1 Corinthiaid 12
12
Doniau Ysprydol, eu cyfraniad a'u cymmeriad.
1Ac am ddoniau#12:1 Neu, am bersonnau ysprydoledig (llyth., am yr ysprydol), ond llefaru am y pethau y mae yr Apostol (14:1). ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod. 2Chwi a wyddoch pan#12:2 Pan (hoti hote) א A B C D Brnd. oeddych genhedloedd, arweinid chwi ymaith at yr eilunod mudion, ym mha fodd bynnag y'ch arweinid#12:2 Hynny yw, pa bryd bynnag a pha fodd bynnag y'ch arweinid, tywysid chwi at eilunod, y rhai nis gallent lefaru gair i'ch cyfarwyddo. Yr arweinydd oedd Satan.. 3Gan hynny, yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru yn Yspryd Duw yn dywedyd, Anathema#12:3 Neu, ‘Melldigedig yw yr Iesu,’ ‘esgymun‐beth,’ wedi ei ddiofrydu, mewn ystyr drwg, i fod yn aberth ac yn felldith. Gweler ar Luc 21:5. Yn Paul, defnyddir y gair yn yr ystyr hwn. Saif y gair yma am wrthodiad o Grist, a'r ymadrodd, ‘Iesu sydd Arglwydd,’ am broffes o Gristionogaeth. Dywedir Iesu oblegyd y person hanesyddol a wrthodir neu a ufuddheir iddo. Llyth., “Iesu, Melldigedig!” “Iesu, Arglwydd!” yw'r Iesu; ac ni all neb ddywedyd, Iesu sydd Arglwydd, ond yn yr Yspryd Glân. 4Ac y mae gwahanol fathau#12:4 Llyth., amrywiaethau. Golyga y gair hefyd gyfraniad, dosbarthiad (adnod 11). o ddoniau#12:4 Charismata, gair neilltuol i'r T.N. yn golygu doniau neu rasusau arbennig i unigolion, megys llefaru â thafodau, prophwydo, deongli, &c., eithr yr un Yspryd#12:4 Yr Yspryd yw rhoddwr y doniau, i Iesu Grist y mae y gwasanaeth, ond Duw yn unig, ffynnonnell pob gallu, a gynnyrcha yr effaith dyladwy. “Paul a blannodd,” &c.; 5ac y mae gwahanol fathau#12:5 Llyth., amrywiaethau. Golyga y gair hefyd gyfraniad, dosbarthiad (adnod 11). o weinidogaethau#12:5 Yn y T.N. yn fynych am wasanaeth ysprydol o gymmeriad swyddogol., eithr yr un Arglwydd; 6ac y mae gwahanol fathau#12:6 Llyth., amrywiaethau. Golyga y gair hefyd gyfraniad, dosbarthiad (adnod 11). o weithrediadau#12:6 Energemata, ‘galluoedd ar waith,’ gallu wedi ei sylweddoli mewn gweithredoedd ac effeithiau amlwg., ond yr un Duw#12:6 Yr Yspryd yw rhoddwr y doniau, i Iesu Grist y mae y gwasanaeth, ond Duw yn unig, ffynnonnell pob gallu, a gynnyrcha yr effaith dyladwy. “Paul a blannodd,” &c., yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb#12:6 Fel Rhoddwr y doniau a Chynnyrchydd yr effeithiau.. 7Ac i bob un y rhoddir eglurhâd yr Yspryd er lleshâd. 8Canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddir ymadrodd doethineb#12:8 Doethineb, y gallu cynhennid i ddeall a chymhwyso egwyddorion mawrion a sylfaenol crefydd; amgyffrediad uniongyrchol, yng ngoleuni yr Yspryd, o gynllun a bwriadau Duw yn y Brynedigaeth sydd yng Nghrist. Gwybodaeth, ffrwyth myfyrdod ac amgyffrediad o ffeithiau; cynnyrch y deall, yr hwn a sylfaena egwyddorion ar y ffeithiau a gasgla. Gwna doethineb y pregethwr, y prophwyd, a'r bugail; gwybodaeth, yr athraw a'r dysgawdwr. Daw doethineb yn uniongyrchol trwy yr Yspryd; rhaid gwneyd yr ymchwil am wybodaeth ar hyd llinellau goleuni yr Yspryd (‘yn ol yr un Yspryd’).; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd; 