1 Corinthiaid 14
14
Rhagoriaeth prophwydoliaeth ar dafodau dyeithr.
1Dylynwch#14:1 Diôkô, erlyn, dylyn er dal, ceisio cyrhaedd. gariad, a byddwch eiddigeddus#14:1 Gweler 12:31. Dengys ‘dylyn’ ddyfal‐barhad, ‘byddwch eiddigus,’ yr awydd angerddol i feddiannu. am ddoniau ysprydol, ond yn hytrach fel y prophwydoch. 2Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall#14:2 Llyth., gwrandaw.; ond yn yr yspryd#14:2 Sef, yn ei yspryd ei hun. y mae yn llefaru dirgeledigaethau. 3Ond yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, annogaeth, a dyddanwch#14:3 Paramuthia (yma yn unig yn y T.N.), paramuthion (Phil 2:1); ‘esmwytho'r glust â gair tyner a thawel,’ yna cysur, dyddanwch.. 4Yr hwn sydd yn llefaru â thafod sydd yn adeiladu ei hunan, ond yr hwn sydd yn prophwydo sydd yn adeiladu yr eglwys. 5Yn awr mi a ewyllysiwn i'r oll o honoch lefaru â thafodau, ond yn hytrach brophwydo o honoch: a mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddieithr iddo ddeongli#14:5 Yn gyflawn. Dyna rym dia yn y ferf., fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth. 6Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa leshâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych mewn ffordd o ddadguddiad, neu wybodaeth, neu brophwydoliaeth, neu athrawiaeth#14:6 Dadguddiad a gwybodaeth yw y doniau Dwyfol tufewnol; prophwydoliaeth ac athrawiaeth (sef addysgiaeth) yw y moddion allanol i'w cyfleu i ddynion. Dadguddiad uniongyrchol a wna'r prophwyd, a gwybodaeth gywir (ar ol astudiaeth fanol) a wna'r athraw.. 7Hyd y nod pethau heb fywyd, wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn#14:7 Pibell a thelyn (offeryn gwynt ac offeryn tannau) oedd y ddau brif offeryn a ddefnyddid ar adegau y gwyliau crefyddol yn Groeg., os na roddant wahaniaeth yn y seiniau#14:7 Phthonggos, sain gerddorol (Rhuf 10:18)., pa fodd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn? 8Canys os yr udgorn#14:8 Yn briodol, udgorn rhyfel. hefyd a rydd sain ansicr, pwy a ymbarotoa i ryfel? 9Felly chwithau hefyd, trwy lefaru â thafod#14:9 Nid y tafod fel cyfrwng ymadrodd, ond iaith ddyeithr., os na thraethwch#14:9 Llyth., roddwch. ymadrodd hawdd ei ddeall#14:9 Eusemos (yma yn unig yn y T.N.), wedi ei nodi allan yn dda, felly eglur, amlwg, pennodol., pa fodd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. 10Y mae, debygir, gynnifer o rywogaethau o leisiau yn y byd, ac nid oes un#14:10 O honynt, gad. א A B D F G Brnd. yn ddilafar#14:10 Llyth., ‘ac nid oes un yn ddilais.’ Hynny yw, y mae gan bob rhywogaeth ei hiaith ei hun, ac nid oes un o'r ieithoedd hyn heb ei harwyddocâd a bod yn ddealladwy.. 11Os nad wyf gan hynny yn gwybod ystyr#14:11 Llyth., grym. y llais, mi a fyddaf i'r hwn sydd yn llefaru yn farbariad#14:11 Defnyddir y gair yn ei arwyddocâd gwreiddiol am un a lefarai iaith annealledig. Defnyddiai y Groegiaid a'r Aiphtiaid ef am genhedloedd tu allan i'w cylch hwy. Yn ddiweddarach, dynion anwar ac anniwylliedig., a'r hwn sydd yn llefaru fydd i minnau#14:11 Llyth., ynof fi, yn fy marn i, neu, yn ei berthynas a mi. yn farbariad#14:11 Defnyddir y gair yn ei arwyddocâd gwreiddiol am un a lefarai iaith annealledig. Defnyddiai y Groegiaid a'r Aiphtiaid ef am genhedloedd tu allan i'w cylch hwy. Yn ddiweddarach, dynion anwar ac anniwylliedig.. 12Felly chwithau hefyd, gan eich bod yn awyddus am ddoniau ysprydol#14:12 Llyth., am ysprydoedd. Saif yma am yr amrywiol amlygiadau o ddylanwad yr Yspryd., ceisiwch er adeiladaeth yr eglwys i ymhelaethu ynddynt. 13Gan hynny, yr hwn sydd yn llefaru â thafod, gweddïed ar iddo allu deongli. 14Canys os gweddïaf â thafod, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. 