โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

1 Corinthiaid 13

13
Molawd Cariad
1Os llefaraf â thafodau dynion ac angelion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf#13:1 Llyth., yr wyf wedi myned yn efydd, &c. fel efydd yn seinio neu symbal yn clincian#13:1 Alalazô, defnyddir y gair weithiau am y floedd i'r gâd (pawb yn cydwaeddi alala); weithiau am ocheneidiau hiraeth (Marc 5:38).. 2Ac os oes gennyf brophwydoliaeth#13:2 Cyfunir yma y ‘prophwyd’ a'r ‘athraw.’, a gwybod o honof y dirgelion#13:2 Musteria, dirgelion dadguddiedig Iachawdwriaeth dyn (2:7; Rhuf 16:25). Dynoda y gair wirioneddau neu ffeithiau nas gallasai y meddwl dynol ddyfod o hyd iddynt o hono ei hun. oll a phob gwybodaeth#13:2 Cyfunir yma y ‘prophwyd’ a'r ‘athraw.’; ac os oes gennyf yr holl ffydd fel ag i symmud mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim. 3A phe porthwn#13:3 Psomizô, porthi (babanod, cleifion, &c.) trwy roddi tameidiau yn y genau. “Pe porthwn un ac un o'r tlodion â'm holl dda.” y tlodion â'm holl dda, ac os rhoddaf i fyny fy nghorph fel y'm llosger#13:3 Ymffrostiaf א A B WH.; llosger C D Brnd. ond WH. [Gwahaniaeth o un llythyren yn y gwreiddiol]., ac heb gariad gennyf, nid yw ddim lleshâd i mi. 4Y mae cariad#13:4 Y mae Cariad yn awr yn cael ei bersonnoli. yn hir‐ymaros#13:4 Hir‐oddefus, amyneddgar. Dynoda hir‐aros heb roddi ffordd i lid a dial., yn gymmwynasgar#13:4 Yma yn unig yn y T.N. Ystyr y ferf yw meddiannu teimlad caredig a dyngarol, un yn rhoddi ei hun at wasanaeth eraill. Dyoddef y drwg yw ‘hir‐ymaros’ a ‘gwneuthur y da’ sydd yn y ferf hon. Calon gynnes, gwên siriol, a llaw agored sydd gan Gariad.; cariad nid yw yn cenfigennu; cariad#13:4 Cariad א A C D; gad. B. nid yw yn dangos ei hun#13:4 Neu, ni ymffrostia. Y mae y ferf o wreiddyn ansicr, ond defnyddir hi am un rhodresgar, coegfalch, bostfawr., nid yw yn ymchwyddo#13:4 Gan hunan‐foddhâd., 5nid yw yn ymddwyn yn anweddaidd#13:5 Cariad yw y boneddwr sydd yn siampl o'r moesgarwch pennaf., nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir#13:5 ‘Ni rydd ffordd i dymher ddrwg,’ ‘Ni chynhyrfir i lid.’, nid yw yn gwneyd cyfrif o'r drwg#13:5 Nid yw yn cofnodi y cam a wneir, nac yn symio i fyny y drwg a ddyoddefa; ond y mae yn gorchfygu drygioni trwy ddaioni.; 6ni lawenycha mewn annghyfiawnder, ond cyd‐lawenycha â'r gwirionedd#13:6 Ymddygiad iawn, cyfiawnder, gonestrwydd, gwrthwynebydd annghyfiawnder.. 7Y mae yn goddef#13:7 Golyga y ferf stegô, cuddio, celu, a gall olygu yma ‘cuddio,’ esgusodi ffaeleddau pobl eraill; ond golyga cyd‐ddwyn, goddef yn y T.N. (9:12; 1 Thess 3:5). Ceidw allan ddigllonedd fel y ceidw y llong y dwfr allan a nen y tŷ y gwlaw. pob peth, yn credu pob peth, yn gobeithio pob peth, yn dal yn wrol#13:7 Hupomenô, aros neu ddal i fyny dan bwysau ac ymosodiadau, erledigaethau a gwrthwynebiadau lawer. dan bob peth. 8Cariad byth ni chwymp#13:8 Y mae yn dal ei dir. Cariad yn aros yw testyn yr adran hon. ‘Nid â yn ddirym’ (Rhuf 9:6). Yn Esaia 28:1, 4, defnyddir y gair am flodeuyn; ond blodeuyn yw Cariad na wywa ac na syrth.