9i arall#12:9 Llyth., un gwahanol (heteros). Dywed rhai fod yma dri dosparth, (1) doethineb a gwybodaeth yn perthyn i'r deall, (2) y pum nesaf a enwir, ffydd, doniau i iachau, gweithrediadau gwyrthiau, prophwydoliaeth (‘gallu gwyrthiol mewn ymadrodd’), a dirnadaeth o ysprydoedd, yn dylanwadu ar yr ewyllys, (3) y ddau olaf, ‘tafodau’ a chyfieithiad tafodau yn dal perthynas a'r teimlad., ffydd#12:9 Nid ffydd achubol pob credadyn, ond y ffydd ddewr ac eithriadol a ddywed wrth fynydd o rwystrau, “Symmuder di,” ac a lwydda yn ei hamcan., yn yr un Yspryd; ac i arall, ddoniau i iachau, yn yr un Yspryd; 10ac i arall, alluoedd i wneuthur gwyrthiau#12:10 Llyth., gweithrediadau, nerthoedd.; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, ddirnadaeth#12:10 Galluoedd i wahaniaethu rhwng, i wahan‐farnu dywediadau a honnent fod yn ysprydoledig. o ysprydoedd; ac i arall#12:10 Llyth., un gwahanol (heteros). Dywed rhai fod yma dri dosparth, (1) doethineb a gwybodaeth yn perthyn i'r deall, (2) y pum nesaf a enwir, ffydd, doniau i iachau, gweithrediadau gwyrthiau, prophwydoliaeth (‘gallu gwyrthiol mewn ymadrodd’), a dirnadaeth o ysprydoedd, yn dylanwadu ar yr ewyllys, (3) y ddau olaf, ‘tafodau’ a chyfieithiad tafodau yn dal perthynas a'r teimlad., mathau o dafodau dyeithr; ac i arall ddeongliad tafodau dyeithr. 11A'r holl bethau hyn y mae yr un a'r unrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un ar ei ben ei hun fel yr ewyllysia.
Y Corph yn un, a'r Eglwys yn un.
12Canys fel y mae y corph yn un, a chanddo aelodau lawer, a holl aelodau y corph#12:12 Yr un; gad. א A B C Brnd., a hwy yn llawer, ydynt un corph; felly hefyd y mae Crist#12:12 Nid Crist fel yn sefyll am yr Eglwys Gristionogol, na Christ yn gymmaint fel Pen yr Eglwys, ond Crist mewn ystyr cyfriniol, fel y Bersonoliaeth sydd yn uno yr holl gredinwyr ynddo ei hun.. 13Canys yn wir mewn un Yspryd y bedyddiwyd ni oll i un corph, pa un bynnag ai Iuddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion, a nyni oll a wnaed i yfed#12:13 Potizô, gwneyd i yfed, diodi, dyfrhau (1 Cor 3:6, 8). Llyth., ‘a ni a wnaethpwyd i yfed un Yspryd.’ Nid oes yma gyfeiriad at Swper yr Arglwydd. O waed Crist ac nid o'r Yspryd y cyfrannoga y credadyn ynddi. Mewn bedydd, y mae yn marw i bechod er mwyn byw i Dduw, yna y mae yn yfed i mewn, yn dderbynfa i ddoniau a phwerau yr Yspryd. Y mae yn yfed i mewn yr Yspryd. o un#12:13 i (eis, yfed i); gad. א A B C D Brnd. Yspryd. 14Canys yn wir y corph nid yw un aelod, eithr llawer. 15Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph#12:15 Dadganiad ac nid gofyniad yw y frawddeg.. 16Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph#12:16 Dadganiad ac nid gofyniad yw y frawddeg.. 17Pe yr holl gorph fyddai lygad, pa le y byddai y clywed? Pe'r oll fyddai glywed, pa le y byddai yr arogliad? 18Ond yn awr Duw a osododd yr aelodau bob un o honynt yn y corph, fel yr ewyllysiodd efe. 19A phe bae yr oll yn un aelod, pa le y byddai y corph? 20Ond yn awr, llawer yw yr aelodau, eithr un corph. 21Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na thrachefn y pen wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. 22Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph sydd yn ymddangos yn wannach, ydynt angenrheidiol; 23a'r rhannau o'r corph a dybiwn ni eu bod yn llai anrhydeddus, y rhai hyn a wisgwn#12:23 Gweler Mat 27:28. âg anrhydedd helaethach; a'r rhannau anhardd a gänt harddwch helaethach; 24ond ar ein rhannau hardd#12:24 Euschemon (o ffurf deg), prydweddol, prydferth, golygus, gweddaidd. nid oes angen; eithr Duw a gyd‐dymherodd#12:24 Sugkerannumi, cymmysgu ynghyd, yna, uno, cyfaddasu. Yma ac yn Heb 4:2, “Am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd.” y corph, gan roddi anrhydedd helaethach i'r rhan oedd ddiffygiol#12:24 Llyth., bod ar ol, mewn eisieu.; 25fel na byddai rhwyg#12:25 Schisma, rhwyg, ymraniad, yna, annghydfod, sism. yn y corph, ond fel y byddai gan yr aelodau yr un gofal am eu gilydd. 26Ac os dyoddef a wna un aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐ddyoddef; neu os gogoneddir aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐lawenhau. 27A chwychwi ydych gorph Crist ac aelodau o ran#12:27 Apo merous, yn rhannol. ‘Yr ydych oll gyda'ch gilydd yn ffurfio corph Crist, ac fel unigolion yn ffurfio y gwahanol aelodau, pob un yn ei le.’. 28A rhai, yn wir, a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, Apostolion#12:28 Gan gynnwys Iago, Barnabas, Titus, Timotheus, Silas, &c.; yn ail, prophwydi#12:28 Nid yn gymmaint rai a ragfynegent ddygwyddiadau, ond rhai a welent yn ddwfn i feddyliau Duw, ac fel cyfryngau ei ddadguddiad a fynegent ei ewyllys oddiar safle uchel ysprydoliaeth.; yn drydydd, athrawon#12:28 Deonglwyr y gair, y rhai a'i cymhwysent yn ymarferol at amgylchiadau bywyd.; yna, galluoedd#12:28 Gweler adnod 10. gwyrthiol; yna, doniau#12:28 Gweler adnod 10. i iachâu; cynnorthwyon#12:28 O ferf a ddynoda ‘gymmeryd beichiau ar ddyn ei hun.’ Felly, cyfeiria efallai at ymwelwyr â'r tlodion a'r cleifion, cysurwyr gweddwon, noddwyr amddifaid, &c. Dyma ran o waith y Diaconiaid.; llywodraethau#12:28 Yma yn unig yn y T.N. Golyga y ferf, llywio, cyfeirio llong. Golyga y gair y rhai a weinyddent mewn llywodraeth eglwysig. Defnyddir y gair yn y LXX. am ‘gynghorion doeth’ (Diar 1:5; 20:21). Golyga yn bennaf yr esgobion neu henuriaid. Cymharer y gyfres yma ac Eph 4:11–16.; amryw fathau o dafodau. 29A yw pawb yn apostolion? a yw pawb yn brophwydi? a yw pawb yn athrawon? a yw pawb yn cyflawni#12:29 Llyth., galluoedd nerthol. gwyrthiau? 30A oes gan bawb ddoniau i iachâu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn deongli? 31Eithr byddwch eiddigeddus#12:31 Bod yn selog i gyrhaedd neu feddiannu, ceisio yn ddyfal, deisyf yn ddifrifol, dwys‐awyddu. am y doniau mwyaf#12:31 Mwyaf א A B C (llyth., mwy); gwell D F G. Ac ym mhellach, yr wyf yn dangos i chwi ffordd sydd dra‐rhagorol#12:31 Neu, ‘yr wyf yn dangos i chwi ffordd ragorach etto, sef ffordd cariad.’.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 12: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.