15Beth gan hynny? mi a#14:15 A weddiaf B K L; bydded i mi weddio א A D E F G. weddïaf â'r yspryd, ac a#14:15 A weddiaf א B K L; bydded i mi weddio A D E F G. weddïaf â'r deall hefyd; canaf fawl â'r yspryd, a chanaf fawl#14:15 Psallô, o psaô, ‘cyffwrdd â'r tannau â blaen y bysedd’; felly yn llythyrennol, “Mi a ganaf y delyn,” &c., yna, canu salmau, canu mawl (Rhuf 15:9; Eph 5:19; Iago 5:13). â'r deall hefyd. 16Canys os bendithi â'r yspryd, pa fodd y dywed yr hwn sydd yn llenwi lle yr annghyfarwydd#14:16 Idiotes (yn Act 4:13 yn unig tu allan y Corinthiaid). Dynoda ddyn cyffredin, dinod, annghyhoedd, diswydd, annysgedig, yna, un anaddas i fywyd cyhoeddus; ac yn ddiweddaraf, un yn ddiffygiol yn ei gynneddfau. Dynoda yma un yn annghyfarwydd â thafodau dyeithr. yr Amen#14:16 Amen y gynnulleidfa, yr hon fabwysiada y weddi unigol fel ei heiddo ei hun. Dynoda Jerome fod Amen y bobl fel swn dyfroedd lawer neu daran gref. ar dy roddi diolch di, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? 17Canys tydi yn ddiau wyt yn diolch yn dda, ond y llall nid adeiledir. 18Yr wyf yn diolch i Dduw#14:18 Fy; gad. א A B D Brnd. fy mod i yn llefaru â#14:18 Tafod א A D F G; tafodau B L. thafod yn fwy na chwi oll: 19ond yn yr eglwys ewyllysiaf yn hytrach lefaru pum gair â'm deall, fel y dysgwyf#14:19 Katechêo, lleisio allan, er addysgu (gweler Luc 1:4). eraill hefyd, na myrddiynau o eiriau â thafod. 20O frodyr, na fyddwch blant#14:20 Llyth., fechgynach. mewn meddwl#14:20 Phrênes (yma yn ynig yn y T.N). Gwahaniaethir ef oddiwrth nous ‘y deall,’ yr hwn a bwysleisia y meddwl yn ei agwedd sylwgar, tra y golyga phrênês (neu phrên) y meddwl yn ei agwedd fyfyrgar (reflective)., eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn meddwl#14:20 Phrênes (yma yn ynig yn y T.N). Gwahaniaethir ef oddiwrth nous ‘y deall,’ yr hwn a bwysleisia y meddwl yn ei agwedd sylwgar, tra y golyga phrênês (neu phrên) y meddwl yn ei agwedd fyfyrgar (reflective)., byddwch ddynion addfed#14:20 Teleioi, rhai wedi dyfod i'w llawn dwf, yna cyflawn, perffaith (gweler 2:6; 3:1; 13:10, 11).. 21Yn y Ddeddf#14:21 Yma, fel yn achlysurol mewn mannau eraill (Rhuf 3:19), yr Hen Destament. Y mae y dyfyniad o Esaia 28:11, 12, heb fod yn hollol yr un peth â'r Hebraeg na'r LXX. y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai o dafodau dyeithr, a thrwy wefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd y nod felly ni'm gwrandawant#14:21 Pwynt y dyfyniad yw fod Duw wedi danfon y goresgynydd gormesol i siarad â'i hen bobl mewn iaith nas gallent ei deall fel cosp am eu gwrthryfelgarwch. Nid oedd y Corinthiaid wedi derbyn y Dadguddiad yn ei eglurdeb a'i symlrwydd fel y dylasent., medd yr Arglwydd. 22Felly, tafodau ydynt er arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai digred; eithr prophwydoliaeth, nid i'r rhai digred, ond i'r rhai sydd yn credu. 23Gan hynny, os daw yr eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod o rai annghyfarwydd neu ddigred i mewn, oni ddywedant eich bod allan o'ch pwyll? 24Eithr os prophwyda pawb, a dyfod o un digred neu annghyfarwydd i mewn, efe a argyhoeddir#14:24 Ar elegchô (gweler Ioan 16:8). “Efe a wneir yn ymwybodol o'i bechodau, gan bob un a esbonia gyfraith Duw.” gan bawb, gelwir ef i gyfrif#14:24 Ystyr anakrino yw holi (gweler 1 Cor 2:14, 15; 4:3, 4; 9:3; 10:25, 27). Y mae y gwirionedd fel y lleferir ef yn ei chwilio yn fanwl, y mae awel yr Yspryd yn ei nithio; y mae y weinidogaeth yn cyffroi ei gydwybod ac yn ei alw i gyfrif. gan bawb. 25Gwneir#14:25 Felly, gad. א A B D Brnd. dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly wedi syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddadgan,
Yn wir, y mae Duw yn eich plith.