#13:8 Chwymp א A B C; chwymp ymaith D E F G.: eithr pa un bynnag ai prophwydoliaethau#13:8 Felly א C D; prophwydoliaeth A B., hwy a ddiddymmir#13:8 Katargeô. Defnyddir y ferf 25 o weithiau gan Paul. Dynoda ‘gweithio yn erbyn,’ yna, gwneyd i ffwrdd a, gosod terfyn i, diddymmu, dinystrio. Daw prophwydoliaethau, gwybodaeth, &c., i ben am fod eu gwaith wedi ei orphen.; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiddymmir#13:8 Katargeô. Defnyddir y ferf 25 o weithiau gan Paul. Dynoda ‘gweithio yn erbyn,’ yna, gwneyd i ffwrdd a, gosod terfyn i, diddymmu, dinystrio. Daw prophwydoliaethau, gwybodaeth, &c., i ben am fod eu gwaith wedi ei orphen.; 9canys o ran y gwyddom, ac o ran y prophwydwn; 10eithr pan fyddo'r perffaith wedi dyfod#13:10 Yn yr Ail Ddyfodiad., yr#13:10 Yna; gad. א A B D. hyn sydd o ran a ddiddymmir. 11Pan oeddwn faban#13:11 Nepios ‘heb lefaru,’ yna, baban. Defnyddir brephos hefyd am faban, yr hwn ni ddefnyddir yn ffugyrol fel nepios., fel baban y llefarwn#13:11 Y mae yma gyfeiriad at ‘dafodau,’ ‘prophwydoliaeth,’ a ‘gwybodaeth’ (adn 9–11). Nid yw ‘y tafodau’ yn y rhai yr ymffrostiai y Corinthiaid ond fel siaradach aneglur y baban, ‘y brophwydoliaeth’ neu y weledigaeth ond fel ei ymdeimlad gwibiog a disylwedd; a'r ‘wybodaeth’ yr hon a ymdrechai ymdreiddio i ddyfnder dirgelion Duw ond amgyffrediad gwanaidd y baban dibrofiad., fel baban y syniwn#13:11 Y mae yma gyfeiriad at ‘dafodau,’ ‘prophwydoliaeth,’ a ‘gwybodaeth’ (adn 9–11). Nid yw ‘y tafodau’ yn y rhai yr ymffrostiai y Corinthiaid ond fel siaradach aneglur y baban, ‘y brophwydoliaeth’ neu y weledigaeth ond fel ei ymdeimlad gwibiog a disylwedd; a'r ‘wybodaeth’ yr hon a ymdrechai ymdreiddio i ddyfnder dirgelion Duw ond amgyffrediad gwanaidd y baban dibrofiad., fel baban yr ymresymmwn#13:11 Y mae yma gyfeiriad at ‘dafodau,’ ‘prophwydoliaeth,’ a ‘gwybodaeth’ (adn 9–11). Nid yw ‘y tafodau’ yn y rhai yr ymffrostiai y Corinthiaid ond fel siaradach aneglur y baban, ‘y brophwydoliaeth’ neu y weledigaeth ond fel ei ymdeimlad gwibiog a disylwedd; a'r ‘wybodaeth’ yr hon a ymdrechai ymdreiddio i ddyfnder dirgelion Duw ond amgyffrediad gwanaidd y baban dibrofiad.; ond pan ddaethum yn ddyn, diddymmais bethau baban. 12Canys gweled yr ydym yn awr trwy#13:12 Ymddangosai y llun tu ol i'r drych, felly defnyddir y gair ‘trwy.’ ddrych, mewn ffurf aneglur#13:12 Yr oedd y drychau cyntefig yn ammherffaith, ac ni fyddai y llun a gynnyrchid ond aneglur. Golyga ainigma (S. enigma), ymadrodd tywyll ac anhawdd ei ddeall, fel dywediadau aneglur offeiriaid paganaidd. Efallai y defnyddir y gair yma, nid am ymadrodd aneglur, ond am ffurf aneglur y gwrthrych yn y drych. Y mae yma gyfeiriad at Num 12:6–8.; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr wyf yn adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf#13:12 Hoff air yr Apostol. Golyga epiginôskô, adnabod neu gwybod yn gyflawn. fel y'm hadnabuwyd#13:12 Hoff air yr Apostol. Golyga epiginôskô, adnabod neu gwybod yn gyflawn.. 13Ac yn awr y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a'r mwyaf#13:13 Llyth., mwy na'r rhai hyn. o'r rhai hyn yw cariad.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

1 Corinthiaid 13: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้