โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

1 Corinthiaid 11

11
1Byddwch efelychwyr o honof fi, megys yr wyf finnau hefyd o Grist#11:1 Dyma ddiweddglo naturiol yr adran ddiweddaf..
Safle ac ymddygiad y gwragedd.
2Ac yr wyf yn eich canmol,#11:2 Frodyr, D F G; gad. א A B C Brnd., gan eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal#11:2 Katechô, dàl yn dŷn, cadw yn hollol. y traddodiadau#11:2 Y gwirioneddau a'r ordinhadau. fel y traddodais hwynt i chwi. 3Eithr ewyllysiaf i chwi wybod mai pen pob gwr yw Crist#11:3 Pen pob dyn fel Creawdwr a Llywodraethwr; pob Cristion fel Pen yr holl Eglwys.; a phen y wraig yw y gwr; a phen Crist#11:3 Nid yn unig fel yr Iesu Ymgnawdoledig, ond fel yr Ail Berson Tragywyddol yn y Duwdod. yw Duw. 4Pob gwr yn gweddio ac yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben#11:4 Gweddiai yr Iuddewon a'r Rhufeiniaid a gorchudd ar eu pen, addolai y Groegiaid yn ddiorchudd. Yr oedd hyn ym marn Paul yn fwy cydnaws â safle uwchraddol y gwŷr., sydd yn dianrhydeddu ei ben; 5eithr pob gwraig yn gweddio ac yn prophwydo, a'i phen heb orchudd, sydd yn dianrhydeddu#11:5 Llyth., peri cywilydd, cywilyddio. ei phen: canys yr un peth yw â'r un sydd wedi ei heillio. 6Canys os na bydd gwraig yn gwisgo gorchudd#11:6 Anfynych yr ymddangosai gwragedd Groegaidd yn y cyhoedd oddigerth yn y gorymdeithiau ar adeg y gwleddoedd., cneifier hi hefyd; eithr os cywilyddus i wraig ei chneifio, neu ei heillio#11:6 Arwyddlun o ofid neu ddiraddiad (Es 7:20). Cawsai gwraig euog o odineb ei heillio., gwisged orchudd. 7Canys gwr yn wir ni ddylai wisgo gorchudd am ei ben, am ei fod o'r dechreu#11:7 Huparchôn, bod o'r cyntaf. yn ddelw#11:7 Am ei fod y creadur uwchaf yn y byd gweledig. a gogoniant#11:7 Am fod llywodraeth y byd yn ei law a'r oll yn ddarostyngedig iddo (Gen 1:26, 27), ac fel y cyfryw yn adlewyrchu gogoniant Duw. Duw; 8ond y wraig yw gogoniant y gwr; canys nid yw y gwr o'r wraig ond y wraig o'r gwr; 9canys ni chrewyd y gwr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gwr: 10o herwydd hyn dylai y wraig fod ganddi arwydd awdurdod#11:10 Llyth., fod ganddi awdurdod. Yn fynych defnyddir arwydd peth am y peth ei hun, megys coron am frenhiniaeth, cleddyf am ryfel. Weithiau defnyddir y peth ei hun am ei arwydd. Defnyddiai Ymherawdwyr Rhufain yn y Gorllewin y gair Regnum (‘brenhiniaeth,’ ‘teyrnas’) am y goron a wisgent. Dywed Diodorus am gerflun mam y brenhin Osimandias, “Y mae ganddi dair brenhiniaeth ar ei phen,” hynny yw, tair coron. Felly yma, dynoda awdurdod, yr arwydd a wisgid gan y wraig er dangos ei bod yn ddarostyngedig i awdurdod ei gwr. ar ei phen, o herwydd yr angelion#11:10 Llawer o wahanol esboniadau o'r ymadrodd dyrys. Credai yr Iuddewon fod yr angelion yn bresennol yn y gwasanaeth crefyddol (Es 6:1; Salm 138:1, 2). Nid ysprydion drwg a olygir, ac felly nid oes yma gyfeiriad at ‘feibion Duw’ a ‘merched dynion,’ Gen 6:2. Y mae yr angelion yn cymmeryd dyddordeb ac yn cael boddhâd yng ngwaith gras Duw yn ei bobl. Gweler Luc 15:7–10; Eph 3:10; 1 Cor 4:9; 1 Tim 5:21. Y maent fel Duw yn caru trefn a gweled pob un yn ei le. Cuddiant ei wynebau yn eu haddoliad (Es 6:2), ac y mae gwraig eofn, ddilednais, ddiorchudd, yn dramgwydd iddynt.. 