26Beth yw gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un salm#14:26 O honoch D F G; gad. א A B Brnd., y mae ganddo athrawiaeth#14:26 Neu, addysgiaeth., y mae ganddo ddadguddiad, y mae ganddo dafod, y mae ganddo ddeongliad. 27Gwneler pob peth er adeiladaeth. Os llefara un â thafod, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a phob un yn ei dro#14:27 Ana meros, yn ei gylch. Ni olyga yr ymadrodd, atteb mewn gwrth-gan, un yn atteb y llall.; a deongled un. 28Eithr os na fydd deonglwr, tawed yn yr eglwys, a llefared wrtho ei hun ac wrth Dduw. 29A llefared y prophwydi, ddau neu dri, a barned y lleill#14:29 Nid y lleill o'r prophwydi, ond y gynnulleidfa oedd i farnu ‘ysprydoedd.’. 30Ac os dadguddir dim i un arall yn eistedd yno, tawed y cyntaf. 31Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac yr annoger pawb. 32Ac y mae ysprydoedd#14:32 Saif ‘ysprydoedd’ yma am gynhyrfiadau a dadguddiadau ysprydoledig. Nid yw y rhai hyn yn gwneyd i ffwrdd a hunan‐lywodraeth y prophwyd. Y mae y Diafol yn caethiwo ac yn difodi rhyddid; y mae Yspryd Duw yn rhyddhau ac yn dyrchafu. Y mae y Diafol yn meddiannu y dyn, ond nid yw dyn byth gymmaint ei hun a phan dan ddylanwad yr Yspryd. “Dy bobl ydynt ewyllysgar yn nydd dy nerth.”#14:32 Ysprydoedd א B A Brnd.; yspryd D F G. prophwydi yn ddarostyngedig i brophwydi. 33Canys nid yw Duw yn awdwr annhrefn#14:33 Akatasia (gweler Luc 21:9), ansefydlogrwydd, annghyafod, terfysg, cyffroad. ond tangnefedd.
Y Gwragedd yn yr Eglwysi.
34Fel yn holl eglwysi y saint#14:34 Cyssylltir y frawddeg, yn arferol, a diwedd yr adran ddiweddaf, ond y mae yn amlwg ei bod yn perthyn i'r hyn sydd yn dylyn. Eraill a ddarllenant, “Fel yn yr holl eglwysi, tawed gwragedd y saint,” &c., tawed y#14:34 Eich D F G; gad. א A B Brnd. gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniateir iddynt hwy lefaru; eithr bydded#14:34 Felly א A B Brnd.; bod yn ddarostyngedig D F G. iddynt fod yn ddarostyngedig, megys hefyd y dywed y Gyfraith#14:34 Gen 3:16.. 35Ac os ewyllysiant ddysgu dim, ymofynant â'u gwŷr eu hunain gartref; oblegyd cywilyddus yw i wraig#14:35 Wraig א A B Brnd.; wragedd D F G. lefaru yn yr eglwys#14:35 Yn y prif‐ysgrifau D E F G gosodir yr adnodau hyn ar ol adnod 40.. 36Ai oddiwrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai attoch chwi yn unig y daeth efe? 37Os tybia neb ei fod yn brophwyd, neu yn ysprydol#14:37 Hynny yw, yn ysprydoledig, wedi derbyn dawn ysprydol., cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, mai gorchymyn#14:37 Gorchymyn א A B; gorchymynion L. yr Arglwydd ydynt. 38Eithr os yw neb heb wybod, bydded heb wybod#14:38 Felly B L Tr. Al. Diw.; nid yw yn adnabyddus א A D Ti. WH. (Hynny yw, gwna Duw ei anwybyddu, ei wrthod).. 39Gan hynny, fy mrodyr, byddwch dra‐awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau. 40Eithr gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 14: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.