspryd#15:45 Yr hwn sydd yn cyfaddasu dyn i ddal cyfrinach â'r ysprydol a'r Dwyfol. Y mae Crist yn cyfrannu bywyd (Ioan 1:4; 3:36; 5:21; 6:63). Efe yw “y ffynnon yn tarddu i fywyd tragywyddol” (Ioan 4:14). “Yr enaid yw sedd bywyd, yr yspryd yw ffynnonnell bywyd.” Pa bryd y daeth Crist yn Yspryd bywhâol? Dywed rhai, yn yr Adgyfodiad; eraill, yn ei Esgyniad; ond rhaid edrych arno mewn ffordd helaethach. Yn undeb y ddwy natur, cyfansoddwyd Ef yn yspryd yn bywhau. Yr oedd Efe felly hyd y nod yn ei gorph anianol. yn bywhâu. 46Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol, ac wedi hynny, yr ysprydol. 47Y dyn cyntaf sydd o'r ddaear, yn ddaearol#15:47 Chous, llwch, daear laes (Marc 6:11; Gen 2:7; LXX). ‘Y dyn daearol, o lwch y ddaear y gwnaed ef.’ Nid oes gan yr Apostol derm cyferbyniol am gorph ysprydol Crist.; yr ail ddyn#15:47 Yr Arglwydd K L; gad. א B C D Brnd. sydd o'r nef. 48Yn y cyfryw fodd ag yw y daearol#15:48 Sef, Adda., yn y cyfryw fodd hefyd y mae y rhai daearol; ac yn y cyfryw fodd ag yw y nefol#15:48 Crist., yn y cyfryw fodd hefyd y mae y nefol; 49ac megys y dygasom ddelw y daearol, bydded#15:49 Bydded i ni ddwyn א A C D F G; ni a ddygwn B. i ni ddwyn#15:49 Mwy naturiol fuasai darllen ‘ni a ddygwn’ (phorêsomen), ond y mae tystiolaeth y llaw‐ysgrifau mor gryf dros ffurf arall, fel nas gallwn ei hanwybyddu (phoresômen), (gyda o hir). hefyd ddelw y nefol.
Trawsffurfiad y corph anianol yn anhebgorol.
50Eithr hyn meddaf, frodyr, na ddichon cig a gwaed#15:50 Sef y sylweddau sydd yn cyfansoddi y corph presennol; cig, y sylwedd, gwaed ei egwyddor fywydol. Ni ddefnyddir ‘cig a gwaed’ a ‘gwaed’ yn yr ystyr moesol, fel ‘cnawd’ (sarx) wrtho ei hun. etifeddu teyrnas Dduw, ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. 51Wele! yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch#15:51 Wirionedd dadguddiedig.: Ni#15:51 Y mae yn y prif‐ysgrifau dri darlleniad: (1) fel yn y testyn B E K L; (2) ‘ni a hunwn oll, ond ni newidir ni oll’ א A C F G; (3) ‘ni a gyfodir oll, ond ni chyfnewidir ni oll’ D. Ond gwrthddywedir (2) a (3) yn adnod 52. hunwn ni oll, eithr ni oll a newidir, 52mewn moment#15:52 Atomos, y mesur lleiaf o amser, mor fyr fel nas gellir ei rannu., mewn tarawiad#15:52 Neu, symmudiad. llygad, wrth yr udgorn#15:52 Term ffugyrol. Defnyddid yr udgorn i alw'r bobl ynghyd (Num 10:2–10). Gelwir ef ‘llais yr archangel’ (1 Thess 4:16). diweddaf; canys udgorn#15:52 Llyth., ‘efe a udgana,’ sef, yr hwn oedd i udganu. a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir; 53canys rhaid i'r llygradwy hwn ymwisgo#15:53 Gweler 2 Cor 5:2–4. âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb. 54A phan ddarffo i'r llygradwy hwn ymwisgo âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb, yna y daw i ben yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, Llyngcwyd angau mewn buddugoliaeth#15:54 Dyfyniad o Es 25:8. Darllena y LXX, “Angau oedd gryf ac a lyngcwyd.” Cyfieitha Paul o'r Hebraeg, yr hwn yw, “Efe a ddinystria angau am byth.” Y mae y gair Hebraeg netsach, yr hwn a gyfieithir yma yn ‘fuddugoliaeth,’ yn golygu yr ‘yni tufewnol perffaith’ yr hwn sydd yn cau allan am byth bob posibilrwydd o ddirywiad allanol; felly saif am anfarwoldeb tragywyddol. “Angau a lyngcir i fyny mewn bywyd diddarfod.” Mewn (llyth. i.) fuddugoliaeth; mae llyngciad angau yn terfynnu mewn buddugoliaeth ogoneddus.. 55Pa le, O angau, dy fuddugoliaeth#15:55 Felly א B C Brnd.; colyn … buddugoliaeth D F G.? Pa le, O angau#15:55 א B C D F G Brnd.; Hades (uffern, bedd), K L. Nid yw Paul byth yn defnyddio Hades; defnyddia abussos, ‘dyfnder’ (Rhuf 10:7)., dy#15:55 Felly א B C Brnd.; colyn … buddugoliaeth D F G. golyn#15:55 O Hosea 13:14. Darllena y gwreiddiol, “Byddaf bläau i ti, O angau; byddaf ddinystr i ti, y bedd.”? 56Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw y Ddeddf; 57ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 58Am hynny, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, a diysgog, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 15: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.