11Er hynny, nid yw gwraig#11:11 Felly א A B C D, &c. Darllena y Test. Derb., gwr ar wahan â gwraig a gwraig ar wahan â gwr. ar wahân a gwr, na gwr ar wahân a gwraig#11:11 Felly א A B C D, &c. Darllena y Test. Derb., gwr ar wahan â gwraig a gwraig ar wahan â gwr., yn yr Arglwydd; 12canys yr un wedd ag y mae y wraig o'r gwr#11:12 Trwy greadigaeth (Gen 2:22)., felly hefyd y mae y gwr trwy y wraig#11:12 Trwy enedigaeth.; eithr pob peth sydd o Dduw. 13Bernwch chwi ynoch#11:13 Neu, yn eich mysg. eich hunain, ai gweddus yw i wraig weddio ar Dduw heb orchudd? 14Onid yw hyd y nod naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd gwr â gwallt#11:14 Komaô, gadael i'r gwallt dyfu, cael gwallt hir. hir, gwarthrudd yw iddo? 15Eithr os gwraig a fydd â gwallt hir, gogoniant yw iddi; canys ei hir‐wallt sydd wedi ei roddi yn lle gorchudd iddi. 16Ond os ymddengys neb yn ymryssongar, nid oes gennym ni y fath arfer#11:16 A chaniatau i fod yn ddiorchudd, yn enwedig pan yn gweddio, &c., na chan eglwys Dduw.
Afreoleidd‐dra yng nghadwraeth Swper yr Arglwydd.
17Eithr wrth orchymyn hyn#11:17 Ynghylch y gwragedd., nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd nid er gwell, ond er gwaeth; 18canys, yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys#11:18 Yn y gynnulleidfa. Ni ddefnyddir y gair Eglwys yn y T.N. am yr adeilad., yr wyf yn clywed fod#11:18 Fod o'r dechreu. ymraniadau#11:18 Schismatâ, ymrwygiadau, dosparthiadau gwrthwynebus. yn eich plith, ac mewn rhan yr wyf yn ei gredu. 19Canys rhaid fod hefyd bleidiau#11:19 Haireseis, gwrthbleidiau, sectau, fel canlyniad i'r ymrwygiadau. yn eich mysg, fel y delo y rhai cymmeradwy yn amlwg yn eich plith chwi. 20Pan fyddoch gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid yw i fwytta Swper yr Arglwydd#11:20 Kuriakos, ‘yn perthyn i'r Arglwydd.’ Defnyddir yr ansoddair am y Swper ac am Ddydd yr Arglwydd (Dad 1:10).; 21canys yn y bwytta, y mae pob un yn cymmeryd o flaen arall ei swper ei hun; ac y mae un yn newynog#11:21 Y tlodion yn bresennol. Rhai heb ddim, eraill wedi bwytta ac yfed i ormodedd., ac arall yn feddw. 22Yn wir, onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? neu ai dirmygu yr ydych eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn#11:22 Neu, a ganmolaf chwi? Yn hyn nid wyf yn eich canmol.? Nid wyf yn eich canmol. 23Canys myfi a dderbyniais gan#11:23 Yn debygol trwy ddadguddiad uniongyrchol. Cymharer 15:3; Gal 1:12. yr Arglwydd, yr hyn hefyd a draddodais i chwi: Bod i'r Arglwydd Iesu, yn y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara; 24ac wedi iddo ddiolch#11:24 Felly gelwid y Swper yn fynych Eucharist, ‘gwledd y Diolch.’, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd,#11:24 Cymmerwch, bwyttêwch (Test. Derb.) K L P; gad. א A B C D Brnd., Hwn yw fy nghorph#11:24 Gwel ar yr holl bwnc: Swper yr Arglwydd, gan yr Awdwr., yr hwn sydd#11:24 A dorrir K L P; gad. א A B C