Blas ar y Beibl 1Sample

Darlleniad: Genesis 28:10-15
Fy ffordd i neu ffordd Duw?
Wyt ti’n breuddwydio weithiau? Wyt ti’n cofio dy freuddwydion? Mae rhai breuddwydion yn gallu gwneud i ni deimlo’n annifyr. Mae rhai yn gallu’n dychryn ni (hunllefau), eraill yn bleserus, ac eraill eto yn hollol ddryslyd.
Mae’r darlleniad heddiw yn son am ddyn o’r enw Jacob yn breuddwydio. Roedd Duw yn siarad gydag o drwy’r freuddwyd. Mae’n dweud pethau fel “Bydda i gyda ti ... bydda i’n dy amddiffyn di ... wna i byth dy adael di.” Felly oedd hyn yn golygu fod Jacob yn ddyn da oedd wedi plesio Duw? Na, dim o gwbl! Petait ti’n darllen hanes Jacob yn Genesis 27 byddet ti’n cael sioc - tipyn o ‘fabi mam’ oedd o, a thwyllwr cyfrwys wnaeth dricio ei dad a’i frawd. Roedd wedi dwyn y fendith oedd i fod yn perthyn i’w frawd Esau. Doedd o ddim yn haeddu beth wnaeth Duw ei addo iddo o gwbl.
Ond yn ein darlleniad heddiw, mae Jacob ar ei ben ei hun. Mae o’n unig, wedi blino, falle’n ofnus ac yn cysgu yn yr awyr agored gyda dim byd ond carreg yn obennydd dan ei ben. Ydy, mae twyllo pobl eraill er mwyn cael beth rydyn ni eisiau yn gwneud rhywun yn berson unig. “Pawb drosto’i hun” ydy egwyddor bywyd i bobl felly. Maen nhw’n edrych dros eu hysgwyddau o hyd, rhag ofn y bydd rhywun arall yn cael y gorau arnyn nhw.
Ond mae Duw yn dod ac yn cynnig ffordd well - mae’n ein gwahodd ni i bwyso arno fo. Mae’r un dewis yn ein hwynebu ni i gyd. Naill ai ceisio rheoli’n bywydau ein hunain neu adael i Dduw ein harwain ni. Mae Duw wedi siarad hefo pob un ohonon ni drwy ei fab Iesu, y Meseia. Er nad ydyn ni wedi gwneud dim i haeddu hynny, mae’n cynnig bendith a bywyd go iawn i ni. Rhaid i ni ddewis rhwng mynd ein ffordd ein hunain a derbyn ei gynnig o: “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.” (Mathew 11:28)
Gweddïa y bydd Duw yn cael ei ffordd yn dy fywyd di heddiw.
Arfon Jones, beibl.net

Scripture
About this Plan

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.
Related Plans

Preparing for Outpouring

Noah Unedited

EquipHer Vol. 25: "Flawed Is the New Flawless"

Mission Trip Checkup: On Mission

The Parable of the Sower: 4-Day Video Bible Plan

From Overwhelmed to Anchored: A 5-Day Reset for Spirit-Led Women in Business

Finding Freedom: How God Leads From Rescue to Rest

Faith in the Process: Trusting God's Timing & Growth

Breath & Blueprint: Your Creative Awakening