Brnd.; ysygir, D. drosoch: gwnewch hyn er côf am danaf#11:24 Ni cheir y geiriau hyn yn Matthew a Marc. Y mae cyfrif Paul o'r Swper yn debyg i eiddo Luc.. 25Yr un modd hefyd y cwpan, ar ol swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfammod#11:25 Diathêkê. Cyfammod yw ystyr y gair yn y T.N., heb hyd y nod eithrio Heb 9:15–17, er fod iddo yr ystyr o Destament mewn Groeg clasurol. Defnyddir ef yn y LXX tua 300 o weithiau am y gair Hebraeg Berith, cyfammod neu gytundeb. Newydd#11:25 Kainê. Defnyddir nea yn Heb 12:24. Golyga nea y diweddaraf, ieuengaf. Golyga kainê nid yn gymmaint fod y peth yn newydd o ran amser, ond ei fod yn newydd, ffres, yn cynnwys defnyddiau parhaol, elfennau na änt yn hen. Yr oedd y Cyfammod yn newydd, nid yn unig am ei fod yn ddiweddarach, ond am ei fod i barhau yn newydd. Felly y mae ystyr mwy nodedig i'r gair. Felly cawn ‘y Jerusalem Newydd’ (Dad 3:12), yr ‘enw newydd’ (Dad 2:17), ‘cân newydd’ (Dad 5:9), ‘nefoedd newydd a daear newydd’ (Dad 21:1). ‘Y mae y cwpan hwn yn arddangos y Cyfammod Newydd wedi ei selio â fy ngwaed.’ yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynnifer gwaith bynnag yr yfoch, er côf am danaf. 26Canys cynnifer gwaith bynnag y bwyttâoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan, y cyhoeddwch#11:26 Paraggellô yw y gair a ddefnyddir am bregethu yn 2:1; 9:4. Y mae y Swper yn bregeth. farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. 27O ganlyniad, pwy bynnag a fwyttâo y bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd mewn modd annheilwng, euog#11:27 Enochos, gweler Mat 5:21, 22. Y mae yn agored i gael ei gondemnio trwy ei ymddygiad annheilwng mewn perthynas i gorph a gwaed Crist. fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd. 28Eithr profed dyn ef ei hun, ac felly bwyttâed o'r bara, ac yfed o'r cwpan. 29Canys yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed#11:29 Yn annheilwng D E F G; gad. א A B C Brnd., sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, pan nad yw yn iawn‐farnu#11:29 Diakrinô, barnu rhwng, gwahaniaethu, eglur ganfod, iawn‐farnu; felly gwerthfawrogi, mawrhâu, parchu. y corph#11:29 Yr Arglwydd D E F G; gad. א A B C Brnd.. 30O herwydd hyn y mae llawer yn eich plith yn weiniaid ac yn dihoeni, ac amryw yn huno#11:30 Y mae yr ymadroddion yn dynodi afiechyd corphorol a marwolaeth. Yr oeddent yn pechu yn y corph trwy fwytta ac yfed yn ormodol, ac yn cael eu cospi yn y cyfryw.; 31ond pe iawn‐farnem#11:31 Diakrinô, barnu rhwng, gwahaniaethu, eglur ganfod, iawn‐farnu; felly gwerthfawrogi, mawrhâu, parchu. ein hunain, ni'n bernid. 32Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd y'n ceryddir#11:32 Neu, ‘Ond wrth gael ein barnu y'n ceryddir gan yr Arglwydd. Dynoda y gair ‘ceryddu’ yma ‘dwyn i fyny fel mab,’ hyfforddi, rhybuddio, ceryddu., fel na'n collfarner gyda'r byd. 33Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd. 34Os bydd newyn ar neb, bwyttâed yn ei dŷ, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

1 Corinthiaid 11: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้